1. Cyflwyniad

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu anelu at safonau uchaf arferion busnes moesegol gyda phawb yr ydych chi’n delio gyda nhw, gan gynnwys eich gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr. Mae hyn yn golygu:

  • trin pob gweithiwr yn deg a chydag urddas a pharch
  • sicrhau fod eich gwasanaethau a’ch adnoddau, hyd y mae’n bosib, ar gael i bawb
  • gofalu fod pob maes yn eich busnes yn darparu amgylchedd iach a diogel i weithwyr, ymwelwyr a chontractwyr
  • ystyried oblygiadau moesegol ac amgylcheddol ym mhob gweithgaredd, fel cyrchu cyflenwadau yn lleol os yn bosib
  • peidio â phrynu gan unrhyw sefydliad y mae ei gynhyrchion yn cael eu gwneud trwy ymelwa ar lafur plant, talu cyflogau annheg mewn amodau gwaith gwael neu unrhyw darfu arall ar hawliau gweithwyr neu hawliau dynol
  • bod yn onest a thryloyw yn eich cyfathrebu gyda’ch gweithwyr

2. Manteision marchnata moesegol

Gall gwrando ar eich gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr a chydweithio gyda nhw fod yn llesol i’ch busnes. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi elwa ar weithredu’n foesegol:

  • gwella’ch enw da fel sefydliad sy’n un da i ddelio gydag ef
  • cynyddu gwerthiant wrth i gwsmeriaid ddewis yn gynyddol wneud eu penderfyniadau prynu yn ôl ffactorau mwy na rhai ariannol yn unig
  • denu buddsoddiad – mae mwy a mwy o fuddsoddwyr yn cael eu symbylu gan ystyriaethau moesegol
  • cynnal teyrngarwch a brwdfrydedd staff trwy drin pobl yn deg a chynnig cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu
  • cynyddu ymddiriedaeth yn eich busnes trwy feithrin cysylltiadau da a bod yn dryloyw yn eich gweithgareddau
  • hybu incwm trwy agor eich busnes i syniadau newydd
  • osgoi cyhoeddusrwydd gwael gan gyflenwyr diegwyddor
  • cynyddu teyrngarwch cwsmeriaid

Gall pob un o’r rhain wneud eich busnes yn fwy cystadleuol a helpu i’ch gwneud yn fwy llwyddiannus. 

3. Mynd ati

Rhan hanfodol o fod yn fusnes cyfrifol yw masnachu gonest a thryloyw. Dyma rai egwyddorion cyffredinol i’w dilyn:

  • trin pawb sy’n dod i gysylltiad â’ch busnes gyda pharch ac urddas
  • bod yn onest ac yn eglur yn eich holl gyfathrebu, yn enwedig ynglŷn â’ch cynhyrchion a gwasanaethau
  • rhoi gwybodaeth eglur a chadw pobl yn y pictiwr trwy gydol y broses werthu
  • cydnabod unrhyw broblemau a delio gyda nhw’n syth
  • gofyn am adborth i helpu i wella’ch cynhyrchion a gwasanaethau
  • defnyddio cynhyrchion masnach deg (rhai sy’n dangos label Masnach Deg) – mae hyn yn helpu i sicrhau fod hawliau sylfaenol y cynhyrchwyr yn cael eu parchu a bod datblygu cynaliadwy yn cael ei hyrwyddo 

Wrth ddelio gyda’ch cyflenwyr fe ddylech:

  • dorri’r ‘dyn yn y canol’ allan hyd y mae’n bosib a datblygu cysylltiadau hirdymor, uniongyrchol
  • ceisio defnyddio cyflenwyr lleol gymaint ag sy’n bosib – mae hyn yn helpu i gefnogi’ch cymuned leol ac yn lleihau allyriadau carbon
  • edrych ar eu harferion o ran cyflogi, iechyd a diogelwch a’r amgylchedd
  • cynllunio ymlaen llaw – rhowch amserlenni clir a chyraeddadwy i gyflenwyr gan sicrhau fod eu gweithwyr yn gweithio oriau rhesymol
  • eu trin  yn deg bob amser, gan arwyddo’r Cod Talu'n Brydlon ac ymrwymo i dalu iddyn nhw ar amser

Gall dewis eich cyflenwyr yn ofalus fod yn rhan bwysig o'ch agwedd o fod yn fusnes cyfrifol. Uwchlaw pob dim, cofiwch gadw cysylltiad rheolaidd efo nhw. Nid rhywbeth i'w wneud unwaith yn unig ydy masnach foesegol. 

4. Delio’n foesegol gyda chyflenwyr

Mae cyflenwyr yn chwarae rhan bwysig yn eich busnes ac mae meithrin perthynas dda yn allweddol i’ch llwyddiant. Gan ddibynnu ar natur eich busnes, gall eich cadwyn gyflenwi fod yn eithaf cymhleth ac yn cynnwys nid yn unig y cyflenwyr y byddwch yn delio gyda nhw bob dydd, ond hefyd y rhai sy’n cyflenwi’ch cyflenwyr heb gysylltiad uniongyrchol gyda chi.  

Mae ychydig o ofynion cyfreithiol arnoch i gymryd cyfrifoldeb dros ymddygiad eich cyflenwyr; fodd bynnag fe all ystyried y dimensiynau moesegol fod yn fanteisiol iawn i’ch busnes. Dyma rai arferion cyfrifol y gallech eu mabwysiadu ar gyfer eich cadwyn gyflenwi a gwella’r ffordd yr ydych yn delio gyda’ch cyflenwyr.

  • ystyried defnyddio cyflenwyr lleol gymaint ag sy’n bosib – mae hyn yn helpu i gefnogi’ch cymuned leol ac yn lleihau allyriadau carbon
  • torri'r ‘dyn yn y canol’ allan hyd y mae’n bosib a datblygu cysylltiadau hirdymor, uniongyrchol
  • cynllunio ymlaen llaw a rhowch amserlenni clir a chyraeddadwy i’ch cyflenwyr
  • gwneud yn siŵr nad ydych chi’n prynu gan unrhyw sefydliad y mae ei gynhyrchion yn cael eu cynhyrchu trwy ymelwa ar lafur plant, talu cyflogau annheg mewn amodau gwaith gwael neu unrhyw darfu arall ar hawliau gweithwyr neu hawliau dynol
  • adeiladu hyder trwy gynnal safonau uchel mewn hanfodion fel talu i’ch cyflenwyr ar amser a chyflenwi nwyddau ar amser yystyriwch arwyddo’r Cod Talu'n Brydlon i ddangos eich ymrwymiad
  • cydymffurfio ag anghenion archwilio eich cwsmeriaid a chyflenwyr a cheisiadau ffurfiol eraill.
  • defnyddio diwydrwydd dyladwy i asesu gyda phwy’r ydych chi’n delio

5. Osgoi llwgrwobrwy a llygru

Elfen hanfodol mewn bod yn fusnes cyfrifol yw masnachu yn onest a thryloyw. Mae Deddf Llwgrwobrwyo’r Deyrnas Unedig 2010 yn ei gwneud hi’n drosedd i drigolion, dinasyddion a chwmnïau’r Deyrnas Unedig (neu gwmnïau tramor yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig) yn unrhyw le yn y byd roi neu dderbyn llwgrwobr. Gall cwmnïau gael eu herlyn os byddan nhw’n methu atal llwgrwobrwyo ar eu rhan gan eu gweithwyr a phobl gysylltiedig eraill.

Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i leihau risg a dangos fod eich busnes wedi gweithredu’n ddigonol:

  • asesu a oes risg i’ch busnes, ac os felly, beth yw lefel y risg
  • sefydlu polisi gwrth lwgrwobrwyo a llygredd
  • defnyddio diwydrwydd dyladwy i asesu gyda phwy’r ydych chi’n delio a phwy i’w penodi i’ch cynrychioli
  • cyfathrebu, codi ymwybyddiaeth a hyfforddi’ch gweithwyr a phartneriaid busnes – a gofalu eich bod yn cadw cofnodion ariannol cywir fel y gallwch ddangos fod yr holl drafodion yn cael eu cwblhau’n deg ac yn gyfreithlon
  • monitro ac adolygu’ch dulliau gweithredu
  • hysbysu’r awdurdodau lleol os byddwch yn amau busnes o lygru

Dylai’ch polisi gwrth-lwgrwobrwyo gynnwys:

  • gwaharddiad clir ar gynnig, rhoi neu dderbyn llwgrwobrwyon
  • manylion y gweithdrefnau y dylid eu dilyn yn ystod trafodion busnes
  • canllawiau ar gyfer darparu rhoddion, lletygarwch neu dreuliau a allai ddylanwadu ar ganlyniad trafodion busnes
  • canllawiau ar roddion gwleidyddol ac elusennol, gan gynnwys gwahardd rhoddion i bleidiau gwleidyddol neu elusennau sydd â chysylltiad uniongyrchol gyda derbyn busnes newydd neu ennill mantais i’r busnes
  • gofalu nad yw unrhyw roddion sy’n cael eu gwneud gyda phob ewyllys da yn cael eu datgelu’n gyhoeddus

Nodwch nad yw’r canlynol yn cael eu hystyried yn llwgrwobrwyo:

  • darparu lletygarwch busnes didwyll
  • gweithgareddau hyrwyddo cymesur a rhesymol