BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y Sector Cyfreithiol yng Nghymru

Meithrin sector cyfreithiol gwydn ar gyfer Cymru

Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i gefnogi twf a gwytnwch y sector cyfreithiol yng Nghymru ac i helpu cwmnïau cyfreithiol, meintiau bach i ganolig, gyflawni eu nodau, a hynny’n hyderus.

Er mwyn ffynnu, rhaid i arweinwyr a phractisiau cyfreithiol oresgyn heriau cyffredin mewn perthynas â mwy o gystadleuaeth, cynlluniau dilyniant, recriwtio a chadw, arweinyddiaeth, amrywiaeth a chynhwysiant, technoleg, gweithrediadau busnes a marchnata.

Gall Busnes Cymru eich cynorthwyo. Rydym yn cynnig adnoddau pwrpasol, mewnwelediad, hyfforddiant a chymorth ar gyfer y sector cyfreithiol yng Nghymru, am ddim, dan arweiniad arbenigwyr. Gallwch drawsnewid a ffynnu gyda chymorth ein hymgynghorwyr arbenigol. Cliciwch yma i siarad ag un o’n Rheolwyr Perthynas heddiw.

Cymorth am ddim er mwyn trawsnewid busnes cyfreithiol

Y Sector Cyfreithiol yng Nghymru

Gall y sector cyfreithiol yng Nghymru elwa o gymorth am ddim gan Busnes Cymru, er mwyn cynorthwyo â thrawsnewidiad eich practis. Gall busnesau cyfreithiol yng Nghymru fynnu ein cyngor a chymorth twf busnes arbenigol, sy’n mynd i’r afael â strategaeth, arweinyddiaeth, recriwtio a chadw, marchnata,
cynlluniau dilyniant, hyfforddiant, a mwy.

Gadewch i unigolion, sydd eisoes wedi gweithio gyda ni i drawsnewid eu busnesau, eich ysbrydoli, a gwyliwch ein cyfres newydd o gyfweliadau gyda chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, sydd ar gael yn ein hadran ‘Ysbrydoliaeth Trawsnewid’ isod.


Gall Busnes Cymru gynorthwyo eich practis cyfreithiol drwy eich cynghori ar y canlynol:

  • Newid prosesau a thechnoleg 
  • Recriwtio a chadw
  • Amrywiaeth a chynhwysiant
  • Rheoli effaith cymdeithasol ac amgylcheddol eich busnes
  • Allgludo gwasanaethau cyfreithiol yn rhyngwladol
  • Ehangu i farchnadoedd newydd  
  • Diwylliant y gweithle
  • Addysg a hyfforddiant 
  • Cynlluniau dilyniant
  • Arwain a rheoli 
  • Marchnata

Gallwn eich helpu â llawer mwy.

Siaradwch ag ymgynghorydd

 


Sector hanfodol ar gyfer Cymru

Mae'r sector cyfreithiol yng Nghymru’n chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi unigolion, cymunedau, a’r gymuned fusnes, ac mae'n cyfrannu’n sylweddol at economi fyd-eang Cymru.

Gwrandewch ar Weinidog Economi Cymru, Vaughan Gethin AS a Chwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antonwi AS, isod, wrth iddynt fyfyrio ar rôl hanfodol sector cyfreithiol Cymru wrth gefnogi a grymuso unigolion, cymunedau a busnesau yng Nghymru ac yn
rhyngwladol, pwysigrwydd economaidd y sector a buddion manteisio ar gymorth am ddim dan arweiniad arbenigol gan Busnes Cymru.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Ysbrydoliaeth trawsnewid

Gadewch i fusnesau cyfreithiol yng Nghymru sydd ar eu taith trawsnewid, gan gynnwys y rheiny sydd wedi elwa o’r cymorth a gynigir gan Busnes Cymru, eich ysbrydoli chi.

Yn ein cyfres ddiweddar o gyfweliadau, rydym yn trafod â chyfarwyddwyr, partneriaid a chwmnïau cyfreithiol newydd
ledled Cymru er mwyn archwilio sut maent yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau craidd sy’n wynebu’r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymry, o amrywiaeth a chynhwysiant i recriwtio, defnydd datblygedig technoleg, arferion gweithio hybrid, profiadau entrepreneuriaid a chymorth a
chyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr yng Nghymru.



Cefnogaeth ar gyfer y Sector Cyfreithiol

Cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Perthynas Busnes heddiw i archwilio sut gall Busnes Cymru helpu eich cwmni cyfreithiol i dyfu a meithrin gweithle y mae pobl yn awyddus i weithio ynddo.

Siaradwch ag ymgynghorydd

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.