1. Trosolwg

Mae rhai pethau pwysig i'w hystyried cyn cyflwyno cynnig. Efallai na fyddwch ond yn gallu gweld memorandwm gwerthu'r busnes i ddechrau. Bydd gwerthwyr gan amlaf yn gofyn i chi lofnodi ymgymeriad cyfrinachedd neu gytundeb peidio â datgelu cyn y gallwch weld gwybodaeth sensitif neu fanwl. Byddant gan amlaf hefyd yn gofyn am fanylion amdanoch chi (drwy CV) a thystiolaeth o'ch gallu i brynu'r busnes.

Bydd ymarfer diwydrwydd dyladwy yn cael ei gynnal ar ôl i gynnig gael ei wneud a'i dderbyn. Golyga hyn y bydd y prynwr yn edrych ar y busnes yn fanwl, gan gynnwys ei sefyllfa ariannol, ei weithwyr, ymgyfreitha sydd dros ben, contractau mawr, TG a mathau eraill o dechnoleg.

Gall ymddangos yn waith cymhleth, ond gall gweithwyr proffesiynol fel cyfrifwyr, cyfreithwyr, syrfewyr siartredig, asiantwyr trosglwyddo busnes, brocwyr busnes a chyllidwyr corfforaethol eich helpu. Gallwch hefyd wneud rhywfaint o'r gwaith ymchwil eich hun.

2. Asesu asedau cwmni

Unwaith yr ydych yn canfod busnes y mae gennych ddiddordeb ynddo, y peth cyntaf i'w wneud yw gwybod beth yn union sydd ar werth, neu benderfynu pa rannau o'r busnes y mae gennych ddiddordeb yn eu prynu. Efallai y byddwch yn cytuno i brynu'r busnes cyfan neu ei asedau'n unig, hy ei gyfarpar, stoc a'i lyfr archebion. Os nad ydych ond yn dymuno prynu'r asedau, bydd angen i chi benderfynu a fydd y gwerthwr yn eu gwerthu gydag iawndal neu hebddo yn sgil colli buddion treth, er enghraifft o werthu cyfranddaliadau.

Os ydych yn dymuno cyflwyno cynnig am y busnes cyfan neu ei asedau'n unig, mae angen cadarnhau sawl peth pwysig, gan gynnwys:

  • a oes gan y busnes berchenogaeth gyfreithiol lawn o'r holl asedau allweddol gan gynnwys y peiriannau, y cyfarpar a'r eiddo. Gofynnwch am gael gweld dogfennau sy'n profi bod yr holl gyfarpar a'r stoc yr ydych yn eu prynu wedi'u talu amdanynt yn llwyr ac nad ydynt ar brydles i'r busnes - er enghraifft, archwiliwch drwyddedau meddalwedd y cyfrifiaduron.
  • a oes ganddo warantau ar gyfer pob darn sylweddol o gyfarpar sy'n rhan o'r gwerthiant gan gynnwys cyfrifiaduron, llungopïwyr, cerbydau, etc.
  • a yw unrhyw eiddo deallusol wedi'u diogelu a'u cofrestru. Gall y Swyddfa Eiddo Deallusol neu gyfreithiwr patentau eich helpu i gadarnhau hyn.
  • beth yn union sydd ynghlwm â chontractau â chyflenwyr a chwsmeriaid allweddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth yn union y mae gofyn i'ch busnes ei wneud ar lefel gyfreithiol.

Yn dilyn hyn bydd gofyn i chi benderfynu beth yw gwerth yr asedau hyn, er y bydd gofyn i chi hefyd edrych ar ddogfennau fel ei gyfrif elw a cholled er mwyn rhoi gwerth ar y busnes cyfan.

Noder nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Efallai y bydd angen i chi gadarnhau pethau eraill hefyd, gan ddibynnu ar y busnes yr ydych yn ystyried ei brynu. Byddai'n ddoeth ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o bennu gwerth busnesau a'u hasedau, fel cyfrifwyr, cyfreithwyr, syrfëwyr siartredig, asiantwyr trosglwyddo busnes, brocwyr busnes a chyllidwyr corfforaethol.

Os yw'r busnes wedi cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau gallwch hefyd gael copïau o'r cyfrifon, y datganiad blynyddol ynghyd â dogfennau eraill allweddol y mae'r busnes wedi'u ffeilio gan ddefnyddio gwasanaeth WebCHeck Tŷ'r Cwmnïau. Gall y dogfennau gael eu lawrlwytho o wefan Tŷ'r Cwmnïau. Codir ffï am rai ohonynt. Bydd y dogfennau hyn yn eich helpu i asesu gwerth y busnes a'i asedau.
Am ein gwasanaethau - Tŷ'r Cwmnïau - GOV.UK (www.gov.uk)

3. Gwiriadau cyfreithiol ac ariannol

Pan fyddwch yn ystyried prynu busnes, gofynnwch am unrhyw wybodaeth yr ydych yn dymuno ei gweld oddi wrth y gwerthwyr. Dylent fod yn barod i ddarparu'r wybodaeth hon, ond efallai y bydd yn rhaid i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd. Bydd y gwerthwr yn dymuno diogelu rhai agweddau ar y busnes, felly efallai na chaiff rhywfaint o wybodaeth ei datgelu hyd yn agos at y dyddiad cwblhau - er gwaethaf y ffaith eich bod wedi llofnodi cytundeb cyfrinachedd.

Ymysg y materion cyfreithiol ac ariannol y mae angen i chi eu gwirio a derbyn cymorth â hwy y mae:

Gwybodaeth am y busnes

Cadarnhewch a oes gan y gwerthwr yr hawl cyfreithiol i werthu'r busnes gan y gallai fod mwy nag un penderfynwr ynghlwm â'r mater. Os yw'r busnes yn gwmni sydd wedi cofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau byddwch yn gallu derbyn yr wybodaeth angenrheidiol oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau.

Y cynllun busnes gwreiddiol

Gofynnwch a allwch weld y cynllun busnes gwreiddiol. Bydd y cynllun hwn yn amlinellu materion fel cyllid cychwynnol a allai eich hysbysu ynghylch unrhyw fenthyciadau sy'n weddill, er enghraifft.

Ymrwymiadau ariannol

Gofynnwch a allwch weld cyfrifon y busnes, gan gynnwys y cyfrif elw a cholled manwl a'r fantolen. Gallai'r dogfennau hyn ynghyd â dogfennau eraill fod ar gael o Dŷ'r Cwmnïau os yw'r busnes wedi'i ffurfio'n gyfreithiol fel cwmni.

Gofynnwch am ddogfennau ynghylch unrhyw fenthyciadau a dyledion sy'n weddill. Gofynnwch i'ch cyfrifydd archwilio unrhyw fanylion ariannol.

Perchenogaeth asedau

Cadarnhewch fod gan y busnes berchenogaeth gyfreithiol o'i asedau allweddol a chadarnhewch y telerau. Gofynnwch i'ch cyfreithiwr archwilio gweithredoedd eiddo y mae'r busnes yn berchen arno, er enghraifft, neu gofynnwch am y cytundeb rhentu a siaradwch â'r landlord os ydych yn dymuno rhedeg y busnes o'i safle presennol.

Camau cyfreithiol

Gofynnwch i'r Registry Trust am unrhyw achosion llys neu gamau ynghylch taliadau hwyr yn erbyn y busnes neu gan y fusnes a allai effeithio ar ei sefyllfa ariannol neu ei enw da.

Os yw'r cwmni wedi cofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau gallwch dderbyn copïau o gyfrifon y cwmni, y datganiad blynyddol a'r dogfennau eraill allweddol y mae'r busnes wedi'u ffeilio gan ddefnyddio gwasanaeth WebCHeck Tŷ'r Cwmnïau. Gall y dogfennau gael eu lawrlwytho o wefan Tŷ'r Cwmnïau. Codir ffï am rai ohonynt. Bydd y dogfennau hyn yn eich helpu i asesu gwerth y busnes a'i asedau. Darllenwch wybodaeth am wasanaeth WebCHeck Tŷ'r Cwmnïau ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.

Dylech hefyd ofyn am wybodaeth a dogfennau ynghylch gweithwyr presennol y busnes, TG a thechnoleg arall ynghyd â materion sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd. Byddai'n ddoeth ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o bennu gwerth busnesau a'u hasedau, fel cyfrifwyr, cyfreithwyr, syrfëwyr siartredig, asiantwyr trosglwyddo busnes, brocwyr busnes a chyllidwyr corfforaethol.

4. Gwiriadau cyflogaeth, TG a'r amgylchedd

Un o'r ystyriaethau allweddol wrth ystyried prynu busnes yw ei weithwyr presennol. Gan amlaf mae'n rhaid i berchennog newydd busnes barhau i gyflogi'r staff presennol ar eu telerau a'u hamodau presennol yn unol â rheolau a adwaenir fel Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE).

Eich prif ystyriaeth wrth asesu busnes yw beth y bydd cost y telerau a'r amodau presennol ar sail blynyddol neu fisol. Er mwyn gwneud hyn dylech:

  • ofyn i weld copïau o gontractau gweithwyr. Bydd angen i chi gofio, fodd bynnag, y gallai'r rhain amrywio yn ôl lefelau gwahanol y gweithwyr.
  • edrych ar y bil cyflogau misol, cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cyfraniadau pensiwn ac unrhyw fuddion eraill. Gallai hyn gynnwys ceir cwmni, yswiriant iechyd, aelodaeth o gampfa, benthyciadau teithio etc.

Cofiwch y bydd unrhyw ddogfennau y byddwch yn eu gweld yn rhai cyfrinachol iawn. Efallai na fydd llawer o weithwyr y busnes yn ymwybodol o'r ffaith bod y busnes ar werth. Unwaith y byddwch wedi prynu busnes bydd angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau TUPE ac â chyfreithiau cyflogaeth eraill.

Gall ystyriaethau eraill gynnwys:

TG a thechnoleg arall

Yn aml mae system TG busnes yn gwbl allweddol i sicrhau bod popeth yn gweithio'n ddidrafferth. O'r herwydd byddwch yn dymuno ystyried oedran unrhyw systemau a chyfarpar ac a ydynt yn cael eu gwerthu fel rhan o'r cytundeb. Bydd angen i chi ofyn cwestiynau fel:

  • beth yw gwerth y cyfarpar TG a’r dechnoleg arall?
  • a ydynt o dan warant?
  • beth a gynhwysir? A yw'r cyfan yn perthyn i'r busnes?
  • a oes unrhyw gytundebau/contractau cynnal a chadw a gwasanaethu TG cyfredol sy'n gwbl allweddol i'r busnes?
  • pa gynlluniau wrth gefn sydd gan y busnes ynghylch colli data? A oes ganddo bolisïau a gweithdrefnau? Pwy all weld y data hyn?

Yr amgylchedd

Ystyriaeth arall fydd effaith y busnes ar yr amgylchedd. Gan ddibynnu ar sector y busnes, efallai y bydd yn rhaid iddo dalu trethi amgylcheddol ac efallai y bydd ganddo rwymedigaethau eraill yn y maes hwn. Siaradwch ag Cyfoeth Naturiol Cymru os credwch y gallai effeithio ar y busnes.

Gallwch gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.

5. Gweithredu o fewn y gyfraith

Bydd llawer o'r wybodaeth y byddwch yn dymuno ei gwybod am fusnes yr ydych yn gobeithio ei brynu yn wybodaeth gyfrinachol, ond bydd rhywfaint o'r wybodaeth ar gael yn gyhoeddus.

Caiff gwybodaeth fel cofnodion ynghylch gweithwyr a chofnodion ynghylch cwsmeriaid, er enghraifft, ei diogelu o dan y Ddeddf Diogelu Data, a bydd manylion eraill yn rhai sensitif yn fasnachol.

Os yw gwerthwr yn awyddus i werthu dylai gydweithredu'n llwyr a rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer gwneud cynnig. Gallai hyn gynnwys archwilio manylion benthyciadau gan fanciau, contractau rhentu eiddo a thrwyddedau eiddo deallusol, er enghraifft.

Mae'n debygol y bydd gofyn i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd (a adwaenir hefyd fel cytundeb peidio â datgelu). Mae hyn yn diogelu perchennog presennol y busnes ac yn eich atal rhag defnyddio unrhyw wybodaeth yr ydych wedi'i dysgu am y ffordd y caiff y busnes ei rhedeg rhag ofn y bydd y trafodaethau'n aflwyddiannus.

Gofynnwch i gyfreithiwr ddarllen unrhyw beth y bydd gofyn i chi ei lofnodi neu chwilio am unrhyw gymalau a allai gael effaith negyddol ar unrhyw fusnesau eraill yr ydych yn berchen arnynt neu yr ydych yn ystyried eu sefydlu. Efallai eich bod eisoes yn ystyried datblygu cynnyrch sy'n debyg i gynnyrch a gynigir gan y busnes, er enghraifft, a gallai'r cytundeb cyfrinachedd eich rhwystro rhag gwneud hyn os na fyddwch yn prynu'r busnes.

Unwaith y byddwch wedi prynu busnes mae'n bwysig parchu'r Ddeddf Diogelu Data mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a drosglwyddir i chi drwy'r gwerthiant, fel cofnodion ynghylch gweithwyr a gwybodaeth am gleientiaid. Fe'ch cynghorir i geisio cyngor cyfreithiol arbenigol neu siarad â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn sicrhau eich bod yn gweithredu o fewn y gyfraith.

6. Ble i gael rhagor o gymorth a chyngor

Gall llawer o wahanol gynghorwyr eich helpu wrth i chi brynu busnes, ond os yw'r busnes yn gwmni cofrestredig gallwch wneud rhai archwiliadau eich hun oherwydd bydd llawer o'r dogfennau y bydd eu hangen arnoch, fel cyfrifon elw a cholled, ar gael oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau drwy ei wasanaeth ar-lein WebCHeck. Gallwch gael copïau o gyfrifon cwmni, ei ddatganiad blynyddol ynghyd â dogfennau eraill allweddol. Gall y dogfennau hyn gael eu lawrlwytho, a chodir ffi bychan am rai ohonynt. Darllenwch wybodaeth am wasanaeth WebCHeck Tŷ'r Cwmnïau ar wefan Tŷ'r Cwmnïau - Yn agor mewn ffenest newydd.

Arbenigwyr eraill y mae'n werth cysylltu â hwy:

  • gall asiantwyr trosglwyddo busnes, brocwyr busnes neu gyllidwyr corfforaethol eich helpu drwy'r broses o ddiwydrwydd dyladwy o'r dechrau i'r diwedd am ffi penodol neu ganran o'r pris gwerthu.
  • bydd cyfreithiwr yn gallu helpu drwy ystyried unrhyw gontractau cyfreithiol, gan gynnwys gweithredoedd eiddo, er enghraifft.
  • bydd cyfrifydd yn gallu eich helpu drwy edrych ar sefyllfa ariannol y busnes, gan gynnwys y cyfrifon elw a cholled.
  • bydd asiant eiddo deallusol yn gallu chwilio am unrhyw drwyddedau eiddo deallusol y mae'r busnes yn meddu arnynt. Gall y Swyddfa Eiddo Deallusol hefyd gynnal archwiliadau mewn perthynas â phatentau presennol.
  • bydd syrfëwr siartredig yn gallu eich helpu i asesu gwerth eiddo'r busnes.

Mae'n hanfodol fod gan y cynghorwyr yr ydych yn eu dewis brofiad ym maes trosglwyddiadau busnes a phrisiadau.

Y ffordd orau o ganfod cynghorydd da yw drwy ofyn i bobl eraill. Dylech bob amser ofyn i unrhyw gynghorydd posibl ynghylch y pum achos diwethaf y maent wedi gweithio arnynt o fewn y sector perthnasol a gofyn hefyd am dystlythyrau oddi wrth gleientiaid blaenorol.

Dylech hefyd gadarnhau bod gan eich cynghorwyr unrhyw gymwysterau neu dystystysgrifau angenrheidiol a'u bod yn aelodau o gymdeithasau neu gyrff masnachu perthnasol.