BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Arian ar gyfer datblygu

Mae cael yr arian iawn yn hanfodol ar gyfer twf cyson. Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad i wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch busnes i gyllidwyr posib yn y ffordd orau bosib.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 August 2014
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Cyflwyniad

Mae cael yr arian iawn yn hanfodol ar gyfer twf cyson. Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad i wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch busnes i gyllidwyr posib yn y ffordd orau bosib.

2. Arian ar gyfer datblygu

Mae cael y cyllid cywir yn eu lle yn hanfodol ar gyfer twf parhaus. Mae'r adran 'Dod o hyd i Gyllid' yn edrych ar y gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael a'r pethau allweddol i'w hystyried wrth benderfynu pa opsiwn yn y modd mwyaf priodol ar gyfer eich businesess.

Mae’r 8 cwestiwn yma’n ddefnyddiol pan fyddwch chi’n dechrau meddwl am sut i ariannu ar gyfer datblygu. Edrychwch ar y modiwl Codi Arian ar gyfer Datblygu eto i’ch atgoffa o’r hyn sydd ei angen pan fyddwch chi’n chwilio am arian o’r tu allan.  Defnyddiwch y cwestiynau allweddol hyn i wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch busnes i ddarpar gyllidwyr yn y goleuni gorau posib.

Beth yw fy hanes cyllid gyda’r cyllidwr hwn?

Mae nifer o fusnesau'n methu â chodi arian am nad ydyn nhw wedi cyfathrebu’n dda â’r cyllidwr am eu hanghenion cyllid yn y gorffennol (eu banc yn aml iawn).  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i gyfathrebu â’ch banc a chyllidwyr eraill a chwiliwch am ffyrdd o wella’ch perthynas cyn gwneud cais am arian ychwanegol. 

Ai dyma’r amser iawn i chwilio am arian?

Mae amseru’n bwysig iawn. Rhaid i chi fod yn gwbl barod pan fyddwch chi’n troi at gyllidwyr, ond hefyd, peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr yn y broses ddatblygu, oherwydd gallai hyn beryglu’ch cynlluniau. 

A fydd yr arian yn ddigon i fodloni anghenion y busnes? 

Mae perchnogion busnesau bach yn aml yn amcangyfrif faint o arian sydd ei angen i yrru eu busnesau i’r lefel nesaf, yn rhy isel, ac mae rhagamcanion yn aml yn rhy optimistaidd.  

Gall fod yn arfer da creu tair set o amcanestyniadau ariannol – y senario gorau, y senario mwyaf tebygol a’r senario gwaethaf.  Fel hyn, gall cyllidwyr weld eich bod chi wedi meddwl yn ofalus am beth ellir ei gyflawni. 

Ydy’r dogfennau sy’n cefnogi’r cais am arian wedi cael eu cwblhau i’r safonau proffesiynol gorau posib?  

Mae argraffiadau cyntaf yr un mor bwysig wrth chwilio am arian ag y mae mewn amgylchiadau eraill.  Anaml iawn y byddwch chi’n cael ail gyfle i roi cyflwyniad i’r ffynhonnell ariannu honno eto.

Gwnewch yn siŵr bod eich dogfennau wedi’u llenwi i gyd, gyda digon o fanylion, eu bod yn ateb cwestiynau’r cyllidwyr neu’r buddsoddwyr, yn esbonio’r busnes yn ddigonol, yr arian sydd ei angen, ac ar gyfer beth y bydd yn cael ei ddefnyddio. Hefyd nodwch y risgiau a'r strategaethau priodol ar gyfer rheoli'r risgiau hynny.

Os ydych chi’n ddibrofiad yn y maes yma, mae’n werth cael cymorth proffesiynol i roi’r wybodaeth at ei gilydd, a gofynnwch i drydydd parti o du allan i’ch busnes  adolygu a beirniadu’r wybodaeth cyn i chi ei chyflwyno i gyllidwyr posib. 

Oes yna dim rheoli profiadol a chymwys ar waith a all gyflawni yn ôl y cynllun? 

Mae’r rhan fwyaf o gyllidwyr neu fuddsoddwyr yn chwilio am dîm rheoli profiadol a sicr. Cryfhewch eich tîm drwy gynnwys aelodau priodol o'r bwrdd a chymdeithion neu bartneriaid cyd-fenter.

Ydych chi’n troi at y ffynonellau cywir?

Mae nifer o fusnesau bach yn gwastraffu llawer o amser ac ymdrech yn chwilio am arian gan y ffynonellau anghywir.  Gofynnwch am gyngor cyn y byddwch chi’n dechrau, a gwnewch yn siŵr bod y ffynonellau rydych chi'n troi atyn nhw'n briodol ar gyfer faint o arian rydych chi'n gofyn amdano, a'r ffordd rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio.

Cofiwch nad yw pob arian yn gyfartal.  Mae gwerth ychwanegol i rai mathau o arian, drwy gysylltiad â chyllidwr neu fuddsoddwr a mynediad at arbenigedd, profiad a chysylltiadau ac ati. 

Ydych chi wedi ystyried pob cyfle i ryddhau arian o’r fantolen? 

Mae sawl ffordd y gallwch chi ryddhau arian o’ch busnes – lleihau lefelau stoc, gwerthu ac adlesu unrhyw asedau sefydlog rydych chi’n berchen arnyn nhw, ystyriwch yr hyn sy’n dod i mewn, neu nodwch a dilëwch unrhyw gostau dianghenraid.  

Gwenwch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr opsiynau mewnol hyn cyn chwilio am gymorth yn allanol. 

Os gennych chi system reoli arian dda ar waith? 

Monitrwch eich arian yn ofalus a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwario mwy nag sydd gennych chi. Gall fod yn arfer dda paratoi llif arian o wythnos i wythnos i wneud yn siŵr bod eich bys ar y pỳls.   Mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod y busnes yn gallu fforddio’r arian rydych chi’n ceisio ei gael.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.