BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1001 canlyniadau

Mae ffurfio gweledigaeth o sut fywyd ydych chi ei eisiau yn y pen draw yn gyflawniad mawr, ac yn gam mawr ar y daith i ddilyn eich angerdd yn llwyddiannus. Ond mae pen draw’r daith yn gallu ymddangos mor bell i ffwrdd fel ei fod yn teimlo mwy fel breuddwyd na realiti. I’w wneud yn fwy real ac i atal mawredd yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni rhag bod yn drech arnoch, mae angen...
Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Amcan y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru. Bydd y Gronfa yn cefnogi: Busnesau wedi cael eu heffeithio rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14...
Mae grŵp Cyngor, Canllawiau ac Arbenigedd Iechyd y Cyhoedd (PHAGE), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyflwyno tystiolaeth i'r pedwar Prif Swyddog Meddygol ynghylch hyd y cyfnod hunanynysu ar gyfer achosion o COVID-19 a'r potensial i leihau'r cyfnod hwnnw drwy ailadrodd profion dyfeisiau llif unffordd (LFD). Cynghorwyd bod cyfnod o 7 diwrnod o hunanynysu ynghyd â dau brawf llif unffordd negatif yn cael fwy neu lai yr un effaith amddiffynnol i bobl â COVID-19...
Bydd Pythefnos Masnach Deg yn ôl ddydd Llun 21 Chwefror tan ddydd Sul 6 Mawrth 2022. Am bythefnos bob blwyddyn, mae miloedd o unigolion, cwmnïau a grwpiau ar draws y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i rannu straeon y bobl sy’n tyfu ein bwyd a’n diodydd ac yn tyfu’r cotwm yn ein dillad. Ewch i wefan Masnach Deg i gael rhagor o wybodaeth. Os ydych chi’n rhedeg busnes, mae rhagor o wybodaeth yma am sut...
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesu i ddatgan unrhyw daliadau grant COVID-19 ar eu ffurflen dreth 2020 i 2021. Mae'r grantiau hyn yn drethadwy a dylai cwsmeriaid eu datgan ar eu ffurflen dreth 2020 i 2021 cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2022. Y cyfnodau ymgeisio a thalu SEISS yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021 oedd: SEISS 1: 13 Mai 2020 i 13 Gorffennaf 2020 SEISS 2: 17 Awst...
Awydd bod yn fos arnoch chi'ch hun? Oes gennych chi syniad busnes neu eisiau gwella'ch sgiliau mentergarwch? Os felly, dyma'r digwyddiad i chi. Mae Start Up 2022 yn gwbl hanfodol i ddarpar entrepreneuriaid o bob math. Mae'n gyfle nid yn unig i ddysgu popeth sydd angen ei wybod am ddechrau busnes a’i ddatblygu, ond i gysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf. Ymunwch â'r digwyddiad rhithwir...
Mae prif feddyg Cymru wedi annog pawb i gymryd camau i amddiffyn eu hunain rhag Covid-19 gan fod cyfraddau achosion yn codi i'w lefelau uchaf yn y pandemig. Fe wnaeth Dr Chris Jones, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, annog pobl ledled Cymru i gael eu brechiad atgyfnerthu a dilyn mesurau i leihau lledaeniad y feirws. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau achosion wedi codi'n sydyn i fwy na 910 o achosion fesul 100,000 o...
Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r gofynion hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad agos ag achosion COVID-19 positif. Ar gyfer oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant 5-18 oed a phobl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlynnau, ni fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu os nodir eu bod yn gysylltiad agos ag achos COVID-19 positif. Yn hytrach, dylent gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod fel mesur rhagofal. Dyma sut mae cael gafael ar...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi ysgrifennu at fasnachwyr i'w hatgoffa o'r newidiadau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2022 a sut y gallent effeithio ar y ffordd y caiff nwyddau eu mewnforio a'u hallforio rhwng Prydain a'r UE. Gallwch ddarllen y llythyr hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn drwy fynd i GOV.UK Trefniadau dros dro ar gyfer symudiadau o Iwerddon a Gogledd Iwerddon Mae llywodraeth y DU...
Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru. Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff. Bydd busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron yn gymwys i gael cymorth ariannol brys o dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.