Diffinnir troseddau gwledig fel lladrata offer, peiriannau neu dda byw o ffermydd neu droseddau megis lladrata neu fyrgleriaeth sy'n cael ei gofnodi ar ffermydd neu ar eiddo’n gysylltiedig â ffermydd.
Effeithiau
Yr effaith fwyaf ar fusnesau fferm yw colli offer a da byw gwerthfawr. Bydd yn rhaid i ffermwyr dalu’n ddrud i gael offer neu dda byw yn eu lle, ac mae'n golygu colli cynhyrchiant a refeniw.
Rhwystro
Sicrhau fod cloeau diogel, safon BSI, ar bob adeilad fferm lle mae offer gwerthfawr yn cael ei gadw. Marcio offer gydag enw a chôd post y fferm, efallai gyda phen UV, fel y gellir ei olrhain. Mae sicrhau y gellir canfod o ba fferm y daw da byw hefyd yn hynod o bwysig.
Riportio
Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft:
- mae cerbyd wedi’i ladrata
- mae eiddo wedi’i ddifrodi
- i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall
Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn.
Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis:
- bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
- mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd
- mae bywyd rhywun mewn perygl
- mae rhywun wedi’i anafu
- mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth