news and blogs Archives
31 canlyniadau
Gallwch bellach wneud cais ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth ac Arloesi y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) 2023! Mae'r Gwobrau'n cydnabod datblygiadau arloesol ac arferion gorau mewn Peirianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Yn 2023, gwahoddir y gymuned fyd-eang o entrepreneuriaid, arbenigwyr a chrewyr i adeiladu ecosystem sy'n rhoi effaith fesuradwy wrth wraidd arloesedd, a'i nod yw dathlu'r Peirianwyr sy’n defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i ddod o hyd i atebion i'r heriau mwyaf y mae dynolryw yn eu...
Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd.Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu. Mae TUC Cymru wedi...
Mae Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyflawniad rhagorol gan fusnesau'r DU yn y categorïau canlynol: arloesedd masnach ryngwladol datblygu cynaliadwy hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol Os byddwch chi'n ennill, byddwch chi’n: cael eich gwahodd i dderbyniad Brenhinol derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Brenin, sef Arglwydd Raglaw gallu chwifio baner Gwobrau'r Brenin yn eich prif swyddfa, a defnyddio'r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er...
Mae Cymwysterau Cymru yn adolygu cymwysterau yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr, er mwyn eu paratoi i lwyddo mewn byd sy'n newid yn barhaus. Ar ôl adolygu cymwysterau yn y sectorau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo yn ddiweddar, gwnaethant ganfod nad yw'r cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo ôl-16 presennol yn bodloni anghenion dysgwyr na'r diwydiant yn llawn. Mae'r sector hwn yn cynhyrchu biliynau ar gyfer yr economi ac yn cyflogi...
Gall troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fod ar sawl ffurf megis dwyn offer amaethyddol, troseddau difrifol yn erbyn da byw a dinistrio bywyd gwyllt a'u cynefinoedd. Amcangyfrifwyd bod lladradau cefn gwlad yn unig wedi costio £1.3m yn 2021. Bydd y strategaeth ar y cyd, rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn troseddau o'r fath. Bydd dull cydgysylltiedig a strategol yn ganolog i lwyddiant y strategaeth sy'n cael...
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi bwrsari a grant newydd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg. Bydd bwrsari newydd gwerth £5,000 ar gael i athrawon a enillodd Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y bwrsari ar gael yn y lle cyntaf tan Hydref 2028 i asesu a yw’n llwyddo i annog athrawon i...
Y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bwriad i wahardd neu gyfyngu ar y cynhyrchion plastig untro hynny sydd cael eu sbwriela mor rheolaidd oedd yn ystod yr ymgynghoriad ar ei chynigion ym mis Hydref 2020. Roedd y gwaharddiadau hyn yn cael eu datblygu mewn ymateb i'r pryderon cynyddol ynghylch effaith niweidiol llygredd plastig ar ein bywyd gwyllt a'n hamgylchedd. Daeth dros 3,500 o ymatebion i law. Roedd y rhan fwyaf ohonynt o blaid...
Mae’r rhaglen teithiau masnach tramor Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cwmnïau o Gymru i gynnal busnes ar draws y byd. Mae’r daith fasnach ddiweddar i Gynhadledd ar gyfer Datblygwyr Gemau yn San Francisco, a fynychwyd gan y nifer uchaf erioed o fusnesau o Gymru, yn un enghraifft o hyn. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a aeth ar y daith hefyd: "Yng Nghymru, rydym o ddifrif am ein gemau a thechnoleg gemau. Rydym yn cefnogi cymuned...
Mae cynllun newydd i roi hwb i fusnes yng Nghymru wedi’i ddatblygu gan Innovate UK, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi'i lansio, gan baratoi'r ffordd ar gyfer economi arloesedd gryfach. Mae asiantaeth arloesedd y DU, Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun ar y cyd er mwyn helpu i ddatblygu economi Cymru. Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidog Economi Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Innovate UK, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf i’w gytuno gyda llywodraeth...
Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo (MAC) yn cynghori Llywodraeth y DU (UKG) ar faterion mudo. Mae'r MAC yn darparu cyngor annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lywodraethau y DU a datganoledig. Mae'r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder (SOL) yn rhestr o swyddi gweithwyr medrus y mae Llywodraeth y DU yn ystyried eu bod yn brin. Ar gyfer swyddi ar y SOL, mae'r rheolau mewnfudo ar gyfer fisas gwaith yn cael eu llacio, gan ei...
Pagination
- Previous page
- Page 3
- Next page