BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Taflenni Dechrau Busnes

Dewch o hyd i syniad busnes

Os ydych yn ystyried dechrau busnes newydd mae gennym gannoedd o ffeithlenni am ddim i’ch helpu chi i ddewis y math cywir o fusnes.

Yn ein taflenni am ddim mae llawer o wybodaeth i’ch helpu i gychwyn eich busnes, yn cynnwys: 

  • y farchnad bosibl ar gyfer eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth
  • y costau cychwynnol
  • yr offer y gall fod ei angen arnoch
  • y deddfau a’r rheoliadau y mae’n rhaid i chi eu dilyn
  • syniadau am ble i hyrwyddo’ch busnes

Bwriwch olwg ar ein dewis o ffeithlenni sy’n amrywio o Aciwbigydd i Wneuthurwr Wigiau.

Gallwch ofyn am hyd at 3 o daflenni ffeithiau fesul cyfeiriad e-bost. I gael mwy na 3 taflen ffeithiau, cysylltwch â'n llinell gymorth ar 03000 6 03000.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Sylwch - mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan sefydliad allanol sy'n cynhyrchu'r taflenni ffeithiau ac yn prosesu'r ceisiadau ar-lein. Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cynnwys.

Byddwn yn cadw eich data personol yn ystod cyfnod y contract yn unig ac er dibenion monitro nifer y taflenni ffeithiau y gofynnwyd amdanynt fesul cyfeiriad e-bost.

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at ein Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaeth Busnes Cymru | Busnes Cymru (gov.wales)

 

Taflenni Dechrau Busnes

Dewiswch eich syniad(au) busnes (cewch ddewis hyd at 3)

* Yn dynodi maes angenrheidiol

    Idea 1
    Idea 2
    Idea 3
    mail
    Submit button

    Llinell Gymorth Busnes Cymru

    03000 6 03000

    Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

    Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.