BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Goleuo Deuodau Allyrru Golau (LED)

Mae golau’n rhywbeth y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Pa mor aml
fyddwn ni’n gofyn faint mae’n ei gostio i’w redeg a’i gynnal? A yw maint ac ansawdd y
golau’n briodol ar gyfer eich gweithle? 

Mae golau da’n hanfodol i greu amgylchedd gweithio iach ac effeithiol. Gall gweithle sydd
wedi’i oleuo’n braf a chyfforddus helpu i wella hwyliau a morâl y staff. Mae goleuo hefyd yn
gost ynni sylweddol, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar elw’r busnes. 

Amcangyfrifir fod golau’n defnyddio 20% o’r trydan a gynhyrchir yn y DU. Gellir gwneud arbedion ynni trwy wella cyfarpar, y prosesau cynnal a chadw ac arferion staff. Credir fod
hyd at 75% o osodiadau golau’n is na’r safonau dylunio cyfredol ar gyfer effeithlonrwydd.
Fodd bynnag, mae llawer o ffyrdd syml a rhad o leihau faint o ynni a ddefnyddir a’r costau
sy’n gysylltiedig â golau heb amharu ar iechyd, diogelwch na lefelau cyfforddusrwydd.

Mae’r arweiniad hwn yn egluro hanfodion golau LED; y cyfarpar, yr egwyddorion dylunio a sut mae mynd ati i osod ac ariannu golau LED yn eich gweithle. 

Beth yw LED

Mae deuod allyrru golau (LED) yn ddyfais electronig a all gymryd lle eich system oleuo bresennol. Mae LED wedi cael eu defnyddio fel ffynhonnell golau ers dros 40 o flynyddoedd, yn draddodiadol fel golau’r modd segur ar setiau teledu. Mae ystod goleuadau LED wedi datblygu’n gyflym yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gan eu gwneud yn ymarferol ar gyfer golau masnachol. 

Beth yw’r buddiannau?

Mae oes hir y lampau ac effeithlonrwydd LED yn golygu bod angen llawer llai o waith cynnal a chadw (newid lampau) a chostau rhedeg. Mae gan lampau LED oes o hyd at 50,000 awr ac maent ar hyn o bryd yn defnyddio 80% yn llai o drydan na lampau twngsten traddodiadol. 

Gan fod LED yn ffynonellau golau cryno iawn sy’n effeithiol i gyfeirio golau neu fel sbotlamp, sy’n aml yn bwysig mewn siopau. Fodd bynnag, mae ystod y dechnoleg LED sydd ar gael yn awr yn golygu y gellir eu defnyddio i amrywiaeth o ddibenion cyffredinol.

Gellir rhoi golau LED ymlaen ar unwaith, heb oedi na chryndod, a gellid eu cynnau a’u diffodd yn aml heb leihau eu hoes. Mae hyn yn golygu bod modd eu rheoli’n rhwydd sydd yn gallu lleihau costau rhedeg ymhellach (darllenwch ragor yn yr adran ar Reoli). 

Beth bynnag fo’r defnydd a wneir ohonynt, ni ddylai LED olygu bod yn rhaid cyfaddawdu ar egwyddorion dylunio a meini prawf goleuo da.

Pwysigrwydd golau 

Ansawdd golau artiffisial yw un o’r ffactorau pwysicaf sy’n dylanwadu ar berfformiad yn y gweithle. Mae tua 80% o’n mewnbwn synhwyraidd yn y gwaith yn dod trwy ein llygaid; nid yw cyfaddawdu ar ein golwg felly’n opsiwn wrth ystyried mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae’n hanfodol bod golau o ansawdd da ar gael a’i fod wedi’i ddylunio i gyd-fynd â’r tasgau sy’n cael eu gwneud ac sy’n parchu anghenion y staff. Ac nid effeithiau gweledol y golau’n unig sy’n rhaid eu cadw mewn cof; mae ymchwil diweddar wedi datgelu bod goleuo’n cael effaith bendant ar ein hiechyd a’n llesiant yn y gweithle. Gwelwyd fod y lefelau cywir ac ansawdd y golau’n effeithio ar ba mor effro yr ydym ac ar gywirdeb ein gwaith. Mae’r angen i leihau allyriadau carbon yn gyfle i wneud goleuo’n fwy effeithlon ac effeithiol; cyhyd â bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud wrth ddewis golau newydd.

Golau dydd yw’r unig ffynhonnell o olau sydd ar gael am ddim ond yn rhy aml rydym yn ei ddiystyru; gall golau dydd wedi’i reoli’n dda roi’r golau gorau posibl mewn gofod, sy’n dangos lliwiau ar eu gorau ac sydd fwyaf cyfforddus i’r defnyddiwr. Yn bwysicaf na dim, nid yw’n costio dim nac yn cynhyrchu allyriadau carbon.

Golau lliw

Yn draddodiadol, roedd golau lliw yn cael ei gynhyrchu trwy ddefnyddio geliau neu hidlyddion a oedd yn cael eu rhoi o flaen golau gwyn. Mae’r hidlyddion hyn yn gallu lleihau faint o olau sydd ar gael gymaint ag 80%. Mae LED yn awr ar gael mewn amrywiaeth o liwiau dirlawn – coch, glas a gwyrdd yw’r rhai mwyaf cyffredin. O ganlyniad gellir cyflawni gwelliannau mawr o ran effeithlonrwydd pan fydd angen golau lliw. Mae rhai gosodiadau’n cynnwys LED coch, glas a gwyrdd er mwyn rhoi’r gallu i newid lliw. Gall gosodiadau o’r fath gynhyrchu golau gwyn pan fydd pob un o’r tri lliw’n cael eu defnyddio.

Beth yw’r opsiynau?

Retrofit
Gall LED gymryd lle’r rhan fwyaf o oleuadau arddangos a chyfeiriadol, yn ogystal â golau sy’n cael ei anelu am i lawr. Fodd bynnag, rhaid ystyried y ffitiadau presennol. Mae rhai ffitiadau LED yn honni eu bod yn gydnaws ag offer rheoli a ffitiadau presennol ond gwnewch yn siŵr eich bod yn profi’n gyntaf. Gall rhai cyflenwyr gynnig eu lampau gydag offer rheoli newydd neu gallant awgrymu newid y ffitiadau o rai foltedd isel i rai sy’n gweithio o’r prif gyflenwad, yn ôl yr offer. 

Mae’n bwysig gwirio sut mae eich golau presennol yn cael ei reoli. Mae llawer o gynlluniau golau arddangos yn gweithio gyda phylyddion ac efallai na fydd newid yn y llwyth o olau fflwroleuol traddodiadol i LED yn bosibl. Gall y gostyngiad sylweddol yn y llwyth (watedd) hefyd effeithio ar rai pylyddion.

Adnewyddu
Mae adnewyddu llwyr yn werth ei ystyried os yw eich system oleuo bresennol yn fwy na 5 - 10 oed. Yn ychwanegol at arbedion ynni, efallai y bydd rhesymau gwerth chweil eraill dros ddewis golau LED ar gyfer rhai ffitiadau, e.e. mewn mannau anodd eu cyrraedd lle mae’n anodd newid lampau sydd wedi darfod.

Gellir adnewyddu goleuadau naill ai fel adnewyddu un i un uniongyrchol neu ail-ddylunio llwyr. Pa bynnag opsiwn a ddewisir, bydd yn werth ymgynghori ag unigolyn cymwysedig neu brofiadol i wneud yn siŵr bod yr opsiwn a ddewisir yn diwallu eich anghenion. Mae adnewyddu hefyd yn gyfle gwych naill ai i gyflwyno neu i wella eich dull o reoli goleuadau.

Rheoli goleuadau 

Mae system rheoli goleuadau’n helpu i arbed amser, arian ac ynni trwy eu diffodd yn awtomatig. Er enghraifft, gall swyddfeydd sydd ag ystafelloedd cyfarfod, neu lle mae staff neu lanhawyr yn gweithio’n hwyr elwa trwy gael synwyryddion sy’n synhwyro a oes rhywun yn yr ystafell. Mae’r rhain yn helpu i sicrhau nad yw goleuadau ymlaen yn ddiangen. Gall synwyryddion helpu i sicrhau arbedion hyd at 30% ar gostau goleuo ac maent yn arbennig o ddefnyddiol mewn mannau lle nad oes pobl yn bresennol gydol yr amser, fel storfeydd, toiledau , ac ystafelloedd cyfarfod. 

Gellir defnyddio synwyryddion golau neu ‘ffotogelloedd’ i reoli golau artiffisial pan fydd digon o olau naturiol. Gan fod oriau golau dydd yn amrywio trwy gydol y flwyddyn, gall synwyryddion helpu i gael mwy o reolaeth ac felly gellir gwneud arbedion sylweddol. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol yn yr awyr agored gyda goleuadau ar gyfer meysydd parcio neu arwyddion ac yn aml byddwch yn adennill y gost mewn llai na blwyddyn. Gellir cyfuno synwyryddion presenoldeb a golau gyda rheolwyr amser.

Sut i osod LED

Argymhellir eich bod yn ymgynghori â thrydanwr neu beiriannydd cymwysedig cyn cyfnewid eich golau presennol am LED. Gofynnwch i’r cyflenwr lunio cynnig sy’n cynnwys manylion am:

  • nifer y goleuadau sy’n cael eu newid
  • a yw’n golygu tebyg am debyg neu newidiadau (e.e. mwy neu lai o ffitiadau, newid goleuadau ac ati)
  • y pŵer a ddefnyddir gan y golau presennol a’r golau newydd, gydag amcangyfrif o’r arbedion, y gost a’r enillion o’u cymharu â’r system bresennol
  • y perfformiad disgwyliedig o ran lefelau golau o’i gymharu â’r system bresennol. 
  • a yw unrhyw systemau rheoli newydd yn ddymunol neu’n angenrheidiol
  • manylion comisiynu neu weithredu

Mae cynnwys staff a gaiff eu heffeithio gan y goleuo newydd, trwy holi eu barn yn ystod camau cynnar y broses ddylunio, yn debygol o arwain at well amodau gweithio a phroses bontio haws. 

Yr achos busnes

Mae gwneud yr achos busnes dros oleuadau ynni isel yn ddigon syml o ran trydan a arbedir o’i gymharu â’r buddsoddiad sydd ei angen.

Wrth gyfrifo’r arbedion posibl, bydd angen ystyried y canlynol:

  • llwyth y goleuo presennol (watiau neu kilowatiau)
  • oriau o ddefnydd y flwyddyn
  • llwyth y goleuadau LED newydd (watiau neu kilowatiau)
  • y gyfradd fesul uned rydych chi’n ei thalu am bob cilowat awr (kWh) o drydan
  1. yn gyntaf, lluosi llwyth y goleuadau presennol (watiau neu kilowatiau) â’r oriau o ddefnydd. Bydd hyn yn rhoi’r defnydd trydan blynyddol, mewn cilowat awr (kWh). Os ydych chi wedi cyfrifo llwyth y goleuadau mewn watiau (yn hytrach na kilowatiau), cofiwch rannu’r ffigur hwn â 1000
  2. lluoswch y defnydd blynyddol (kWh) â chost y trydan (ceiniog y kWh). Rhannwch â 100 i roi’r gost flynyddol mewn punnoedd 
  3. gwnewch yr un cyfrifiad (camau 1 a 2) ar gyfer y goleuadau newydd
  4. tynnwch gost y goleuadau newydd o gost yr hen system a bydd hyn yn rhoi’r arbedion blynyddol mewn punnoedd
  5. gallwch wedyn gymharu’r ffigur hwn â’r buddsoddiad a’r enillion a gyfrifwyd

Rhestr wirio ar gyfer cyflwyno goleuadau LED 

  1. deall anghenion goleuo eich sefydliad.
  2. yn achos cynllun mawr, dylech ystyried defnyddio cynghorydd / ymgynghorydd goleuo.
  3. dylech holi barn a chynnwys unrhyw staff a fydd yn cael eu heffeithio.
  4. cyflwynwch achos busnes manwl i’r uwch reolwyr.
  5. ar ôl cael cymeradwyaeth, gofynnwch i nifer o gyflenwyr am ddyfynbris.
  6. rhowch y contract i’r ymgeisydd rydych yn ymddiried fwyaf ynddo; nid y cynnig rhataf fydd y gorau bob tro
  7. gwnewch yn siŵr bod y goleuo’n cael ei gomisiynu’n briodol
  8. gwnewch yn siŵr bod y gosodiad newydd yn cael ei gynnal yn briodol

Problemau cyffredin

Mae’r lampau LED newydd yn crynu.
Gwiriwch fod yr offer rheoli’n gydnaws. Os bydd angen newidiwch i yrwyr LED pwrpasol. Ystyriwch newid un neu ddwy lamp cyn newid y cwbl.

Nid yw’r goleuadau newydd yn ddigon llachar.
Mae honiadau’r cyflenwr eu bod yn ‘gyfatebol’ yn anghywir neu fod colli golau wedi newid yr ymddangosiad. Dylech brofi lampau yn eu lle bob amser i wirio eu perfformiad.

Nid yw’r system rheoli goleuadau’n pylu’r golau’n esmwyth, neu nid yw’n pylu o gwbl. 
Nid yw’r LED yn gweithio gyda’r system reoli bresennol.  Byddai eu profi cyn eu gosod yn amlygu hyn.

Cwestiynau i’w gofyn.
A yw’r LED â nod CE llawn ac a oes Tystysgrif o Gydymffurfiad ddilys ar gael?
Ers pryd mae’r cyflenwr wedi bod mewn busnes? Sawl system LED maent wedi’u gosod?
Pa gymwysterau neu brofiad mewn goleuo sydd gan y cyflenwr? A all y cyflenwr ddangos geirdaon a / neu astudiaethau achos blaenorol? 
Os na fydd LED yn briodol, a allwn ni newid un neu ddwy o lampau cyn newid y cwbl?


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.