Mae offer a pheiriannau’n cyfeirio at bethau megis y peiriannu sy’n cael eu defnyddio yn eich ffatri, cownteri arddangos mews siopau a cherbydau sy'n cael eu defnyddio yn y busnes gennych chi a'ch staff.
Effeithiau
gall lladrata peiriannau arwain at golli oriau lawer o lafur i’r busnes, colli arian wrth siomi cleientiaid a chwsmeriaid ac, yn y pendraw, gostau mawr wrth brynu peiriannau eraill yn eu lle.
Rhwystro
Cynyddu a gwella mesurau diogeledd megis teledu cylch cyfyng a larymau yn ogystal â chloi a chadw’n ddiogel allweddi a chodau gweithio peiriannau.
Riportio
Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft:
- mae cerbyd wedi’i ladrata
- mae eiddo wedi’i ddifrodi
- i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall
Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn.
Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis:
- bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
- mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd
- mae bywyd rhywun mewn perygl
- mae rhywun wedi’i anafu
- mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth