1. Trosolwg
Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr ariannol eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes ac i ganfod beth yw'r cymarebau sy'n cloriannu perfformiad busnes. Mae’r adran hwn yn rhoi golwg gyffredinol i chi o’r Fantolen ac yn esbonio’r cymarebau mwyaf defnyddiol i’ch busnes.
2. Ciplun o’ch busnes
Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n dangos beth sy’n eiddo i’ch busnes neu beth sy’n ddyledus iddo (asedau) a beth yw ei ddyledion ar ddyddiad penodol.
Mae'n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes a dyma un o'r pethau cyntaf y bydd darpar fuddsoddwr neu reolwr banc am ei weld.
Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddarparu Mantolen gyda’r cyfrifon blynyddol y byddan nhw’n eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac i’ch cyfranddalwyr.
Does dim rhaid i unig fasnachwyr gyflwyno cyfrifon ffurfiol a Mantolen gyda’u ffurflen dreth. Fodd bynnag, gan fod rhaid cofnodi manylion ariannol ar y ffurflen dreth mewn fformat penodol, gall fod yn ddefnyddiol paratoi’r ffigurau mewn fformat Mantolen.
Fe all eich cyfrifydd eich helpu chi i baratoi Mantolen, ond mae'n bwysig eich bod chi yn deall beth mae'n ei olygu.
3. Cip ar y Fantolen
Dyma enghraifft o Fantolen.
ASEDAU | DYLEDION | ||
---|---|---|---|
Asedau Cyfredol | Dyledion Cyfredol | ||
Arian | 5000 | Dyledwyr Tymor Byr | 3000 |
Cyfrifon i’w Derbyn | 4000 | Cyfrifon i’w Talu | 2000 |
Stoc | 11000 | Cyflogau | 5000 |
Cyfanswm Asedau Cyfredol | 20000 | Cyfanswm Dyledion Cyfredol | 10000 |
Asedau Sefydlog | Dyledion Tymor Hir | ||
Offer | 2000 | Benthyciad 5 mlynedd | 11000 |
Llai Dibrisiad Cronedig | (200) | Cyfanswm Dyledion Tymor Hir | 11000 |
Cyfanswm Asedau Sefydlog | 1800 | ||
Ecwiti | |||
Cyfanswm Asedau | 21800 | Ecwiti’r Perchennog | 800 |
Cyfanswm Dyledion ac Ecwiti | 21800 |
Hefyd, gall fod yn ddefnyddiol edrych ar y dudalen we hon er mwyn i chi ei dilyn yn ystod y fideo.
4. Defnyddio cymarebau i asesu perfformiad busnes
Mae cymarebau’n ffordd gyflym a syml o werthuso perfformiad busnes. Mae cymhareb yn cael ei chyfleu fel cyfran o rywbeth arall. Er enghraifft, rydyn ni’n sôn am berfformiad car o ran milltiroedd i’r galwyn. Petai car yn gwneud 40 milltir i’r galwyn (40:1) yn ei flwyddyn gyntaf, ond dim ond 25 i’r galwyn eleni (25:1), byddech chi’n siomedig a byddech chi’n ceisio darganfod pam.
Yn yr un modd, gall cyfrifo cymarebau roi golwg werthfawr i chi o berfformiad eich busnes. Defnyddir y ffigurau oddi ar eich Mantolen.
Mae 2 gymhareb allweddol bwysig, sef:
Cymhareb Hylifedd – sy’n dangos gallu’r busnes i ddefnyddio’i arian parod i dalu credydwyr tymor byr.
Daw’r ffigurau hyn oddi ar y Fantolen. Ystyrir bod cymhareb rhwng 1.8 a 2.2 yn ddiogel.
Asedau Cyfredol £20,000 = 2:1
Dyledion Cyfredol £10,000
Cymarebau Proffidioldeb – sy’n dangos pa mor broffidiol yw’r busnes. Daw’r ffigurau hyn o’ch Cyfrif Elw a Cholled.
Mae Maint Elw Gros yn mesur elw gros fel canran o’r gwerthiannau.
Mewn rhai diwydiannau, gallwch gymharu maint eich elw gros â safon y diwydiant.
Mae Maint Elw Net yn mesur elw net fel canran o’r gwerthiannau.
Bydd hyn yn codi wrth i sefyllfa ariannol eich busnes wella.
Elw Gros x 100 Elw Net x 100
Gwerthiannau Gwerthiannau
Nesaf: Treth Ar Werth (TAW)