Cynnwys
1. Crynodeb
Mae hawlfraint yn diogelu mynegiant o syniad, nid y syniad ei hun. Mae’r adran hwn yn esbonio beth sy’n dod o dan hawlfraint a sut mae diogelu’ch gwaith.
2. Hawlfraint
Mae hawlfraint yn diogelu deunyddiau llenyddol ac artistig, cerddoriaeth, ffilmiau, ffotograffau, cyfieithiadau, recordiadau sain a darllediadau, meddalwedd a gweithiau aml-gyfrwng.
Mae’n diogelu mynegiant o syniad, nid y syniad ei hun. Mae’n diogelu gwaith sy’n greadigol ac yn wreiddiol, ac yr oedd angen rhywfaint o sgil a llafur i’w gwblhau.
Mae hawlfraint yn diogelu rhag copïo, felly os bydd rhywun arall yn meddwl am yr un peth yn annibynnol, nid yw’n torri hawlfraint.
Mae cyfraith hawlfraint yn canolbwyntio ar ymelwa’n fasnachol. Mae’n caniatáu i awdur neu grëwr darn o waith gwreiddiol i gopïo, dosbarthu ac addasu ei waith, a'r hawl i ganiatáu i eraill wneud hynny un ai drwy drwyddedu ei hawlfraint neu ei drosglwyddo'n llwyr (aseinio).
Mae rhagor o wybodaeth am hawlfraint ar gael ar wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol
Hawl awtomatig
Mae hawlfraint yn hawl awtomatig sy’n golygu nad oes yn rhaid i chi wneud cais ar ei gyfer. Yn gyffredinol, mae hawlfraint yn berchen i awdur neu grëwr darn o waith â hawlfraint, oni bai ei fod wedi cael ei greu yn ystod cyfnod o gyflogaeth, ac os felly byddai’n eiddo i’r cyflogwr.
Er enghraifft, mae hyn yn golygu y byddai meddalwedd sydd wedi cael ei chreu gan raglennwr sy’n cael ei gyflogi gan gwmni, yn eiddo i’r cwmni. Fodd bynnag, mae meddalwedd sydd wedi’i chreu dan gomisiwn, gan raglennwr meddalwedd llawrydd, er enghraifft, yn eiddo i’r rhaglennwr, oni bai fod cytundeb ysgrifenedig sy’n nodi fel arall.
Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei anghofio’n aml, a gall hynny achosi problemau.
Am ba mor hir mae rhywbeth yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint
Mae pa mor hir mae rhywbeth yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint yn wahanol ar gyfer gwahanol weithiau. Mae cyfnod diogelu gwaith sy’n deillio o’r DU neu'r Undeb Ewropeaidd fel y gwelir isod:
- gweithiau llenyddol, dramatig, cerddorol ac artistig, e.e. llyfrau, dramâu, caneuon, paentiadau, yn ogystal â meddalwedd a chronfeydd data sy’n cael eu hystyried yn waith llenyddol – Oes yr awdur + 70 o flynyddoedd
- gwaith dienw – 70 o flynyddoedd ar ôl cyhoeddi
- trefniannau argraffyddol – 25 o flynyddoedd ar ôl cyhoeddi am y tro cyntaf
- recordiadau sain – 50 o flynyddoedd ar ôl y dyddiad creu neu ryddhau
- ffilm – 70 o flynyddoedd ar ôl marwolaeth yr olaf i farw o blith y prif gyfarwyddwr, awdur y sgript ffilm, awdur y ddeialog neu gyfansoddwr y sgôr
- darlledu – 50 o flynyddoedd ar ôl y darllediad cyntaf
Cofiwch, efallai bod hyn yn wahanol ar gyfer gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Defnyddiwchy templed adolygu hwn (MS Word 12kb) i adolygu'r hawlfraint sy'n eiddo i'ch busnes chi.