BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Busnes Cymru - Tendro

Os mai Busnes Bach neu Ganolig sydd gennych chi (yn cyflogi hyd at 250), sydd eisiau gwella ei siawns o ennill contractau sector cyhoeddus a phreifat, mae’n bosib y gall Busnes Cymru - Tendro eich helpu chi. 

Gallwn:

  • egluro sut mae system brynu'r sector cyhoeddus yn gweithio
  • helpu chi i ddeall yn well yr hyn mae prynwyr mawr eisiau gan gyflenwr. 
  • cynnig cymorth a chyngor un i un ar ddatblygu tendrau ar gyfer contractau neu fframweithiau penodol
  • eich helpu chi i ddod o hyd i fusnesau bach neu ganolig eraill i gydweithio efo nhw i ddarparu cais ar y cyd am gontractau mawr
  • eich tywys chi drwy'r systemau tendro electronig sy'n cael eu defnyddio gan sefydliadau prynu'r sector gyhoeddus yng Nghymru
  • help i’ch rhoi chi ar ben ffordd ar GwerthwchiGymru.llyw.cymru – y safle lle mae’r mwyafrif o gyrff Sector Cyhoeddus Cymru yn hysbysebu eu busnes 

Mae Busnes Cymru - Tendro am ddim i holl BBaChau Cymru. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.