BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1011 canlyniadau

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru. Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff. Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig. Bydd canllawiau...
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5.25 miliwn ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy fisoedd y gaeaf. Diben y gronfa hon yw cefnogi sefydliadau sydd mewn trafferthion gwirioneddol - sydd mewn perygl o gau neu y bydd swyddi'n cael eu colli - oni bai bod cymorth pellach yn cael ei ddarparu. Rhaid i'r risg hon fod o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19. Bydd y gronfa newydd yn...
Mae’r elusen gynaliadwyedd WRAP ac Innovate UK wedi lansio cronfa sylweddol newydd yn y DU i leihau effeithiau plastigion ar yr amgylchedd yn India, Kenya a De Affrica. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yn y DU, arloeswyr a phartneriaid yn y gwledydd i gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau yn y gwledydd hyn. Mae cystadleuaeth International Circular Plastics Flagship Projects yn gronfa gwerth £1.7 miliwn sydd â’r nod o ddatrys problem llygredd...
Bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu chwarae y ti ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen yng Nghymru i helpu i reoli lledaeniad yr amrywiolyn omicron newydd. Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y mesurau newydd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd sydyn pellach yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn sy’n symud yn gyflym. Cadarnhaodd hefyd y bydd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth...
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ychwanegol, sy’n werth £116 miliwn, o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau y mae pandemig Covid-19 yn effeithio’n fwyaf uniongyrchol arnynt. Bydd talwyr ardrethi yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 50% drwy gydol 2022-23. Yn yr un modd â’r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau Manwerthu, Hamdden...
Sut i ddiogelu eich hunan, eich cyflogeion a chwsmeriaid rhag COVID-19. Cynllun rheoli’r coronafeirws: diweddariad hydref a gaeaf 2021 Mae’r diweddariad hwn i gynllun rheoli’r coronafeirws yn canolbwyntio ar yr opsiynau sydd ar gael inni dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf, ewch i Cynllun rheoli’r coronafeirws: diweddariad hydref a gaeaf 2021 | LLYW.CYMRU Lefelau rhybudd COVID-19 Ewch i Lefelau rhybudd COVID-19 | Is-bwnc | LLYW.CYMRU Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd...
Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gost yr hyfforddiant a'r asesiadau. I helpu busnesau i recriwtio prentisiaid, rydym yn cynnig cymhellion tan 28 Chwefror 2022 (yn amodol ar argaeledd cyllideb). Drwy gyflogi prentis, gallwch: leihau eich costau recriwtio adeiladu gweithlu medrus a brwdfrydig sydd wedi'i deilwra i'ch busnes ehangu eich busnes llenwi unrhyw fylchau o ran sgiliau diogelu eich busnes at y dyfodol...
Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn rhannau allweddol o gynllun newydd i gael Cymru ddi-fwg erbyn diwedd y ddegawd. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y strategaeth hirdymor ar reoli tybaco, Cymru Ddi-fwg. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr 2022. Targed y strategaeth yw cael Cymru ddi-fwg erbyn 2030, sy’n golygu y bydd llai na 5% o’r...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru, gweler y pwyntiau isod a allai fod o ddiddordeb i fusnesau yng Nghymru: Argymhellion 18. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer arbenigo a chydweithredu, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod ar gyfer...
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig. Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr 2021 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol. Bydd clybiau nos yn cau hefyd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.