BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi am ddechrau busnes ond angen help arnoch i fireinio eich syniad?

Mae BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

Mae pob cwrs wedi'i greu gan arbenigwyr cymwys, profiadol i sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu ar-lein gorau posib. Gallwch ddefnyddio BOSS ar unrhyw ddyfais, boed yn ffôn symudol, yn ddyfais tabled neu'n gliniadur, unrhyw le 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.  

Os oes angen help arnoch 'Datblygu Eich Syniad Busnes' yna cofrestrwch ar BOSS lle gallwch gael mynediad i'r cwrs cwbl ddwyieithog.

Drwy gofrestru ar BOSS byddwch hefyd yn gallu cael mynediad at Wasanaethau Busnes Cymru eraill gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Arwyddion Sengl (SOC).

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.