BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cynyddu amrywiaeth o fewn diwydiant ffilm a theledu Cymru

Mae Tîm y Sector Diwydiannau Creadigol o fewn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried amrywiaeth o fewn y diwydiant ffilm a theledu. 

Gwnaethom gomisiynu Diverse Cymru i ystyried y materion perthnasol.  Gallwch weld manylion ynghylch y prosiect - a sut y gallai Diverse Cymru eich helpu - ar eu gwefan
 

Rydym wedi dwyn ynghyd rai adnoddau ar-lein er mwyn helpu unigolion a chyflogwyr i wella amrywiaeth o fewn diwydiant ffilm a theledu Cymru. 

Mae'n gwasanaeth lleoliadau sef Sgrîn Cymru yn cynnal cronfa ddata o griwiau ffilm a theledu yng Nghymru. Caiff y gronfa ddata hon ei defnyddio gan gynyrchiadau sy'n ffilmio yng Nghymru, felly gallai greu cyfle i chi dynnu sylw cynhyrchwyr at eich enw. Mae rhai darlledwyr a chwmnïau cynhyrchu bellach yn awyddus i recriwtio unigolion amrywiol. Rydym yn annog pawb sydd â'r sgiliau perthnasol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd amrywiol, i gofrestru ar y gronfa ddata, gan nodi eu sgiliau a'u profiad.  

Gallwch gysylltu â Thîm y Sector Diwydiannau Creadigol drwy anfon e-bost at creativeindustries@gov.wales

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.