1. Trosolwg

Gall yswiriant ddiogelu eich busnes rhag colli asedau ffisegol, neu ddifrod iddynt. Mae cost yswiriant yn dibynnu ar asesiad yr yswiriwr o'r tebygolrwydd o ddifrod a maint unrhyw daliad y bydd rhaid iddo ei wneud yn sgil hawliad.

Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y mathau gwahanol o yswiriant cyffredinol a masnachol sydd ar gael a sut i asesu'r mathau o yswiriant sydd eu hangen arnoch.

2. Yswirio eich safle busnes

Os oes gennych safle busnes, bydd trefnu polisi yswiriant addas yn sicrhau eich bod wedi eich yswirio rhag difrod yn sgil amrywiaeth o achosion. Er y dylech gadarnhau manylion y polisi yn ofalus, bydd y rhan fwyaf o gontractau safonol yn yswirio eich adeiladau a'ch safleoedd rhag amrywiaeth o risgiau gan gynnwys:

  • tân a mellt
  • ffrwydrad
  • terfysg
  • difrod maleisus
  • stormydd
  • llifogydd
  • difrod a achosir gan gerbydau

Os ydych yn denant, gofynnwch i'ch landlord pwy sy'n gyfrifol am yswirio'r safle. Y landlord fydd hwn fel arfer. Fodd bynnag, bydd y tenant fel arfer yn gyfrifol am rannau blaen siopau.

Os yw eich prydles yn cydymffurfio â Chod ar gyfer Prydlesu Safleoedd Busnes yng Nghymru a Lloegr, a bod y landlord yn yswirio'r safle, dylai'r yswiriant fod yn deg ac yn rhesymol, a chynnig gwerth am arian. Rhaid i'ch landlord ddatgelu manylion unrhyw gomisiwn y mae'n ei gael a darparu manylion yswiriant ar gais. Lawrlwythwch gopi o’r Cod ar gyfer Prydlesu Safleoedd Busnes Code for leasing business premises, 1st edition (rics.org)

Os ydych yn gyfrifol am yswirio'r safle, gallech ddewis yswiriant sy'n cynnwys pob risg. Yn hytrach, byddant yn rhestru unrhyw risgiau nad ydynt yn cael eu hyswirio - felly mae unrhyw risgiau sydd heb eu henwi'n cael eu cynnwys yn awtomatig. Nid yw polisïau yswiriant yn cynnwys:

  • traul a gwisgo
  • methiant trydanol neu fecanyddol
  • unrhyw ddirywiad graddol a nodir yn y polisi

Dylech ddweud wrth eich yswiriwr os na fyddwch yn defnyddio eich safle am unrhyw gyfnod o amser. Mae'n debygol y caiff eich yswiriant ei gyfyngu i gwmpasu tân yn unig ac efallai na fydd yn cynnwys difrod maleisus a achosir gan fandaliaeth.

Mae angen i chi yswirio eich safle busnes am gost lawn ei ailadeiladu, a elwir yn adfer, yn hytrach na dim ond ei werth ar y farchnad. Byddwch ond yn gallu hawlio cost yr hyn rydych wedi ei yswirio, waeth faint o ddifrod a wnaed.

Bydd syrfëwr siartredig yn gallu eich helpu i gyfrifo'r gwerth adfer. Dewiswch syrfëwr siartredig cymwys ar wefan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Yn ogystal ag yswirio'r adeilad ei hun, dylech hefyd ystyried cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus os bydd aelodau o'r cyhoedd yn ymweld â'ch safle. Gweler ein canllaw yswiriant atebolrwydd.

Er mwyn penderfynu ar y lefel briodol o yswiriant, dylech geisio cyngor proffesiynol gan gwmni neu frocer yswiriant a reoleiddir. Caiff broceriaid a chynghorwyr yswiriant a chyfryngwyr yswiriant eraill eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Gallwch wneud yn siŵr bod eich cynghorydd yn cael ei reoleiddio gan FCA ar wefan Home (fca.org.uk)

Os byddwch yn dewis delio'n uniongyrchol ag yswiriwr, mae'n werth sicrhau ei fod yn aelod o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI). Gwnewch yn siŵr bod yswiriwr yn aelod o ABI ar wefan ABI.

 

 

3. Yswiriant cynnwys

Dim ond yr adeilad ei hun y mae yswiriant safle yn ei gynnwys, felly bydd angen i chi drefnu yswiriant ar wahân ar gyfer stoc, peiriannau a chynnwys. Gallwch ddewis naill ai yswiriant prynu eitemau newydd neu yswiriant indemniad. 

Bydd llawer o berchenogion busnes yn dewis yswiriant indemniad, sy'n didynnu cost unrhyw draul a gwisgo wrth setlo'r hawliad. Caiff cynnwys hefyd ei yswirio rhag lladrad, ar yr amod bod y lladron wedi mynd i mewn i'r safle neu ei adael gan ddefnyddio grym a thrais.

Gallwch hefyd ddewis polisi amharu ar fusnes sy'n yswirio rhag colli elw a chostau cyffredinol uwch sy'n deillio, er enghraifft, o beiriannau diffygiol.

Er mwyn penderfynu ar y lefel briodol o yswiriant, mae'n syniad da cael cyngor proffesiynol gan gwmni neu frocer yswiriant a reoleiddir. Caiff broceriaid a chynghorwyr yswiriant a chyfryngwyr yswiriant eraill eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a dylech wneud yn siŵr bod eich cynghorydd wedi'i awdurdodi gan FCA. Gwnewch yn siŵr bod brocer yswiriant yn cael ei reoleiddio gan FCA drwy fynd i wefan FCA Home (fca.org.uk)

Gallwch ddewis frocer ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ffoniwch Linell Ymholiadau ar 0870 950 1790. 

Os byddwch yn prynu cynhyrchion neu wasanaethau gan gyfryngwyr yswiriant, mae gennych yr hawl i ofyn i'r cyfryngwr faint o gomisiwn a gaiff am werthu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth i chi.

Os byddwch yn dewis delio'n uniongyrchol ag yswiriwr, mae'n werth sicrhau ei fod yn aelod o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI). Gallwch wneud yn siŵr bod yswiriwr yn aelod o ABI ar wefan ABI.

 

 

4. Yswiriant arbenigol

Yn dibynnu ar y math o fusnes rydych yn ei redeg, gall fod yn ddoeth trefnu yswiriant arbenigol i ddiogelu asedau eich busnes.

Mae sawl math o yswiriant masnachol y gallwch ei ystyried:

  • Yswiriant colli arian parod - sy'n darparu yswiriant hyd at derfyn y cytunwyd arno rhag colli arian parod, boed hynny wrth ei gludo neu oddi ar y safle busnes.
  • Yswiriant nwyddau a gaiff eu cludo - sy'n yswirio nwyddau rhag difrod wrth iddynt gael eu symud.
  • Yswiriant teithio – sy’n hanfodol os ydych chi neu eich cyflogeion yn teithio dramor. Sicrhewch fod gennych yswiriant ar gyfer gweithio dramor yn ogystal â theithio, lle bo angen.
  • Yswiriant cyfreithiol masnachol - sy'n talu costau cyfreithiol a all godi yn sgil newid mewn deddfwriaeth neu gosbau sy'n deillio o ddiffyg cydymffurfio.
  • Yswiriant credyd - sy'n eich yswirio rhag dyledwyr na allant eich talu am eu bod wedi mynd yn fethdalwyr.
  • Yswiriant peirianneg - sy'n darparu yswiriant arbenigol ar gyfer peiriannau, gan gynnwys cyfrifiaduron. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid archwilio rhai mathau o beiriannau yn rheolaidd. Bydd yswiriwr yn gallu dweud wrthych a yw hyn yn gymwys i'ch busnes ac yn aml bydd yn trefnu'r ymweliadau archwilio. Er mwyn yswirio peiriannau oddi ar y safle, bydd angen i chi brynu yswiriant pob risg.
  • Yswiriant gwydr - sy'n talu am brynu gwydr newydd ar ôl difrod maleisus neu ddamweiniol.
  • Yswiriant indemniad proffesiynol - sy'n eich yswirio rhag hawliadau iawndal os byddwch yn esgeulus, a bod hynny'n arwain at niwed neu golled i gleient.
  • Yswiriant prosesu data - sy'n darparu yswiriant ar gyfer cyfarpar prosesu data electronig a chyfryngau electronig
  • Gwarant ffyddlondeb - sy'n yswirio rhag colli unrhyw arian parod neu stoc o ganlyniad i anonestrwydd staff, fel lladrata.
  • Yn aml gellir ychwanegu offer masnachwr at becyn atebolrwydd.

Gallwch ddewis frocer ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ffoniwch Linell Ymholiadau ar 0870 950 1790. Os byddwch yn dewis delio'n uniongyrchol ag yswiriwr, mae'n werth sicrhau ei fod yn aelod o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI). Gwnewch yn siŵr bod yswiriwr yn aelod o ABI ar wefan AB.

 

 

5. Yswiriant modur

Yn ôl y gyfraith, dylid trefnu polisi yswiriant modur ar gyfer unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar y ffordd neu mewn unrhyw le cyhoeddus arall. Os ydych chi, eich cyflogeion neu unrhyw un arall sy'n gweithio i'ch busnes yn defnyddio cerbyd at ddibenion gwaith yna dylech gadarnhau'r canlynol:

  • bod gennych yswiriant priodol ar gyfer pob cerbyd sy'n eiddo i'ch busnes
  • bod unrhyw gyflogeion sy'n defnyddio eu cerbydau at ddibenion busnes neu mewn cysylltiad ag ef wedi ymestyn eu hyswiriant fel y gallant eu defnyddio at ddibenion busnes eu cyflogwr
  • bod unrhyw yswiriant cerbyd personol sydd gennych hefyd yn cynnwys defnydd busnes

Dylech hefyd wneud yn siŵr bod yr yswiriant a ddarperir gan y polisi yn briodol gan fod mathau gwahanol o ddefnydd busnes. Er enghraifft, ystyrir bod gwerthwyr neu gynrychiolwyr masnachol sy'n teithio yn wahanol i'r rheini sydd ond yn mynd ar deithiau busnes achlysurol, neu sy'n cludo eich cynhyrchion neu asedau busnes eraill.

Os ydych yn berchen ar sawl cerbyd efallai y gallwch drefnu yswiriant fflyd a allai gynnig telerau gwell.  Bydd eich brocer yswiriant yn gallu rhoi cyngor ar hyn.

Bydd angen i chi gadarnhau trwyddedau pob un o'ch gyrwyr a rhoi gwybod i'ch yswirwyr am unrhyw gollfarnau moduro, fel arall, ni chewch eich yswirio. Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i yswirwyr am unrhyw gollfarnau modurol sy'n digwydd ar ôl trefnu'r yswiriant.

Dylech ymgynghori â brocer yswiriant am y mathau o yswiriant sy'n diwallu anghenion eich busnes orau. Gallwch ddewis frocer ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ffoniwch Linell Ymholiadau ar 0870 950 1790. Os byddwch yn dewis delio'n uniongyrchol ag yswiriwr, mae'n werth sicrhau ei fod yn aelod o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI). Gwnewch yn siŵr bod yswiriwr yn aelod o ABI drwy fynd i wefan ABI.

 

 

6. Yswiriant busnes os ydych yn gweithio o gartref

Os ydych yn gweithio o gartref, efallai y bydd angen polisi yswiriant arbenigol arnoch. Ni fydd yswiriant cartref yn yswirio unrhyw gyfarpar swyddfa a gollir, nac yn darparu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Efallai y bydd eich yswiriant cartref safonol hyd yn oed yn annilys os byddwch yn gweithio o gartref, er y gellir ymestyn y rhan fwyaf o bolisïau cartref i gynnwys hyn. Yn yr un modd, dylech gadarnhau telerau ac amodau eich morgais, oherwydd yn aml bydd angen rhoi gwybod i fenthycwyr os byddwch yn defnyddio eich cartref i gynnal busnes.

Holwch eich brocer yswiriant i weld pa bolisi fyddai'n diwallu anghenion eich busnes orau a pha un fydd yn datblygu gyda'ch busnes. Gallwch ddewis frocer ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ffoniwch Linell Ymholiadau ar 0870 950 1790. Os byddwch yn dewis delio'n uniongyrchol ag yswiriwr, mae'n werth sicrhau ei fod yn aelod o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI). Gwnewch yn siŵr bod yswiriwr yn aelod o ABI drwy fynd i wefan ABI.

 

 

7. Dewis yr yswiriant cywir

Ychydig iawn o berchnogion busnes sy'n delio'n uniongyrchol ag yswirwyr. Mae'n well gan y rhan fwyaf ddefnyddio brocer yswiriant i gael cyngor diduedd.

Gall brocer roi cyngor ar p'un a fyddai polisi sengl neu gyfuniad o bolisïau sengl yn fwy priodol. Cofiwch roi'r holl wybodaeth berthnasol i'r yswiriwr, fel arall efallai na fydd polisi yn ddilys.

Gallwch ddewis frocer ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu ffoniwch Linell Ymholiadau ar 0870 950 1790. 

Caiff broceriaid a chynghorwyr yswiriant a chyfryngwyr yswiriant eraill eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a dylech wneud yn siŵr bod eich cynghorydd wedi'i awdurdodi gan FCA. Gwnewch yn siŵr bod brocer yswiriant yn cael ei reoleiddio gan FCA drwy fynd i wefan FCA Home (fca.org.uk)

Os byddwch yn prynu cynhyrchion neu wasanaethau gan gyfryngwyr yswiriant, mae gennych yr hawl i ofyn i'r cyfryngwr faint o gomisiwn a gaiff am werthu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth i chi.

Os byddwch yn dewis delio'n uniongyrchol ag yswiriwr, mae'n werth sicrhau ei fod yn aelod o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI). Gwnewch yn siŵr bod yswiriwr yn aelod o'r ABI drwy fynd i wefan ABI. Ni chaiff gwarantwyr Lloyd's eu cynrychioli gan ABI. Dewch o hyd i asiantau, broceriaid a 'coverholders' ar wefan Lloyd's

Wrth brynu yswiriant, mae'n ddefnyddiol gwneud y canlynol:

  • gofyn am ddyfynbrisiau gan sawl yswiriwr gwahanol neu ofyn i'ch brocer wneud hynny
  • cymharu lefelau'r yswiriant
  • siarad â'ch brocer i weld p'un a oes angen polisi arnoch sydd wedi'i deilwra i'ch anghenion penodol

Ymhlith y ffactorau eraill i'w hystyried wrth ddewis polisi mae:

  • beth y bydd yn ei yswirio
  • gwasanaeth
  • cost
  • p'un a oes bonws dim hawlio
  • p'un a yw'r yswiriwr yn cynnig llinellau cyngor cyfreithiol a cymorth brys 24 awr
  • lefel y tâl dros ben - faint o bob hawliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu eich hun
  • faint o'r tâl dros ben a gaiff ei gadw gan eich busnes

8. Hawlio yswiriant

Cyn gynted ag y byddwch yn canfod bod asedau wedi’u colli neu wedi'u difrodi, bydd angen i chi roi gwybod i'ch darparwr yswiriant. Os credwch eu bod wedi’u colli neu wedi'u difrodi o ganlyniad i drosedd, dylech roi gwybod i'r heddlu ar unwaith. Dylech nodi cymaint o fanylion â phosibl am beth ddigwyddodd a phryd.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu'r canlynol i'ch yswirwyr:

  • amcanbrisiau am waith atgyweirio
  • tystiolaeth o gost unrhyw waith atgyweirio brys y bu'n rhaid ei wneud, ee i wneud y cyfarpar neu'r safle'n ddiogel 
  • tystiolaeth o berchenogaeth
  • cost yr eitemau rydych yn hawlio ar eu cyfer, gyda phrisiadau a/neu dderbynebau
  • rhif cyfeirnod y drosedd gan yr heddlu, os credwch fod eich busnes wedi dioddef trosedd
  • y cyfle i archwilio unrhyw asedau a ddifrodwyd os oes angen

Os bydd angen i chi wneud atgyweiriadau brys, gwnewch hynny a rhowch wybod i'ch yswirwyr beth rydych wedi ei wneud. Lle y bo'n bosibl, rhowch wybod i'r yswirwyr cyn dechrau'r gwaith, ond y peth pwysicaf yw eich bod yn atal rhagor o ddifrod a allai gynyddu'r hawliad.

Yn achos hawliadau mawr neu gymhleth, yn aml bydd y cwmni yswiriant yn cyflogi cymhwysydd colled. Bydd yn archwilio'r difrod ac yn cadarnhau manylion hawliadau o ran nifer yr eitemau, y disgrifiad ohonynt a'u pris. Arbenigwyr diduedd yw cymwysyddion colled a all roi cyngor i'r yswiriwr a'r deiliad polisi.

Gall hefyd roi cyngor i chi ar y canlynol:

  • sut i wella diogelwch
  • meysydd o yswiriant y gallech fod wedi eu hesgeuluso
  • technegau atgyweirio a chwmnïau arbenigol a all gyflawni gwaith o'r fath

Gallech gyflogi aseswr colled a fydd yn negodi ac yn setlo'r hawliad ar eich rhan. Fodd bynnag, bydd yn codi ffi, felly fel arfer mae'n werth ystyried a ydych yn debygol o wneud hawliad sylweddol.

Manylion cyswllt aseswyr colled ar wefan y Sefydliad Aseswyr Colled Cyhoeddus (IPLA)

 

9. Lleihau'r risg er mwyn gostwng premiymau

Gall yswiriant fod yn ddrud, ond mae ffyrdd o leihau risg eich cwmni ac, yn sgil hynny, ostwng eich premiymau yswiriant. Un ffordd bwysig o wneud hyn yw sicrhau bod gennych gofnod iechyd a diogelwch da.

Gallwch wneud hyn drwy:

  • gynnal archwiliad diogelwch a risg
  • dangos polisi iechyd a diogelwch clir gyda gweithdrefnau wedi eu cofnodi'n briodol i wasanaethu cyfarpar
  • gwasanaethu cyfarpar yn briodol
  • asesu pa mor dda yr ydych yn rheoli'ch peryglon iechyd a diogelwch