Cynnwys
- 1. Crynodeb
- 2. Nodau Masnach
- 3. Nodau Masnach Cofrestredig
- 4. Enwau Parth
- 5. Nodau Masnach Heb eu Cofrestru
1. Crynodeb
Arwydd neu ddangosydd sy’n gwneud eich nwyddau a'ch gwasanaetha’n fwy amlwg na rhai eraill. Mae nodau masnach yn asedau gwerthfawr iawn. Mae’r adran hwn yn taro golwg ar nodau masnach cofrestredig a rhai heb eu cofrestru, yn ogystal ag enwau parth.
2. Nodau Masnach
Arwydd neu ddangosydd sy’n amlygu’ch nwyddau a'ch gwasanaethau o gymharu â rhai eraill. Mae modd i nodau masnach fod yn rhai cofrestredig, fel y nodir gan y symbol ®, neu’n rhai heb eu cofrestru, ac fel rheol, nodir y rhain gan y symbol ™.
Defnyddiwch y templed nodau masnach hwn (MS Word 12kb) hwn i ysgogi syniadau ar gyfer eich cynnyrch newydd trwy ddefnyddio SCAMPER.
3. Nodau Masnach Cofrestredig
Mae nod masnach cofrestredig yn ased gwerthfawr iawn, ac mae’n caniatáu i chi reoli pwy all ei ddefnyddio, e.e. gallwch drwyddedu’ch nodau masnach fel rhan o fasnachfraint.
Gall nodau masnach fod yn:
- nodau geiriau, megis “Kodak”
- logos, megis “swoosh” Nike
- nodau siapiau, fel potel Coca-Cola
- neu unrhyw nod arall, sy’n golygu bod modd adnabod y nwyddau y mae wedi cofrestru ar eu cyfer, ac y mae modd ei gynrychioli ar ffurf graffig, er enghraifft
- slogan – “Because you’re worth it” – L’Oreal
- sain – Intel a’r drefn cordiau 3 eiliad sy’n cael ei defnyddio gyda'r prosesydd Pentium
- neu hyd yn oed arogl
Cyn y byddwch chi’n dechrau defnyddio nod masnach (a cyn y byddwch chi’n dechrau gwario arian ar nodi hynny ar wefan, taflenni, ac ati), gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio nad oes rhywun arall wedi cofrestru’r nod neu’r enw rydych chi wedi’i ddewis yn barod.
Rhaid i rywun proffesiynol chwilio drwy nodau masnach yn drylwyr, er bod modd i chi chwilio’n gyflym ar-lein i ddechrau.
- cofrestriadau nodau masnach yn y DU
- cofrestriadau nodau masnach yn yr Undeb Ewropeaidd
- gwledydd Ewrop
Mae cofrestrfeydd nodau masnach nifer o wledydd eraill ar gael ar-lein.
Offeryn pwerus arall sydd ar gael ydy eSearch ar wefan Swyddfa Cysoni'r Farchnad Fewnol (OHMI). Mae hyn yn caniatáu i chi chwilio am nodau masnach a dyluniadau yn yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd.
Gall nod masnach cofrestredig bara am byth os bydd yn cael ei adnewyddu (bob deng mlynedd fel rheol). Gellir ei ddiddymu os nad yw’n cael ei ddefnyddio mwyach.
Sut mae nodau masnach yn cael eu cofrestru
Mae nodau masnach yn cael eu cofrestru mewn dosbarthiadau penodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau penodol. Mae system ddosbarthu Nice yn dosbarthu nwyddau a gwasanaethau o dan 45 pennawd bras. Bydd angen i chi nodi’r dosbarthiadau a’r nwyddau a/neu’r gwasanaethau penodol rydych chi’n dymuno cofrestru’r nod masnach ar eu cyfer.
Os yw eich nod masnach yn dod o dan fwy nag un dosbarth, mae angen talu ffioedd pellach.
Mae rhagor o wybodaeth am y system Ddosbarthu ar gael ar wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.
http://www.ipo.gov.uk/types/tm/t-os/t-find-class.htm
Ble mae defnyddio diogelwch nod masnach
Gallwch ddefnyddio nodau masnach cofrestredig i ddiogelu enw neu logo eich busnes, yn ogystal ag enwau a logos eich cynnyrch neu'ch gwasanaethau.
Bydd yn rhaid i chi gofrestru’ch nodau masnach yn ôl y marchnadoedd rydych chi’n gweithio ynddyn nhw:
- yn y DU yn unig – ewch i wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol
- ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y DU – ewch i wefan Swyddfa Cysoni'r Farchnad Fewnol
- mewn awdurdodaethau tramor ar wahân – ewch i Swyddfa Eiddo Deallusol neu i Gofrestrfa Nodau Masnach y wlad dan sylw
- yn rhyngwladol drwy Brotocol Madrid – ewch i wefan Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO)
4. Enwau Parth
Gall hefyd fod yn bosib cofrestru'ch enw parth fel nod masnach.
Mae enwau parth yn offeryn busnes pwysig, sy’n cael ei esgeuluso’n aml. Gall cael yr enw parth gorau ar gyfer eich busnes fod yn hanfodol.
Maen nhw’n cael eu rheoleiddio ar wahân i nodau masnach ac enwau cwmnïau.
Nid yw cofrestru enw parth yn cyflwyno unrhyw hawliau nodau masnach.
Mae enwau parth yn cael eu cofrestru drwy un o’r nifer o gofrestrfeydd enwau parth, ac maen nhw’n cael eu cofrestru ar sail y cyntaf i’r felin.
Byddwch yn ymwybodol o “seibr-sgwatio”, pan fydd trydydd parti’n cofrestru enw parth sy’n cyd-fynd â nod masnach neu enw busnes adnabyddus, mewn ysbryd anonest, heb unrhyw hawl i wneud hynny.
Mae gwybodaeth am sut mae atal seibr-sgwatio.
5. Nodau Masnach Heb eu Cofrestru
Mewn rhai gwledydd, yn arbennig gwledydd lle ceir ‘cyfraith gwlad’ fel y DU, mae nodau masnach yn cael eu diogelu rywfaint, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi cael eu cofrestru.
Fodd bynnag, nid yw nodau masnach heb eu cofrestru’n cael eu diogelu cymaint â nodau masnach cofrestredig.
Er enghraifft, gall nod masnach sydd heb ei gofrestru cael ei ddiogelu gan ddeddf “Peri Coel”. Mae hyn yn atal trydydd parti rhag peri coel mai ei nwyddau ef yw’ch rhai chi.
Er mwyn llwyddo gyda chamau gweithredu yn erbyn Peri Coel, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ddangos bod gennych chi enw da gyda’r nod masnach (drwy arolygon cwsmeriaid helaeth, ac yn aml iawn, drud) a dangos bod camau’r trydydd parti’n golygu rhyw lefel o niwed i chi.
Mae’n llawer haws a rhatach diogelu’ch nodau masnach drwy eu cofrestru nhw.
I gael cymorth proffesiynol gyda nodau masnach, ewch i www.itma.org.uk