BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024-25

Canllawiau

Disgrifiad o’r canllawiau

Nod y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth i drethdalwyr ac awdurdodau lleol ynghylch y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (“y rhyddhad”). Ar 19 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y byddai'r rhyddhad yn parhau dros dro ar gyfer 2024-25. Mae’r canllawiau’n berthnasol i Gymru yn unig.

Mae'r canllawiau'n nodi meini prawf y rhyddhad ardrethi a ddarperir ar gyfer eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nid yw’r canllawiau'n disodli unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol ar ardrethi annomestig nac unrhyw fath arall o ryddhad.

Dylid anfon ymholiadau bilio ynglŷn â'r rhyddhad i'r awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdodau lleol yma. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau i: localtaxationpolicy@llyw.cymru 

Mae’r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2024 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2025.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.