news and blogs Archives
21 canlyniadau
Gall gormodedd mewn busnesau bwyd godi am sawl rheswm; er enghraifft, gor-gyflenwi, gor-archebu, stoc tymhorol darfodedig, oddi ar y fanyleb, problemau pecynnu, a threialon cynhyrchu. Drwy ddargyfeirio'r stoc dros ben hwn i FareShare Cymru, byddwch yn helpu cannoedd o elusennau ledled Cymru. Nod Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru yw helpu i'w gwneud hi'n hawdd i fusnesau bwyd a diod o Gymru roddi eu cynnyrch dros ben, drwy oresgyn unrhyw rwystrau rhag rhoi. Gallai...
Chwiliwch i weld sut mae prisiau cyfartalog cannoedd o eitemau siopa yn newid. Mae chwyddiant yn fesur o sut mae prisiau nwyddau a gwasanaethau yn newid yn y DU, a gall gael effaith fawr ar gyllid aelwydydd pobl. Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi’r cyfradd chwyddiant flynyddol ddiweddaraf, sy'n mesur y newid ym mhris eitemau a brynir yn rheolaidd (a elwir yn fasged nwyddau a gwasanaethau) o'i gymharu â'r un adeg y...
Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Chastell-nedd i weld sut y gall adfywio helpu canol trefi i ffynnu. Ymwelodd y Gweinidog â'r ganolfan hamdden newydd yng Nghastell-nedd a agorodd yn gynharach eleni. Mae'r safle'n cynnwys llyfrgell a gofod manwerthu yn ogystal â phwll nofio, campfa ac ystafell iechyd. Mae'r datblygiad yn enghraifft o'r polisi 'Canol Tref yn Gyntaf' ar waith, gyda llyfrgell a chyfleusterau hamdden yn symud o gyrion y...
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Mae Cymru yn falch o’i threftadaeth gweithgynhyrchu a heddiw mae tua 150,000 o bobl yn gweithio yn y sector sy’n cyfrannu dros 16% at ein hallbwn cenedlaethol, sy’n uwch nag un sector arall ac yn arbennig yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae’n hanfodol ein bod yn dod â rhanddeiliaid ynghyd mewn ffordd gyson a chyfannol i ddiogelu’r gallu sydd eisoes gennym at y dyfodol, i fanteisio ar gyfleoedd...
A ydych chi mewn perygl o ddioddef ymosodiad seiber? Mae risgiau seiber ymhlith y bygythiadau mwyaf i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru. Os ydych chi’n fusnes ac yn defnyddio unrhyw un o’r offer busnes sylfaenol canlynol, gallech chi fod mewn perygl: E-bost Cadw data cwsmeriaid Cynnal gwefan Derbyn taliadau ar-lein Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hariannu gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru i ymchwilio i wydnwch BBaChau yng...
Mae helpu i ddiogelu Cymru rhag ymosodiadau seiber, creu swyddi newydd sydd â llif o dalent yn y dyfodol ar gyfer ecosystem seiber sy'n tyfu'n gyflym yn y DU wrth wraidd Cynllun Gweithredu Seiber newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw (3 Mai 2023) gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething: Pedair blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Seiber newydd i Gymru: Tyfu'r sector seiber, adeiladu llif o dalent, hybu seibergadernid, a diogelu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r cynllun...
Dathlu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ifanc! Mae Gwobrau Proffesiynol Ifanc Cymru yn cydnabod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes. I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fod yn 35 oed ac iau ar 5 Hydref 2023, ac yn gweithio yng Nghymru. Mae'r categorïau eleni yn cynnwys: Gweithiwr Cyllid Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn Gweithiwr Bancio Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn Gweithiwr Datblygu Busnes Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn Gweithiwr Adeiladu Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn...
Lansiwyd grant cystadleuol cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n cynnig Grantiau Cyflawni rhwng £50,000 a £250,000 i gefnogi’r gwaith o adfer mawndiroedd. Mae’r Grantiau Cyflawni cystadleuol newydd, a ddaw o gronfa ariannu sydd â chyfanswm o £500,000, yn addas ar gyfer unrhyw ymgeiswyr sydd â chynllun yn barod i adfer mawndiroedd - o adfer cynefinoedd i ostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Rhaid i chi wneud cais cyn hanner nos ar 1 Gorffennaf 2023. Gellir...
Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer y Grant Coetiroedd Bach. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y grant hwn yn creu 100 o 'Goetiroedd Bach' hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Mae'n rhaid i'r coedlannau hyn fod â'r potensial i fod yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd: sy'n cael eu rheoli'n dda sy'n hygyrch i...
Pagination
- Previous page
- Page 2
- Next page