BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cynllunio ar gyfer Dilyniant o fewn Cwmni Cyfreithiol yng Nghymru

Mae cynllunio dilyniant yn allweddol i gwmnïau cyfreithiol o bob maint, oed a lleoliad - p’un
a ydych yn ystyried gwerthu eich cwmni, uno, caffael neu sefydlu eich cwmni eich hun. 

Gall Busnes Cymru helpu eich cwmni cyfreithiol i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr ac arweinwyr yn meddu ar yr uchelgais, yr offer a’r cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Cawsom sgwrs â Glyn Lloyd, Partner yn Newfields Law, Gareth Gwyndaf Jones, Cyfarwyddwr
Gomer Williams & Co, Emily Littlehales, Partner yn Celtic Law, ac Edward Friend, Partner yn Carreg Law, i glywed sut maent wedi creu gweledigaeth gynaliadwy a chadarn ar gyfer dyfodol eu cwmnïau cyfreithiol, p’un a yw hynny’n golygu mynd i’r afael â thoriadau i Gymorth Cyfreithiol, mwy o gystadleuaeth, neu’r angen i ddenu a chadw talent newydd yn ardaloedd gwledig Cymru.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Cymorth am ddim er mwyn trawsnewid busnes cyfreithiol

Ysbrydoli Trawsnewid y Sector Cyfreithiol

Cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Perthynas Busnes heddiw i archwilio sut gall Busnes Cymru helpu eich cwmni cyfreithiol i dyfu a meithrin gweithle y mae pobl yn awyddus i weithio ynddo.

Siaradwch ag ymgynghorydd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.