Gall Troseddau Eiddo Deallusol olygu nifer o wahanol dramgwyddiadau. Er enghraifft, wrth gomisiynu dylunwyr i adeiladu gwefan newydd, dylech sicrhau fod y cytundeb rhwng eich busnes a dylunydd y wefan yn ei gwneud yn glir mai eich busnes chi yw perchennog yr eiddo deallusol yn y cynnwys. Os na wneir hyn, dylunydd y wefan fydd perchennog cynnwys eich gwefan.
Effeithiau
os nad chi yw perchennog eiddo deallusol eich syniadau, mater bach fydd copïo ac efelychu eich gwaith heb i unrhyw iawndal fod yn ddyledus i chi. Hefyd, gall troseddau eiddo deallusol fod yn hynod broffidiol i droseddwyr gydag ond ychydig iawn o fuddsoddiad.
Rhwystro
I amddiffyn eich eiddo deallusol rhag cael ei ladrata neu ei ddefnyddio heb awdurdod, dylech osod patent ar eich asedau eiddo deallusol. Trafodwch gyda chyfreithwyr eiddo deallusol profiadol, cewch wybod beth allwch, ac na allwch, gael patent arno a pha eiddo deallusol allai fod gennych chi.
Riportio
Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Safonau Masnach lleol am gyngor ar dramgwyddiadau Eiddo Deallusol.
Efallai y byddwch yn dymuno hefyd gysylltu â’r Swyddfa Eiddo Deallusol i gael cyngor ar orfodi Eiddo Deallusol