BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ardrethi annomestig: Gorffennaf 2022

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig (NDR) yng Nghymru.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Meini prawf gosod ar gyfer llety hunanddarpar

Yn gynharach eleni, yn dilyn ymgynghoriad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i'r meini prawf ar gyfer categoreiddio eiddo sy'n darparu llety hunddarpar yn eiddo annomestig sy'n atebol am ardrethi annomestig, yn hytrach na’i gategoreiddio’n eiddo domestig sy'n atebol am y dreth gyngor. Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar y ddeddfwriaeth ddrafft i weithredu'r newidiadau a gyhoeddwyd 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 wedi'i wneud yn gyfraith. Bydd yn diwygio'r isafswm amser y mae'n ofynnol i eiddo gael ei osod mewn gwirionedd, gan ei gynyddu o 70 diwrnod i 182 diwrnod, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Bydd hefyd yn diwygio'r isafswm amser y mae'n ofynnol i eiddo fod ar gael i'w osod, gan ei gynyddu o 140 diwrnod i 252 diwrnod. Bydd y meini prawf newydd yn berthnasol i bob asesiad ar gyfer y rhestr ardrethi annomestig, o 1 Ebrill 2023.

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety hunanddarpar i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Diwygio’r broses apelio

Ar 29 Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad yn y Senedd, yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ardrethi annomestig. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys ailbrisio’n amlach, ac un dull allweddol a fydd yn galluogi hynny yw gwella’r broses apelio. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru  ymgynghoriad technegol deuddeg wythnos, sy'n nodi manylion y diwygiadau arfaethedig, ac mae hwn yn agored tan 11 Hydref 2022. 

Y rhestr ardrethu ganolog ar gyfer ailbrisio ardrethi annomestig 2023

Ar ôl ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn gwneud newidiadau i'r rhestr ardrethu ganolog ar gyfer 1 Ebrill 2023. Dangosodd ymatebion i'r ymgynghoriad nad oedd consensws ar gyfer y newidiadau, a oedd wedi’u cynnig at ddibenion effeithlonrwydd gweinyddol yn hytrach na dibenion polisi. Lle bo'n briodol, gellir ystyried cynnwys hereditamentau ar y rhestr ardrethu ganolog yn y dyfodol.

Rhannu eiddo annomestig at ddibenion prisio

Yn y gorffennol, roedd unedau eiddo wrth ymyl ei gilydd, a oedd yn nwylo un  trethdalwr ac yn cael eu defnyddio i’r un diben, yn cael un bil ardrethi annomestig. Newidiodd dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2015 yr arfer hwn, gan effeithio ar nifer bach o drethdalwyr. Ar ôl ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd deddfwriaeth yn cael ei llunio i adfer yr hyn a oedd yn bodoli cyn y dyfarniad, ar gyfer rhestrau ardrethi annomestig newydd a gaiff eu llunio o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Ymgynghori ar Ardrethi Annomestig

Mae’r Ymgynghoriad canlynol yn berthnasol i Gymru yn unig.

Rhestr ardrethu ganolog ar gyfer ailbrisio ardrethi annomestig 2023 – crynodeb o'r ymatebion

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r rhestr ardrethu ganolog am ddeuddeg wythnos, o 21 Ionawr i 15 Ebrill 2022.

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 – crynodeb o'r ymatebion

Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft am chwe wythnos, o 1 Mawrth i 12 Ebrill 2022. Mae'r ddeddfwriaeth yn gweithredu'r diwygiadau a gyhoeddwyd i'r meini prawf ar gyfer eiddo sy'n darparu llety hunanddarpar, i’w gategoreiddio fel eiddo annomestig sy’n atebol am ardrethi annomestig. Daw’r ddeddfwriaethi rym o 1 Ebrill 2023.

Rhannu eiddo annomestig at ddibenion prisio – crynodeb o'r ymatebion

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar rannu eiddo annomestig at ddibenion prisio am ddeuddeg wythnos, o 9 Mawrth i 1 Mehefin 2022.

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y mae'n Ofynnol Iddynt Gyflenwi Gwybodaeth a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023 – agored

Mae ymgynghoriad technegol ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y mae'n Ofynnol Iddynt Gyflenwi Gwybodaeth a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023 yn agored am ddeuddeg wythnos, o 24 Mehefin i 16 Medi 2022. Bydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu mesurau i helpu i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi ardrethi annomestig, drwy alluogi awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth gan drydydd partïon i gefnogi eu rôl o ran bilio am ardrethi annomestig a’u casglu.

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 - agored

Mae ymgynghoriad technegol ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 drafft yn agored am ddeuddeg wythnos, o 19 Gorffennaf i 11 Hydref 2022. Bydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu diwygiadau i'r broses apelio ar gyfer ardrethi annomestig, o 1 Ebrill 2023.

Mae'r ymgynghoriad canlynol yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac mae'n cael ei redeg gan Lywodraeth y DU.

Digideiddio Ardrethi Busnes: cysylltu data ardrethi busnes a threth - agored 

Ymgynghoriad ar opsiynau polisi a dylunio TG i ddigidoli ardrethi busnes. Mae'r ymgynghoriad ar agor rhwng 20 Gorffennaf a 30 Medi 2022. Mae cwestiwn 1 yn benodol i Gymru. Nod y rhaglen ddigidoli yw cysylltu data a gedwir gan awdurdodau bilio â data treth CThEM a gwella profiad y cwsmer ar gyfer trethdalwyr. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys y potensial i ddarparu data ychwanegol i lywodraeth ganolog a llywodraeth leol i dargedu a gweinyddu polisïau'n well i gefnogi lefelu.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth gan randdeiliaid ar y diweddariad hwn. Anfonwch unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf ym mis Hydref 2022 (amodol).

Dolenni defnyddiol: 
Llywodraeth Cymru
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.