BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Piblinell Fforwm Adeiladu Cymru

Fforwm Adeiladu Cymru: “Ailgodi Cymru’n Gryfach” Gweld llwyth gwaith y dyfodol yn glir

Mae'r Diwydiant Adeiladu yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru a'r effeithiau cadarnhaol a ddaw yn sgil hynny ar ein cymdeithas a'n pobl. Mae'r diwydiant adeiladu yn parhau i fod yn alluogwr mawr i economi Cymru er gwaethaf wynebu heriau ac ansicrwydd mawr.

Ond y ffordd rydyn ni'n ymateb gyda'n gilydd i'r heriau hyn sy'n wirioneddol bwysig. Mae'r sector yn chwarae rhan annatod wrth helpu i osod Cymru ar lwybr i ddarparu Cymru wyrddach, tecach a mwy llewyrchus. Creu amgylchedd economaidd i gefnogi lles y boblogaeth a chynyddu ffocws ar gynhyrchiant a thwf, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Yn 2023 amcangyfrifir bod gan y diwydiant adeiladu yng Nghymru gyfanswm allbwn o tua £7.8 biliwn, 8,230 o gyflogwyr yn y sector adeiladu sy'n 14% o holl gyflogwyr y wlad. Y sector oedd â'r gyfran fwyaf o gyflogaeth mewn mentrau bach/canolig (BBaCh) yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2023, dangosodd y mynegai tueddiad hirdymor ym maes adeiladu gynnydd o 26.5% i Gymru a chynnydd o 2.1% i'r DU o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.

Yn 2024 roedd cynnydd yn y galw am swyddi adeiladu (peirianneg ac ati) gyda disgwyl twf yn y sector ar gyfradd recriwtio flynyddol o 2,200 o weithwyr.

Ym mis Mawrth 2024, roedd gan y sector oddeutu 100,000 o swyddi gweithlu. Bydd angen cyfwerth ag 11,000 o weithwyr ychwanegol yn y wlad rhwng 2024 a 2028.

Y lefel recriwtio bresennol o fewn Diwydiant Adeiladu Cymru yw 8,900 o weithwyr y flwyddyn, mae gan y galwedigaethau canlynol rai o'r gwerthoedd gofyniad recriwtio cryfaf: Crefftau gosodiadau trydanol (350 y flwyddyn) Bricwyr a seiri maen (290 y flwyddyn) Cyfarwyddwyr, swyddogion gweithredol ac uwch reolwyr (290 y flwyddyn).

Mae adeiladu a'r broses adeiladu yn sector sylfaenol trawsbynciol sy'n hanfodol i gefnogi uchelgeisiau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru, adeiladau cynaliadwy a chreu sgiliau, cyflogaeth, cyfoeth a ffyniant. Yn dilyn adborth gan arweinwyr y sector adeiladu, amlygwyd yr angen i'r llywodraeth wella'r gallu yr ymatebolrwydd a'r ymgysylltu ac i alinio ei blaenoriaethau. Arweiniodd hyn at sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer ymagwedd ac ymgysylltiad fwy penodol gan ddarparu gwybodaeth a chyngor amserol drwy gefnogaeth dan gontract drwy Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru i gynhyrchu capasiti ychwanegol.

Mae Fforwm Adeiladu Cymru yn dwyn ynghyd ffigurau blaenllaw o'r sectorau preifat a chyhoeddus ar draws diwydiant adeiladu Cymru ynghyd â phartneriaid cymdeithasol Cymru, i gytuno ar ffordd ymlaen i'r diwydiant allu helpu Cymru i "adeiladu'n ôl yn well".

Dan gadeiryddiaeth Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg.

Mae gwaith y fforwm yn rhan annatod o helpu'r diwydiant i ffynnu dros y blynyddoedd nesaf. Drwy gydweithio drwy arbenigedd, gwybodaeth ac arfer gorau, mae'r fforwm yn cynrychioli buddiannau cadwyn gyflenwi adeiladu amrywiol Cymru i sefydlu camau cadarnhaol, gan roi ffocws arbenigol i faterion sectoraidd pwysig. 

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Ed Evans, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru (ed.evans@cecawales.co.uk) neu Catherine Griffith-Williams Prif Swyddog Gweithredol, Rhagoriaeth Adeiladu Cymru (catherine.griffith-williams@cewales.org.uk).



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.