BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn Cymorth Sero Net Lleoedd

Mae Energy Systems Catapult wedi datblygu Pecyn Cymorth Sero Net sy'n seiliedig ar Leoedd ar gyfer awdurdodau lleol, rhwydweithiau ynni, busnesau, cymunedau ac arloeswyr i gyflymu atebion di-garbon.

Mae pob lle lleol yn unigryw a bydd y strategaeth ddatgarboneiddio gywir yn dibynnu ar ddaearyddiaeth, mathau o adeiladau, seilwaith ynni, galw am ynni, adnoddau, cynlluniau twf trefol ac uchelgeisiau carbon isel y gymuned leol.

Mae'r pecyn cymorth yn helpu cwmnïau a chymunedau glân i ffynnu, gan gyfuno modelau system-gyfan blaengar, offer, canllawiau, astudiaethau achos a gwybodaeth i gefnogi twf busnesau carbon isel arloesol, denu buddsoddiad mewn seilwaith a chreu swyddi.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Local Energy System Modelling | Energy Systems Catapult

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)
 

 

Green Growth Pledge | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.