BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwerthusiad o gymorth sy'n gysylltiedig â COVID-19 i fusnesau Cymru

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o'i Chronfa Cadernid Economaidd ar gyfer COVID-19 a phecynnau cymorth cysylltiedig, a gyflwynwyd i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau a sefydliadau eraill yn ystod y pandemig.

Mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn deall effeithiau'r cymorth hwn ac yn gallu asesu i ba raddau y mae wedi cynorthwyo rhagolygon goroesi ac adfer busnesau.   Bydd canfyddiadau’r ymchwil hon yn hollbwysig wrth sicrhau bod unrhyw gymorth parhaus neu yn y dyfodol yn cael ei ddarparu mor effeithiol â phosibl, er mwyn cefnogi adferiad economaidd Cymru o’r pandemig yn well.

Os cafodd eich sefydliad unrhyw un o'r mathau canlynol o gyllid gan Lywodraeth Cymru, yna gellir cysylltu â chi ar ryw adeg dros y misoedd nesaf i ofyn ichi gymryd rhan yn yr ymchwil hon:

  • Cymorth o dan gamau cyllido’r ERF neu’r Gronfa Cymorth Penodol i’r Sector (SSF)  (ERF 1, ERF 2, ERF 3, SSF 1, SSF 2, ERF 6 & ERF 7)
  • Grant cychwyn busnes (a weinyddir gan awdurdodau lleol Cymru)
  • Cymorth o dan Gynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Cymru yn sgil y Coronafeirws (a weinyddir gan Fanc Datblygu Cymru)

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Opinion Research Services (ORS), cwmni ymchwil gymdeithasol annibynnol wedi'i leoli yn Abertawe, i gyflawni'r gwaith maes ar ei rhan. Os derbyniwch e-bost neu alwad ffôn am y gwerthusiad gan naill ai Lywodraeth Cymru neu ORS, gobeithiwn yn fawr y byddwch yn cytuno cymryd rhan yn yr astudiaeth bwysig hon.

Gofynnir i chi sut mae'ch busnes wedi defnyddio'r cyllid a gafodd, ynghyd â chwestiynau a ddyluniwyd i asesu effeithiau'r pandemig ar bob sefydliad (er enghraifft, ynghylch trosiant ac ar lefelau staffio cyn ac yn ystod y pandemig), felly efallai y byddwch yn ei gweld hi'n ddefnyddiol casglu rhywfaint o'r wybodaeth cyn cymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth, ebost ERF.PN@gov.wales neu weler hysbysiad preifatrwydd prosiectau Llywodraeth Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.