BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Addewid Cydraddoldeb

Mae’r Addewid Cydraddoldeb yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol at greu gweithle cynhwysfawr.

Beth yw'r addewid busnes moesol?

Mae’r Addewid Cydraddoldeb yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol at greu gweithle cynhwysfawr, teg ac amrywiol, ac arddangos eu hymrwymiad i’w gweithwyr a’r gymuned ehangach a chynnig cynnyrch a gwasanaethau hygyrch i bawb.

Mae’n cynnig amrywiaeth o gamau gweithredu syml ac ymarferol, megis dod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd neu ddatblygu canllaw staff, all helpu eich busnes i ddod yn fwy cynhwysfawr ac amrywiol, creu cyfleoedd teg i bawb a hyrwyddo llesiant unigol a chyfunol. 

Drwy lofnodi’r Addewid Cydraddoldeb, mae gofyn i’ch busnes wneud ymrwymiad cadarnhaol i un, neu fwy o’r gweithredoedd fydd yn helpu i wella eich arferion cydraddoldeb a chynnal yr ymrwymiad hwnnw o fewn eich cymuned, yn cynnwys:

  • Hyrwyddo a darparu gwasanaeth hygyrch a chynhwysfawr                        
  • Adnabod a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg
  • Hysbysebu swyddi gwag yn eang i ymestyn yr amrywiaeth o ymgeiswyr posib
  • Cofrestru fel cyflogwr Cyflog Byw achrededig
  • Cofrestru fel cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd
  • Mabwysiadu canllaw staff a chynnig gwerthusiadau staff rheolaidd
  • Gofyn i gyflenwyr am gopi o’u Polisi Cyfleoedd Cyfartal

Cymryd Rhan


Pam ddylai fy musnes gymryd rhan?

Bydd arwyddo’r Addewid Cydraddoldeb yn helpu eich busnes i:

  • Gwneud gwahaniaeth positif i’w gwsmeriaid, staff a chadwyn gyflenwi
  • Gosod arfer gorau i eraill ei ddilyn
  • Cynyddu ei siawns o ennill tendrau
  • Bod yn fwy arloesol a chreadigol
  • Gwneud mwy o ymchwil i’r farchnad ac agor marchnadoedd newydd

Byddwch hefyd yn ymuno â chymuned gynyddol o dros 2,396 o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth AD gan Busnes Cymru, i helpu i adeiladu Cymru sy’n fwy teg a chynhwysfawr.

Cymorth Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru’n cynnig mynediad at wybodaeth, gweithdai, cyngor ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn rhithiol, yn ogystal â chymorth arbenigol.

Mae gweminarau a gweithdai rhithiol yn cael eu cynnal yn rheolaidd i helpu gydag ystod o faterion busnes gan gynnig mynediad at arbenigedd annibynnol a diduedd.

Drwy lofnodi’r Addewid Cydraddoldeb, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau cadarnhaol rydych wedi’u cymryd i fod yn fwy teg, cynhwysfawr a gwella llesiant unigol a chyfunol.


Rhagor o wybodaeth

Astudiaeth Achos - Academia Musicale

Sefydlwyd Academia Musicale yn 2021 gan Lisa Mears, ac mae’n llwyfan ar-lein sy’n helpu myfyrwyr a cherddorion i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach am gerddoriaeth. Ar ôl derbyn cymorth gan Busnes Cymru, llofnododd Lisa yr Addewid Cydraddoldeb, gan ymrwymo i:

- Ddarparu gwasanaeth hygyrch a chynhwysfawr
- Ystyried a chael gwared ar rwystrau ffisegol a chymdeithasol i gwsmeriaid
- Sicrhau bod y busnes yn gyfrifol yn gymdeithasol

Darllenwch fwy am fusnesau eraill sydd wedi arwyddo’r Addewid Cydraddoldeb yma

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.