BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel

Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi y mae proses bontio Tata Steel wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys pecyn o gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i baratoi eich achos busnes am gymorth ariannol drwy Gronfeydd Pontio Tata Steel a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Bydd Busnes Cymru yn darparu'r cyngor a'r arweiniad busnes cychwynnol i drafod yr heriau rydych chi'n eu hwynebu a chyfleoedd i fagu cydnerthedd, cryfhau'r busnes a'ch helpu i gael gafael ar Gyllid Pontio Tata Steel a fydd ar gael ac yn cael ei ddarparu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Ewch i Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel i gael manylion llawn yr holl gymorth a chefnogaeth i bobl a busnesau y mae'r newidiadau yn Tata Steel UK yn effeithio arnynt. Dilynwch y ddolen hon: Hwb Gwybodaeth Pontio Dur Tata - Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Hunangyflogaeth a dechrau busnes

Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn wynebu diswyddiad ac eisiau dechrau eich busnes eich hun neu fod yn hunangyflogedig, hoffem glywed gennych.

P'un a oes gennych hedyn o syniad, eisoes yn masnachu'n rhan amser, neu'n barod i ddechrau eich menter eich hun, bydd Busnes Cymru yn eich helpu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor busnes i ddatblygu eich gwybodaeth fusnes i'ch helpu i ddechrau arni. Gallwn eich cynghori ar baratoi cynlluniau ariannol a chynlluniau busnes i'ch helpu i gael gafael ar grantiau a chymorth ariannol sydd ar gael drwy'r Gronfa Bontio Dechrau Busnes.

Cysylltwch â ni a byddwn yn darparu'r wybodaeth berthnasol i weld a ydych yn gymwys ac i wneud cais am y Gronfa Dechrau Busnes ar ôl ei lansio.

Adeiladu busnes cadarn

Os yw'ch busnes yn gweithredu yn ardal Castell-nedd Port Talbot a bod proses bontio Tata Steel wedi effeithio'n negyddol arno, cysylltwch â ni i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Bydd Busnes Cymru yn eich helpu i gynnal adolygiad o'ch busnes, gan ystyried ffrydiau incwm, cyfleoedd i gyrraedd marchnadoedd newydd, cymorth i ddod o hyd i waith a meithrin sgiliau a'ch cynghori ar y llwybrau i gael mynediad at grantiau a'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Cysylltwch â ni a byddwn yn darparu'r wybodaeth berthnasol ichi i weld a ydych yn gymwys ac i wneud cais am y Gronfa Cydnerthedd Busnes unwaith y caiff ei lansio.

Tyfu eich busnes a chreu cyflogaeth

Os ydych chi yn gweithredu ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gweithredu, yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac eisiau ehangu eich busnes, drwy gyflogaeth neu gyfleoedd newydd yn y farchnad, cysylltwch â ni i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gall Busnes Cymru gefnogi eich dyheadau i dyfu, datgloi heriau a'ch helpu i ddatblygu eich rhagolygon ariannol a busnes i wella'ch achos i gael mynediad at grantiau a'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Cysylltwch â ni a byddwn yn darparu'r wybodaeth berthnasol ichi i weld a ydych yn gymwys ac i wneud cais am y Gronfa Tyfu Busnesau unwaith y caiff ei lansio.

Busnesau'r gadwyn gyflenwi

A yw eich busnes yn cyflenwi Tata Steel UK yn ne Cymru ar hyn o bryd a bod y broses bontio wedi effeithio arno?

Mae Gronfa Bontio'r Gadwyn Gyflenwi ar agor, a byddwch yn gallu ceisio cyllid i oresgyn heriau tymor byr yn ystod y cyfnod pontio, yn ogystal â helpu busnesau i ailffocysu wrth baratoi ar gyfer cyfleoedd twf newydd.

Bydd Busnes Cymru yn trefnu trafodaeth fanylach am eich busnes a'r heriau rydych chi'n eu hwynebu a allai gynnwys gwneud cais am gyllid i Gronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi.

Cysylltwch â ni drwy gwblhau'r gwiriwr cymhwysedd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.