1. Trosolwg
Rhan hanfodol o redeg busnes llwyddiannus yw gofalu am eich arian. Os rhowch chi'r rhifau at ei gilydd yn y ffordd iawn, byddan nhw'n rhoi darlun manwl i chi ac yn adrodd straeon am eich busnes. Mae’r adran hwn yn esbonio beth sy'n gysylltiedig â rheoli arian ac mae’n cyflwyno’r datganiadau ariannol sylfaenol i chi.
2. Deall y pethau sylfaenol
Yn ei ffurf symlaf, mae rheolaeth ariannol yn golygu gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian yn dod i mewn i’r busnes i dalu am eich costau i gyd ac i wneud elw.
Chi biau'r busnes, ac felly eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud yn siŵr bod eich busnes yn cadw cyfrifon a chofnodion cywir, ac yn talu'r holl dreth sy’n ddyledus ac yn cyflwyno'r holl wybodaeth sy'n ofynnol.
Y peth pwysig yw bod yn drefnus, diweddaru’r gwaith papur yn gyson a nodi unrhyw ddyddiad pan fydd rhaid i chi dalu treth neu gyflwyno gwybodaeth er mwyn i chi gael digon o amser i baratoi ar eu cyfer.
Gall cyflogi cyfrifydd fod yn fuddsoddiad doeth, yn arbennig os ydych chi’n gwmni cyfyngedig. Gall eich cyfrifydd roi trefn ar eich cyfrifon i chi yn ogystal â rhoi cyngor i chi ynghylch eich arian. Cofiwch, nid yw cyfrifydd yn gwneud y gwaith dydd i ddydd fel rheol, oni bai eich bod chi’n talu mwy, ac mae'n seilio’ch cyfrifon ar eich ffigurau chi.
Cofiwch, mai eich busnes chi yw hwn, a does dim ots pa gymorth gewch chi, rhaid i chi ddeall yn union beth yw’ch sefyllfa ariannol chi.
Profwch eich gwybodaeth gyda'r cwrs BOSS hwn am yr hyn sydd ei angen i reoli'ch cyllid.
(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).
3. Tair elfen allweddol rheolaeth ariannol
Eich busnes chi yw e, a does dim ots pa help gewch chi, mae angen i chi ddeall eich sefyllfa ariannol yn iawn.
Mae 3 elfen yn bwysig er mwyn rheoli arian:
Cynllunio ariannol
Mae cynllunio ariannol yn golygu gwneud yn siŵr bod digon o arian ar gael gennych chi ar yr adeg iawn, yn gyntaf er mwyn ateb gofynion y busnes, ac yn ail er mwyn i'r busnes allu tyfu.
Rheolaeth ariannol
Mae rheolaeth ariannol yn golygu cadw golwg ar faint o arian sy'n dod i mewn i’r busnes ac yn mynd allan, a rheoli o ble mae'n dod ac i ble mae'n mynd.
Penderfyniadau ariannol
Mae penderfyniadau ariannol yn golygu cael y wybodaeth gywir ar yr adeg iawn er mwyn i chi wneud penderfyniadau doeth ac ystyrlon am y busnes, nawr ac yn y dyfodol.
4. Y datganiadau ariannol sylfaenol
Er mwyn rheoli’ch arian yn effeithiol, y cam cyntaf yw paratoi rhagamcan neu gyllideb. Amcan yw hynny o faint o incwm rydych chi’n disgwyl ei gael a pha gostau fydd yn dod i ran eich busnes.
Dylai’ch rhagamcan fod mor realistig a chywir â phosib a dylai fod yn seiliedig ar ffigurau sydd wedi’u hymchwilio’n dda.
Gall amcangyfrif gwerthiannau’n rhy uchel ac amcangyfrif costau’n rhy isel arwain at oblygiadau difrifol a rhoi darlun ffug o’ch siawns o lwyddo.
Bydd y ffigurau y byddwch yn eu casglu ynghyd ar gyfer eich rhagamcan neu gyllideb yn cael eu trosi’n ddatganiadau ariannol. Mae 3 phrif fath o ddatganiad neu adroddiad ariannol y mae angen ichi eu deall.
Datganiad Llif Arian
Mae’r Datganiad Llif Arian yn gofnod sy’n dangos faint o arian sy’n dod i mewn i’r busnes a faint sy’n mynd allan bob mis. Mae’n olrhain o ble daw’r arian ac i ble mae’n mynd.
Mae datganiad llif arian yn cael ei baratoi ar gyfer cyfnod o 12 mis fel rheol. Mae’n dangos rhagamcan ar gyfer pob mis – beth rydych chi’n ei ragweld – a’r sefyllfa go iawn – beth rydych chi’n ei gyflawni.
Hwn yw un o’r cofnodion ariannol pwysicaf y byddwch chi’n eu cadw. Mae’n ddefnyddiol i chi er mwyn rheoli’ch busnes. Bydd eich rheolwr banc a phobl eraill sy’n eich ariannu am ei weld hefyd.
Cyfrif Elw a Cholled
Mae’r Cyfrif Elw a Cholled yn amlinellu faint mae eich busnes wedi’i werthu, gan dynnu cyfanswm y costau sy’n gysylltiedig ag ysgogi’r gwerthiannau hynny. Mae’n dangos yr elw (neu’r golled) rydych chi wedi’i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw. Eich llinell waelod yw’r enw ar hyn.
Mae Cyfrif Elw a Cholled yn dangos sut mae'r busnes yn perfformio'n ariannol ac i ba raddau rydych chi'n llwyddo.
Y Fantolen
Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o sefyllfa ariannol y busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae'n dangos beth sy'n eiddo i'r busnes, faint o ddyled sydd ganddo a beth yw gwerth y busnes.
Os byddwch chi’n chwilio am fuddsoddiad mawr, bydd angen Mantolen arnoch chi fel rheol.
Nesaf: Rhagamcan Llif Arian