
Mae Wythnos Tech Cymru, sy’n cael ei chyflwyno gan Technology Connected, yn arddangos technoleg o Gymru ac yn hyrwyddo'r diwydiant ar y llwyfan byd-eang. Mae'n cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau sy'n datblygu, a'u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw. Ar ôl dwy flynedd o fod yn rhithiol, mae nawr yn bryd bod yn gorfforol. Bydd Wythnos Tech Cymru 2023 yn uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol...