Fforwm Adeiladu Cymru: “Ailgodi Cymru’n Gryfach” Gweld llwyth gwaith y dyfodol yn glir
Sut mae'r Fforwm yn gweithredu?
Mae gan y Fforwm gynrychiolaeth o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ac mae'n cynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, cleientiaid adeiladu'r sector cyhoeddus, cyrff diwydiant gan gynnwys ffederasiynau, sefydliadau proffesiynol a busnesau unigol a chynrychiolydd TUC Cymru i ddarparu cyswllt â chynrychiolaeth ehangach o'r gweithlu.
Strwythur Sefydliadol
Mae'r ddelwedd ganlynol yn nodi sut y cefnogir y Fforwm (gwelwch isod).
Gweithgorau
Cefnogir y Fforwm gan 3 gweithgor sy'n cynnwys is-sectorau'r diwydiant: Seilwaith, Adeiladau, Tai
Grwpiau Gorchwyl a Gorffen
Mae'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen canlynol wedi'u sefydlu i ddatblygu blaenoriaethau penodol: Datgarboneiddio Seilwaith, Datgarboneiddio Adeiladau, Caffael a Thalu.
Grwpiau Rhanddeiliaid y Diwydiant
Mae Grŵp Rhanddeiliaid y Diwydiant, a hwylusir gan Adeiladu Arbenigrwydd Cymru, yn agored i holl randdeiliaid y diwydiant ac mae'n ceisio nodi'r prif faterion sy'n ymwneud â pherfformiad y diwydiant drwy drafodaeth agored. Yna caiff blaenoriaethau allweddol eu cyflwyno i'r Fforwm a'r Gweithgorau i ddatblygu atebion.
Os hoffech fynychu cyfarfodydd y Grŵp, cysylltwch â Cat Griffith-Williams catherine.griffith-williams@cewales.org.uk