BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

41 canlyniadau

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2023 yn gyfle i safleoedd twristiaeth ledled Cymru godi ymwybyddiaeth o'r sector ac arddangos ansawdd cynnig twristiaeth Cymru i dwristiaid cartref a rhyngwladol yn y DU. Cynhelir Wythnos Twristiaeth Cymru 2023 rhwng 15 Mai a 21 Mai. I gael mwy o wybodaeth ewch i Wales Tourism Week - Wales Tourism Alliance (wta.org.uk) Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth...
Mae Llywodraeth Cymru yn eisiau glywed eich barn ynghylch rheoliadau newydd i osod targedau newydd a blynyddol ynghylch cerbydau di-allyriadau a fyddai’n berthnasol i geir a faniau ar draws y DU. Bydd y mandad ar gyfer Cerbydau Di-allyriadau yn creu targedau ar gyfer ceir a faniau newydd na fyddant yn cynhyrchu unrhyw allyriadau o nwyon tŷ gwydr rhwng 2024 a 2030. Byddai’r mandad arfaethedig yn gweithredu fel cynllun masnachu o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008...
Ydych chi’n gwybod sut i reoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn y gwaith? Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i warchod iechyd, diogelwch a lles eu cyflogeion. Bydd deall arwyddion camddefnydd o gyffuriau ac alcohol (neu gam-drin) yn eich helpu i reoli’r risg i iechyd a diogelwch yn eich gweithle. Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyfarwyddyd cam wrth gam i’ch helpu chi i reoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn...
Mae SmallBusiness.co.uk yn falch iawn o gyhoeddi y gallwch nawr wneud enwebiadau ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2023! Mae'r gwobrau mawreddog hyn, sy’n dathlu eu chweched flwyddyn, yn cydnabod, yn anrhydeddu ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol ac arloesol busnesau bach a chanolig Prydain ar draws yr holl ddiwydiannau. Yn sgil y pandemig, mae busnesau bach Prydain wedi wynebu heriau newydd a digynsail. Dyna pam mae'r gwobrau eleni yn ymwneud â dathlu gwydnwch, creadigrwydd a llwyddiant...
Gall trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl eich gweithwyr. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi adnewyddu ei ganllawiau ar drais yn y gwaith i'ch helpu i amddiffyn eich gweithwyr. Mae wedi cael ei ddiweddaru i: symleiddio'r llywio i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn hawdd dileu hen gynnwys a rhoi arweiniad ymarferol cyfredol yn ei le eich...
Yn ddiweddar bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwerthuso Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith: Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru Bwriad y gwerthusiad oedd casglu’r gwersi allweddol o’r prosiect oedd yn canolbwyntio ar dde orllewin a gogledd orllewin Cymru cyn iddo gael ei gyflwyno trwy Gymru. Roedd Cymorth yn y Gwaith yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Ei nod oedd helpu pobl i reoli eu hiechyd ac aros mewn gwaith...
Gan ddathlu Gweithwyr Proffesiynol Fintech Cymru, cynhelir Gwobrau Fintech Cymru ar 8 Medi 2023 yn Tramshed, Caerdydd a gallwch wneud ceisiadau ac enwebiadau nawr. Dyma gategorïau eleni: Cwmni Newydd Fintech Cwmni Fintech Cwmni sy’n Tyfu Fintech Arweinydd Fintech Cynnyrch newydd Fintech er Gwell Stori Twf Gorau Rhaglen Academaidd Orau'r Flwyddyn yn Cefnogi Cwmnïau Gwasanaethau Ariannol / Fintech Allforiwr Fintech Seren Fintech Sy'n Dod i'r Amlwg Y Lle Gorau i Weithio Tîm Seiberddiogelwch Y Defnydd Gorau...


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2023
Diweddarwyd diwethaf:
6 Medi 2023
Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yw'r diwrnod gweithredu mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ac mae'n digwydd ar 26 Ebrill 2023. Mae gwastraff bwyd yn ganolog i rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r byd heddiw, gan gynnwys newyn a thlodi, newid yn yr hinsawdd, iechyd a lles a chynaliadwyedd amaethyddiaeth a chefnforoedd. Mae gwastraffu bwyd hefyd yn wastraff o'r ynni i dyfu, cynaeafu, prosesu a choginio, a gall gwastraff bwyd mewn safleoedd tirlenwi achosi...
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Ebrill o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023 yr arolwg blynyddol, Dweud Wrth ABAB, sy’n rhoi’r cyfle i fusnesau bach leisio’u barn yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.