1. Trosolwg
Gall gymryd nifer o fisoedd cyn y bydd busnes newydd yn broffidiol ac yn gwneud arian dros ben. Mae'n bosibl y bydd angen ffynonellau amgen o incwm arnoch yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed os bydd hynny ond i gwmpasu eich treuliau. Os bydd eich busnes yn gwneud elw, mae'n bosibl y byddwch am ei ail-fuddsoddi i helpu eich busnes i ddatblygu.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyngor ar sut i gael deupen llinyn ynghyd yn ystod y dyddiau cynnar. Bydd yn eich helpu i weithio allan eich elw a'ch anghenion ariannol, lleihau eich gwariant, ail-fuddsoddi eich arian a dod o hyd i gronfeydd eraill.
Gall cynllunio'n ofalus a chael y cyngor cywir ei gwneud yn haws rheoli'r cyfnod pontio hwn. Gall cynghorydd Gwybodaeth Busnes Llywodraeth Cymru neu gynghorydd ariannol eich helpu chi i ymdrin â'r materion hyn ymhellach.
Gall y cwrs BOSS hwn hefyd roi rhywfaint o help i chi ar yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried.
(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).
2. Rhagweld eich anghenion ariannol personol
Pan fyddwch yn dechrau eich busnes bydd angen i chi lunio rhagolygon realistig o'ch anghenion ariannol personol. Mae cyllideb bersonol yn gynllun sy'n manylu ar y costau byw personol y bydd angen i chi eu hariannu drwy'r busnes neu ffynonellau eraill. Dylai bennu terfynau i'r swm rydych yn bwriadu ei wario bob mis ar eitemau fel rhent, bwyd a chadw tŷ.
Gall olrhain eich gwariant personol eich helpu i ganfod faint o arian y bydd angen i chi ei gymryd o'r busnes.
Yna gallwch weithio allan faint o arian y bydd ei angen arnoch bob mis. Drwy luosi'r ffigur misol â 12, a gwneud addasiadau i gwmpasu gwariant untro fel gwyliau neu dreth car, byddwch yn gwybod faint sydd angen i chi fyw arno yn ystod eich blwyddyn gyntaf o fasnachu.
Mae'n bwysig bod yn realistig. Mae'n bosibl y bydd angen i chi ddod o hyd i gyllid arall, benthyca arian neu ofyn i Cyllid a Thollau EM neu'r Ganolfan Byd Gwaith p'un a ydych yn gymwys i gael credydau treth neu fudd-daliadau. Mae cynghorwyr ariannol fel arfer yn dweud y dylid cadw gwerth 3 mis o arian wrth gefn, rhag ofn.
Mae'n debygol y bydd rhai costau, fel eich rhent neu eich morgais, yn sefydlog, ond gall eich gwariant ar eitemau eraill newid o fis i fis. Mae angen i chi gadw llygad barcud ar y meysydd lle y gellir gwneud arbedion - fel hamdden a theithio. Mae'r flwyddyn gyntaf mewn busnes yn hanfodol, felly mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dderbyn bod angen rhyw fath o aberth ariannol er mwyn parhau i fasnachu.
3. Faint o arian y bydd eich busnes yn ei wneud?
Mae angen i chi nodi faint o arian y mae eich busnes yn debygol o'i wneud dros y blynyddoedd nesaf ac yna faint o elw rydych yn gobeithio ei wneud.
Gallwch wneud hyn drwy:
- amcangyfrif cyfanswm eich incwm o werthiannau
- amcangyfrif eich costau
- gweithio allan ffigur ar gyfer cyflogau a difidendau, gan gynnwys treth
- gweithio allan y gwahaniaeth rhwng eich gofynion ariannol a faint rydych yn barod i'w gymryd o'r busnes
Bydd hyn yn gadael y swm y mae angen i chi ddod o hyd iddo o bosibl drwy ffynonellau eraill. I gael cyngor ar yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried a chynllunio ar ei gyfer, gweler ein canllaw paratoi cynllun busnes.
Elw a llif arian parod
Mae'n bosibl na fydd yn hawdd cyfrifo faint yn union y bydd eich busnes yn ei wneud yn ei flwyddyn gyntaf, felly mae'n bwysig canolbwyntio ar reoli llif arian parod yn hytrach nag elw.
Yr elw yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm y mae eich busnes yn ei ennill a'r costau y mae'n rhaid iddo eu talu dros y cyfnod masnachu - sef blwyddyn fel arfer. Gall hyd yn oed busnes proffidiol mewn enw fynd i drafferth os bydd yn rhedeg allan o arian parod.
Llif arian parod yw balans yr holl arian sy'n llifo i mewn i'ch busnes ac allan ohono. Mae'n cwmpasu taliadau gwirioneddol o arian, yn hytrach na'r hyn sy'n ddyledus gan eich dyledwyr neu eich credydwyr. Mae arian parod yn talu'r biliau ac yn eich galluogi i barhau i fasnachu. Mae'r angen am arian parod hyd yn oed yn fwy os yw eich busnes yn tyfu ac yn ymestyn credyd i fwy o gwsmeriaid.
Y prif all-lifau o arian parod yw:
- cyflogau
- gorbenion megis rhent a threthi
- gwariant cyfalaf ar offer a pheiriannau
- cyfalaf gweithio megis stoc a deunyddiau crai
Os byddwch yn gwerthu ar gredyd, caiff eich llif arian parod ei oedi hyd nes y cewch eich talu felly mae'n bwysig rheoli credyd yn effeithiol. Mae gan fusnes sy'n prynu ar gredyd ac a delir mewn arian parod, fel manwerthwr, fantais fawr o ran llif arian parod. Gall busnesau sy'n gwerthu dros y rhyngrwyd hefyd fod mewn sefyllfa ariannol bositif.
Mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar orddrafftiau banciau ac yn cyrraedd y terfynau benthyca yn fuan. Felly mae'n bwysig meddwl yn ofalus am eich llif arian parod a lleihau'r angen i ddibynnu ar orddrafft.
4. Gwneud arbedion
Mae ffyrdd y gallwch arbed arian ar nwyddau a gwasanaethau, yn y cartref ac yn eich busnes.
Gwneud arbedion personol
Mae'n bosibl y gallwch leihau faint o arian rydych yn ei dalu bob mis, drwy chwilio am y gwasanaethau a'r benthyciadau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian. Os oes gennych eisoes ddyledion personol, er enghraifft ar gardiau credyd neu fenthyciadau personol, ceisiwch gyngor gan gynghorydd annibynnol neu eich banc oherwydd gallai fod yn bosibl lleihau eich costau yn y ffordd hon hefyd.
Mae sawl ffordd y gallwch arbed arian ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol. Mae llawer o gwmnïau cyfleustodau yn cynnig cynigion deniadol pan fyddwch yn newid i gyflenwr newydd. Edrychwch yn ofalus i weld beth yn union sy'n cael ei gynnig - er enghraifft, mae'n bosibl y gallwch wneud arbedion os cewch eich nwy a'ch trydan gan un cyflenwr.
Gallwch hefyd geisio lleihau eich costau bob dydd. Er enghraifft, gallech werthu eich car a phrynu un sy'n rhatach i'w redeg neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallech hefyd ddewis peidio â diweddaru cyfarpar personol fel eich gliniadur neu ffôn symudol os nad yw hynny'n gwbl angenrheidiol.
Gwneud arbedion yn eich busnes
Gallech roi systemau rheoli costau syml ar waith ar draws eich busnes cyfan i nodi ble y gellir gwneud arbedion. Gallech leihau costau diangen neu ormodol, er enghraifft, drwy beidio â gwresogi eich safle gyda'r nos neu ddod o hyd i gyflenwyr rhad ar gyfer nwyddau neu wasanaethau. Gall mabwysiadu arferion 'gwyrdd' fel diffodd cyfrifiaduron pan nad oes eu hangen arbed arian yn ogystal â lleihau eich ôl-troed carbon. Ystyriwch osod nwyddau ar brydles neu brynu rhai ail law. Ystyriwch p'un a allwch arbed arian drwy redeg eich busnes o gartref. Gweler ein canllaw defnyddio eich cartref fel gweithle.
5. Ffynonellau eraill o incwm
Mae'n debygol iawn y bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ffyrdd eraill o ariannu eich anghenion yn ystod dyddiau cynnar eich busnes.
Mae nifer o opsiynau ar gael i chi. Gallech:
- ddefnyddio cynilion - gwnewch yn siŵr bod gennych gronfa wrth gefn gwerth 3 mis o wariant
- dechreuwch fusnes tra eich bod yn eich swydd bresennol - gan ddefnyddio eich amser sbâr i redeg eich busnes
- rhyddhewch ecwiti o ased presennol - er enghraifft, gwerthu eich car am un rhatach
- gwerthwch asedau diangen i greu incwm - mae gan lawer o bobl bethau nad ydynt yn eu defnyddio neu nad ydynt eu heisiau y gellir eu gwerthu mewn arwerthiannau, ar-lein neu mewn gwerthiannau preifat
- gofynnwch i'ch teulu a ffrindiau am fenthyciad. Yn y rhan fwyaf o achosion nid yw pobl sy'n benthyca gan deulu neu ffrindiau yn talu cymaint o log ar fenthyciadau o'r fath. Fodd bynnag, cofiwch y gellir achosi drwgdeimlad os na allwch ad-dalu ar amser
- ceisiwch gyllid gan gronfa cost isel a reolir gan asiantaeth menter leol neu sefydliad cymunedol
- ceisiwch fenthyca yn erbyn incwm yn y dyfodol drwy werthu dyledion sy'n ddyledus i chi i drydydd parti
- trefnwch orddrafft neu fenthyciad gan eich banc. Cofiwch y bydd yn rhaid ad-dalu'r gorddrafft neu fenthyciad, ac y gallai'r llog fod yn uchel Gweler ein canllaw gwahanol fathau ar gyllid a sut i wneud cais
- defnyddiwch brydles neu hurbwrcas i ariannu asedau sefydlog fel cerbydau neu gyfarpar
- ceisiwch fuddsoddiad gan ffynonellau allanol yn gyfnewid am gyfran o'ch busnes
- gwnewch ail swydd neu swydd ran amser - bydd hyn yn darparu ffynhonnell ddefnyddiol o incwm ond mae'n bwysig nad yw'n tynnu eich sylw oddi ar eich blaenoriaeth o redeg eich busnes
6. Paratowch gynllun ariannol
Unwaith y byddwch wedi casglu eich holl wybodaeth ariannol allweddol ynghyd, fel amcangyfrifon, gorbenion a chostau, gallwch lunio cynllun ariannol.
Y cam cyntaf yw llunio cyllideb - cynllun ar gyfer gwario ac arbed eich arian.
Dylech:
- baratoi cyllidebau sy'n dangos lefel y gwerthiannau a'r elw rydych yn bwriadu ei gyflawni, a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny
- amcangyfrif cyfanswm eich gwerthiannau
- paratoi rhagolygon llif arian parod misol neu wythnosol (y dylid eu diweddaru'n rheolaidd), gan ystyried y flwyddyn sydd i ddod - gellir rhagweld gorbenion fel rhent yn gywir
- gwnewch yn siŵr y bydd gennych ddigon o arian ar y diwrnod i gwmpasu pob taliad
Unwaith i chi lunio eich cyllideb, mae'n bwysig cadw ato fel nad oes risg y byddwch yn gorwario neu'n rhedeg allan o arian ar gyfer hanfodion. Yr allwedd i gyllidebu yw cynnal cofnodion syml da. Bydd angen i chi gadw cofnod o ble y daw eich arian ac i ble yr aiff.
7. Dod o hyd i gymorth
Mae angen cymorth ar y rhan fwyaf o fusnesau ar ryw adeg o'r broses ddatblygu. Mae hyn yn arbennig o wir am fusnesau yn y dyddiau cynnar.
Mae nifer o ffynonellau o gymorth, gan gynnwys:
- mentrau cychwyn busnes a redir gan asiantaethau menter lleol ac eraill
- rhaglen dechrau busnes Llywodraeth Cymru sy'n cael ei redeg gan asiantaethau menter lleol ar draws Cymru, yn cynnwys hunan gyflogaeth, dechrau busnes, gwasanaeth cymorth i raddedigion, a busnesau newydd a chanddynt botential mawr. Ariennir y rhaglen hon gan yr UE ac mae am ddim i'r person sy'n dechrau busnes
- cynlluniau i bobl ifanc sy'n dechrau busnes ee Shell LiveWIRE, Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru
- cynlluniau i bobl 50 oed neu'n hŷn sy'n dechrau busnes, ee Prime Cymru
- cynlluniau i ferched sy'n dechrau busnes, ee Women in Business, ac everywoman
- cynlluniau i bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy'n dechrau busnes, gan gynnwys yr African Caribbean Business Network (ACBN) a'r Asian Business Network (ABDN)
- cynghorwyr ariannol
- cyfrifwyr
Cofiwch ei bod yn debygol iawn y bydd yn rhaid i chi dalu am y wybodaeth a'r cyngor arbenigol gan gynghorwyr ariannol a chyfrifwyr.
Mae'n syniad da cael cyfrifydd ar gyfer eich busnes. Er bod cael cyfrifydd yn gost ychwanegol, mae'n fuddsoddiad da. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllaw dewis a gweithio gyda chyfrifydd.
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn fenter i helpu pobl ifanc i lwyddo mewn busnes. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig cyngor, cyfleoedd a chymorth ariannol.
Corff arall sy'n helpu busnesau newydd yw Shell LiveWIRE. Nod y sefydliad hwn yw annog pobl ifanc rhwng 16 a 30 i ddechrau eu busnes eu hunain.
Os ydych wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am fwy na 6 mis a'ch bod am ddychwelyd i gyflogaeth drwy ddechrau eich busnes eich hun, cysylltwch â Gwybodaeth Busnes Llywodraeth Cymru ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.Gwnânt gyfeirio eich ymholiad at Ddarparwr Dechrau Busnes sy'n arbenigo ar ddarparu cyfarwyddyd a chefnogaeth, pa run a ydych am fod yn hunan gyflogedig, am ddechrau busnes, yn raddedig, neu yn ceisio cyngor i sefydlu busnes newydd gyda photensial mawr. Os ydych dros 18 oed, mae'n bosib eich bod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Menter Newydd. Darllenwch wybodaeth am y Lwfans Menter Newydd ar wefan GOV.UK.
Mae'n bosibl y bydd gennych hawl hefyd i Gredydau Treth Gwaith. Mae'r rhain yn daliadau sy'n ychwanegu at enillion pobl sy'n gweithio sydd ar incwm isel, gan gynnwys pobl hunangyflogedig. Gallwch gael gwybodaeth am Gredydau Treth Gwaith drwy ffonio Llinell Ymholiadau Swyddfa Credydau Treth CThEM ar 0345 300 3900.
Os na all eich busnes dalu'r trethi sy'n ddyledus ganddo i Cyllid a Thollau EM (CThEM), cysylltwch â Gwasanaeth Cymorth Talu i Fusnesau CThEM. Bydd eu tîm yn adolygu eich amgylchiadau ac yn trafod opsiynau dros dro wedi'u teilwra i anghenion eich busnes, fel trefnu i chi wneud taliadau dros gyfnod hwy. Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Gwasanaeth Cymorth Talu i Fusnesau CThEM ar 0300 200 3835.