Cynnwys
- 1. Rhagair
- 2. Beth yw VAWDASV?
- 3. Beth all cyflogwr ei wneud?
- 4. Polisïau a gweithdrefnau VAWDASV yn y gweithle
- 5. Byddwch yn rhagweithiol wrth gefnogi gweithwyr
- 6. Datblygwch weithleoedd lle mae cyflogeion yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn gallu trafod materion sy'n ymwneud â cham-drin
- 7. Cymrwch gamau cadarn i ddwyn cyflawnwyr i gyfrif
- 8. Hyfforddiant ac Arweiniad
1. Rhagair
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn gyffredin iawn, mae'n cael effaith ddinistriol ar oroeswyr a'u plant, eu teuluoedd a'u cymunedau, ac yn effeithio ar weithleoedd. Gall eich cyflogeion chi fod ymhlith y rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael effaith arnynt.
- Mae 1 o bob 3 menyw yn profi rhyw fath o drais a cham-drin yn ystod ei hoes .
- Mae 75% o'r rhai sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig yn cael eu targedu yn y gwaith – o aflonyddu arnynt â galwadau ffôn a phartneriaid sy’n eu cam-drin yn dod i swyddfa'n ddirybudd, hyd at ymosodiadau corfforol .
- Mae 53% o weithwyr sy'n cael eu cam-drin (gwryw a benyw) yn colli o leiaf 3 diwrnod o'r gwaith y mis.
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fusnes i bawb. Gall busnesau ledled Cymru chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o’i atal yn ogystal â chefnogi a diogelu'r rhai yr effeithir arnynt, drwy greu gweithle lle nad oes unrhyw oddefgarwch o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac sy'n cynnig cymorth i unrhyw rai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael effaith arnynt.
2. Beth yw VAWDASV?
Fel y'i diffinnir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, mae VAWDASV yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cam-drin domestig, trais rhywiol a cham-drin rhywiol, aflonyddu rhywiol a chamfanteisio, anffurfio organau rhywiol merched, a’r hyn a elwir yn drais ‘er anrhydedd’ a phriodasau dan orfod.
Gweler gwefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth am y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ac amrywiaeth o ganllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus datganoledig.
3. Beth all cyflogwr ei wneud?
Codi ymwybyddiaeth
Rhowch wybodaeth i'ch gweithwyr sy'n eu gwneud yn ymwybodol bod VAWDASV yn digwydd i lawer o wahanol bobl a bod gan bawb rôl i’w gyflawni wrth greu cymunedau sy'n gweithio tuag at ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf yn ogystal â chefnogi pawb sy’n cael ei effeithio ganddo.
Gweler gwefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth am linell gymorth Byw Heb Ofn a'r gwasanaethau cymorth.
Ble i gael gwybod rhagor:
Gellir gofyn am amrywiaeth o daflenni a phosteri drwy Cymorth i Fenywod Cymru, e-bost: info@welshwomensaid.org.uk
4. Polisïau a gweithdrefnau VAWDASV yn y gweithle
Mae polisïau a gweithdrefnau cadarn yn y gweithle yn hybu gweithle di-drais a heb unrhyw gam-drin ac yn sicrhau bod cyflogeion yn gwybod bod pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn annerbyniol. Gwnewch yn siŵr bod gweithwyr yn gwybod ble y gallant fynegi pryderon, beth allai ddigwydd ar ôl mynegi pryder, ac y bydd eu cyflogwr yn eu credu ac yn eu cefnogi.
Ble i gael gwybod rhagor:
Gall Cymorth i Fenywod Cymru helpu cyflogwyr i lunio polisi gweithle a darparu hyfforddiant ar gyfer staff adnoddau dynol, hyrwyddwyr yn y gweithle, a rheolwyr i’w gwneud yn bosibl i'r polisi gael ei gyflwyno'n effeithiol yn eich gweithle.
Petai gennych ddiddordeb neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â: training@welshwomensaid.org.uk
Adnoddau a gwybodaeth:
I gael adnoddau a gwybodaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr yn ystod COVID 19 gweler gwefan Cymorth i Fenywod Cymru yn www.welshwomensaid.org.uk/cy
Mae gwefan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig cyngor i gyflogwyr ynghylch polisïau cam-drin domestig: www.equalityhumanrights.com/cy
5. Byddwch yn rhagweithiol wrth gefnogi gweithwyr
Gwnewch yn siŵr bod rheolwyr ac eraill yn cael eu hyfforddi i adnabod newidiadau mewn ymddygiad neu yn ansawdd perfformiad gwaith heb reswm fel arwyddion posibl o gamdriniaeth. Dylai rheolwyr gael hyfforddiant a chyfarwyddyd ynghylch sut i ymateb i ddatgeliadau a chael sgwrs briodol am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael. Gallai mesurau cefnogol gynnwys y canlynol:
- Cymorth ymarferol y gallwch ei gynnig e.e. newidiadau yn y llwyth gwaith; absenoldeb â thâl; mynediad at oruchwyliaeth allanol neu gymorth cwnsela.
- Gellir rhoi mesurau diogelwch ar waith e.e. dargyfeirio galwadau ffôn a negeseuon e-bost; sicrhau nad yw'r cyflogai yn gweithio ar ei ben ei hun nac mewn ardal ynysig a sicrhau bod gan y staff drefniadau diogel ar gyfer mynd adref a dod i’r gwaith.
Mae'n arfer da sicrhau bod rhif llinell gymorth Byw Heb Ofn, 0808 80 10 800 a rhai’r gwasanaethau cymorth a restrir ar wefan Cymorth i Fenywod Cymru (www.welshwomensaid.org.uk/cy) ar gael yn rhwydd ac atgyfeirio cyflogeion at sefydliadau priodol i gael gwybodaeth a chymorth.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn 0808 80 10 800 yn gweithredu 24/7 a gellir cysylltu â hi dros y ffôn – 0808 80 10 800; neges destun – 07860077333; e-bost info@livefearfreehelpline.cymru; neu mae sgwrs fyw ar gael.
Adnoddau a gwybodaeth:
Mewn ymateb i COVID 19 mae amrywiaeth o adnoddau ar gyfer pobl sy’n gweld camdriniaeth, a goroeswyr ar wefan Cymorth i Fenywod Cymru.
6. Datblygwch weithleoedd lle mae cyflogeion yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn gallu trafod materion sy'n ymwneud â cham-drin
Gwrandewch ar eich staff, credwch nhw a pheidiwch â'u barnu. Mae parchu ffiniau a phreifatrwydd y gweithiwr yn hanfodol. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi datblygu cyngor ynghylch ymateb i VAWDASV ar gyfer pobl sy’n pryderu am les eraill, ac mae ar gael ar ei wefan. Mae’n bwysig tawelu meddwl staff drwy eu sicrhau bod gan y sefydliad ddealltwriaeth o sut y gall trais a cham-drin effeithio ar eu gwaith.
Mae’n arfer da cynnwys yr holl staff wrth ddatblygu a monitro pob rhan o’r gweithle a chreu dull o sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt addasu i fodelau gwaith newydd, gan gynnwys defnyddio canolfannau, a rhannu swyddfeydd a mannau ar-lein.
Dylech greu trefniadau cadarnhaol ar gyfer crybwyll pryderon pan nad yw pobl yn dawel eu meddyliau am rywbeth, a sicrhau bod ymatebion i bryderon yn gefnogol ac yn effeithiol. Mae angen cydnabod y gall dioddef camdriniaeth gael effaith hirdymor ar les rhywun ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt yn y gwaith, yn enwedig yn ystod pandemig COVID 19.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer goroeswyr yn ystod y cyfnod clo ar gael ar wefan Cymorth i Fenywod Cymru.
Drwy hyfforddiant, rhowch yr eirfa a'r adnoddau i staff herio agweddau sy'n cefnogi aflonyddu, trais a cham-drin. Bydd hyn yn annog goroeswyr i deimlo eu bod yn cael cymorth yn y gwaith ac yn lleihau'r cyfleoedd i gyflawnwyr weithredu.
7. Cymrwch gamau cadarn i ddwyn cyflawnwyr i gyfrif
Pan fydd datgeliad neu honiad o gam-drin yn cael ei dynnu at sylw rheolwr, dylid gweithredu arno. Rhaid i reolwyr gymryd hyn o ddifrif a'i drin fel cwyn ddifrifol yn erbyn yr aelod staff perthnasol ac ymddwyn â lefel briodol o ofal wrth ymateb.
Dylid cadw cofnod o unrhyw achosion o gam-drin yn y gweithle, gan gynnwys galwadau ffôn parhaus, negeseuon e-bost neu ymweliadau â'r gweithle, gan gofnodi trafodaethau a chamau a gymerwyd a storio’r wybodaeth yn gyfrinachol.
Adnoddau a gwybodaeth:
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Respect i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad y sawl sy'n cam-drin eraill, yn www.respectphoneline.org.uk
8. Hyfforddiant ac Arweiniad
Mae amrywiaeth o hyfforddiant ar gael, o godi ymwybyddiaeth i hyfforddiant rheoli, arweinyddiaeth ac adnoddau dynol a all helpu i greu busnes sy'n gefnogol i unrhyw aelod o staff y mae VAWDASV yn effeithio arno. Gall hyfforddiant helpu cyflogwyr i adnabod arwyddion trais a cham-drin ac mae'n ei gwneud yn glir bod camau syml y gall cyflogwyr eu cymryd i ymateb i'r mater sensitif hwn, yn unol â'u cyfrifoldebau.
Adnoddau a gwybodaeth:
Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys ar gyfer hyrwyddwyr yn y gweithle, yn ogystal â darparu hyfforddiant pwrpasol. Cysylltwch â training@welshwomensaid.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Ewch i wefan Cymorth i Fenywod Cymru i gael amryw o adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg gan gynnwys:
- Canllawiau COVID 19 i Gyflogwyr
- Pecyn Cymorth Gwylwyr Sefyll gyda Goroeswyr
- Cyfres o adnoddau ar gyfer goroeswyr
- Mae taflen Cyfeillion a Theuluoedd ar gael