BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

131 canlyniadau

Bydd Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith 2023 yn cael ei chynnal rhwng 2 Hydref ac 6 Hydref. Mae’r wythnos yn gyfle i gyflogwyr a gweithwyr ganolbwyntio ar les yn y gwaith, a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos i ddarparu gweithgareddau i’w staff, ac i arddangos eu polisïau a’u harferion gwaith. I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ewch i wefan Working Families | National Work Life Week - Working Families
Fel cyflogwr sy’n cynnal cyflogres, mae angen i chi: adrodd i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ar y flwyddyn dreth flaenorol (sy’n gorffen ar 5 Ebrill) a rhoi P60 i’ch gweithwyr paratoi ar gyfer y flwyddyn dreth newydd, sy’n dechrau ar 6 Ebrill Mae CThEM wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig i gyflogwyr ar GOV.UK sy’n cynnwys: cymorth wrth orffen y flwyddyn dreth 2022 i 2023 dechrau’r flwyddyn dreth newydd 2022 i 2023, trwy ddefnyddio codau treth...
Bydd pysgotwyr a pherchenogion cychod yng Nghymru’n gallu gwneud cais i gronfa gwerth £400,000 o 3 Ebrill i’w helpu i addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad ar gyfer cynnyrch bwyd môr, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Daw’r cymorth hwn oddi wrth Gronfa Pysgodfeydd Môr Ewrop (EMFF) ac mae’n cael ei gydariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd. Bydd Cynllun Costau Safonol yr EMFF yn cynnig rhestr o offer y caiff pysgotwyr a pherchenogion cychod...
Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd a luniwyd mewn ardaloedd sy’n treialu’r cyflymder 20mya diofyn newydd wedi dangos cyflymder gyrru arafach, lefelau uwch o gerdded a chyn lleied â phosibl o effaith ar amseroedd teithio, ymhlith eraill. Mae’r adroddiad monitro interim yn defnyddio data a gasglwyd o’r wyth ardal a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf rhaglen 20mya Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyhoeddi heddiw (17 Mawrth 2023) – chwe mis yn union cyn i’r terfyn diofyn...
Peidiwch ag oedi a chofrestrwch heddiw ar gyfer Rhaglen Mentrau Small & Mighty Small Business Britain i helpu i dyfu busnesau bach gyda chanllawiau a mentora arbenigol. Mae'r rhaglen chwe wythnos hon, sydd wedi cael ei chynllunio i atgyfnerthu unig fasnachwyr a busnesau micro, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei darparu'n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU...


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2023
Diweddarwyd diwethaf:
20 Medi 2023
Yn y DU mae ystod eang o grefyddau gwahanol y gall fod angen i gyflogwyr a gweithwyr eu deall yn ogystal â sut y gallant effeithio ar y gweithle o bryd i’w gilydd. Mae’n bosib y bydd un o fisoedd mwyaf sanctaidd y calendr Islamaidd, Ramadan, yn dechrau ar nos Fercher 22 Mawrth ac yn dod i ben ar nos Wener 21 Ebrill. Mae hyn yn golygu y bydd Eid al-Fitr 2023 yn cael ei...
A yw eich sefydliad wedi cyflwyno mentrau rhagorol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant neu o ran hyrwyddo menywod mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol? Efallai eich bod chi wedi bod yn arwain y ffordd o ran arloesi neu'r Gymraeg? Neu a ydych chi'n gwneud gwahaniaeth o ran cynaliadwyedd neu effaith gymdeithasol yng Nghymru neu ei chymunedau? Os ‘ydy/ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hynny, beth am roi cynnig ar Wobrau Cymdeithas Chwaraeon Cymru 2023...
Mae Banc Busnes Prydain yn gwahodd cynigion gan ddarpar reolwyr cronfa i weithredu cronfa newydd. Mae Banc Busnes Prydain ar y trywydd iawn i lansio cronfa fuddsoddi gwerth £130 miliwn yr hydref hwn, gyda'r nod o sbarduno twf busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae Cronfa Fuddsoddi Cymru yn un o gyfres o Gronfeydd Buddsoddi Gwledydd a Rhanbarthau a fydd yn cael ei lansio gan Fanc Busnes Prydain a fydd yn cyflwyno ymrwymiad gwerth £1.6...
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Gwanwyn. Dyma rai pwyntiau allweddol: rhewi’r doll ar danwydd – bydd y toriad 5c i’r doll ar betrol a diesel, a oedd i ddod i ben ym mis Ebrill, yn cael ei gadw am flwyddyn arall bydd y lwfans blynyddol di-dreth ar gyfer pensiynau yn codi o £40,000 i £60,000 a bydd y Lwfans Gydol Oes yn cael ei ddileu bydd y Warant Prisiau Ynni (EPG)...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.