BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Dyfarniad Cam 1 Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru i Sefydliadau

Rhoddodd Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru gymorth ariannol i'r sector oherwydd yr heriau parhaus sy'n deillio o bandemig Covid-19. Bwriad y gronfa oedd darparu cymorth hanfodol i sefydliadau yn y sector, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, digwyddiadau a'u cyflenwyr cymorth technegol, a sinemâu annibynnol sydd i gyd wedi cael colledion refeniw dramatig yn sgil y pandemig.

Nod y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill er mwyn cefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i fanylion y sefydliadau y dyfarnwyd cyllid iddynt trwy ddefnyddio'r dolenni isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.