Mae cwmni cracyrs o Ganolbarth Cymru, Cradoc’s Savoury Biscuits, yn dathlu ar ôl ennill yr achrediad SALSA hollbwysig, gyda chymorth Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

Cafodd Cradoc’s gymorth gan Lywodraeth Cymru a phrosiect HELIX a ariannwyd gan yr UE, menter strategol Cymru gyfan sy’n cael ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru, sef partneriaeth o dair canolfan fwyd sydd wedi’u lleoli yng Gogledd Cymru, y Canolbarth/Gorllewin Cymru a De Cymru. Mae achrediad SALSA yn dangos bod cyflenwyr cymeradwy yn gweithredu i safonau sy’n cael eu cydnabod a’u derbyn ar draws y diwydiant, ac yn rhagori ar y safonau gofynnol a ddisgwylir gan awdurdodau gorfodi.

Wedi’i leoli yn Aberhonddu, cychwynnodd Cradoc’s Savoury Biscuits yn 2008 gyda ffocws cryf ar bobi o’r ansawdd uchaf. Ond, ar ôl ennill gwobr Den Arloesi Bwyd a Diod Cymru yn ddiweddar, sef gwerth £10,000 o gymorth gan y cyfryngau a rhestriad gyda CH&CO Group, cyfanwerthwr bwyd, roedd yn ofynnol i gael achrediad SALSA.  

Dywedodd Allie Thomas perchennog Cradoc’s, "Mae twf yn ein busnes wedi ein harwain i gael safle newydd eleni ac roedd yr achrediad yn rhan hanfodol o’n hadleoli. Fe wnaeth ein cynghorydd busnes ein gwneud yn ymwybodol bod cefnogaeth fentora ar gael gan Lywodraeth Cymru trwy Brosiect HELIX i'n helpu i gyflawni'r achrediad a dyna ddechrau'r daith.

“Cawsom fentor Arloesi Bwyd Cymru i’n helpu i nodi’r bylchau yn ein HACCP cyfredol (dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol) a rhoi cynllun at ei gilydd i ddatblygu system ymarferol ac adeiladu ein busnes cynyddol o amgylch SALSA.

“Daeth ein mentor Jackie Evans yn rhan o'n tîm hefyd. Fel Technolegydd Bwyd mae ganddi’r holl wybodaeth a’r gallu i weithio gyda chwmnïau sy’n cychwyn ar eu taith neu’n  uwchraddio eu busnes. Diolch i'w chefnogaeth roeddem yn gallu creu system ddiogel a dibynadwy. "

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, drwy’r Prosiect HELIX a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gefnogi cost y mentor, o’r dechrau i’r diwedd, dros gyfnod o naw mis.

Ychwanegodd Allie Thomas,

"Mae’n newyddion ardderchog i ni ein bod yn cael yr achrediad gan y byddwn yn awr yn bodloni cyflenwyr bwyd mawr fel Castell Howell, CH&CO, BaxterStorey ac Elior, sy’n gwasanaethu rhai o’r defnyddwyr bwyd mwyaf yn y DU.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at y gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i'n dosbarthiad." 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Mae Cradoc’s Savoury Biscuits yn BBaCh rhagorol, gyda brwdfrydedd ac uchelgais go iawn. Maen nhw wedi profi eu hunain yn y sector bwyd a byddant yn parhau i adeiladu ar y cyflawniad hwn.

“Mae’r potensial i adeiladu momentwm yn y sector bwyd gyda’r gefnogaeth gywir yn amlwg. Byddant yn gallu gweithio gyda'u cyfanwerthwyr bwyd targed ac anelu at dyfu o ganlyniad i'r holl waith caled hwn.

“Mae Cradoc’s yn enghraifft fendigedig o’n huchelgais i ddatblygu diwydiant bwyd a diod Cymru ymhellach trwy weithio ar y cyd o fewn y sector er mwyn datblygu graddfa, gwerth a chynhyrchedd busnesau, trwy fuddsoddiad wedi’i dargedu, cefnogaeth, arloesedd a gweithgarwch cydweithredol.”

Am ragor o wybodaeth am Cradoc’s Savoury Biscuits ewch i www.cradocssavourybiscuits.co.uk/

Share this page

Print this page