Byddwch eisiau i’ch busnes dechrau gweithio fel arfer mor gyflym â phosibl ar ôl amhariad difrifol. Gelwir hyn yn gynnal parhad busnes.
Mae cynllun parhad busnes yn nodi’r risgiau y gallai eich busnes eu hwynebu a'r hyn y dylech chi ei wneud yn eu cylch. Fel arall, gallai eich busnes:
- golli incwm am gyfnod hir
- colli gwaith i gystadleuwyr
- cael trafferthion gyda chyflenwyr
- gweld ei enw da’n cael niwed
- colli staff
Paratoi eich cynllun parhad busnes
Bydd cynllun effeithiol yn dangos sut y gallwch chi ddal ati gyda’ch prif weithgareddau busnes. Gallai hynny olygu symud i eiddo arall neu fod staff yn gweithio gartref. Bydd yn rhaid i chi:
- Nodi’r prif weithgareddau eich busnes a’r staff sy’n gyfrifol amdanyn nhw.
- Nodi’r risgiau mewnol ac allanol a allai arwain at amhariad mawr, megis eich rhwydwaith cyfrifiadurol yn diffodd yn ddirybudd neu mewn cyfnod o dywydd garw iawn.
- Asesu effeithiau’r risgiau hyn.
- Cymryd camau i leihau tebygolrwydd y risgiau hyn a’u heffeithiau.
Dylech ystyried hefyd:
- Unrhyw gosbau ariannol, cyfreithiol neu reolaethol os na fyddwch yn gallu darparu’r gwasanaeth rydych wedi contractio i’w ddarparu.
- Pa mor hir y gallai eich busnes ddal ati heb yr eitemau rydych yn eu defnyddio fel arfer, megis meddalwedd neu offer arbenigol.
- Sut y byddech yn dygymod gydag amhariad mawr – efallai bod heb drydan am gyfnod hir neu ddifrod i’ch eiddo.
Unwaith y byddwch wedi paratoi’r cynllun, hyfforddwch eich staff fel eu bod yn gwybod beth i’w wneud. Adolygwch y cynllun yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn dal yn effeithiol.
Problemau yswiriant
Mae’n rhaid i chi gael yswiriant yn erbyn colled a difrod yn codi o weithgareddau troseddol. Os gallwch ddangos eich bod yn cymryd problemau diogeledd o ddifrif, efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn cynnig disgownt i chi ar eich premiwm.