BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

141 canlyniadau

Mae'r Adran Busnes a Masnach (DBT) wedi datgelu gwefan ganolog newydd, wedi'i thargedu at helpu 5.5 miliwn o fusnesau'r DU. Nod safle newydd 'Helpu i Dyfu' yr Adran Busnes a Masnach yw uwchsgilio busnesau mawr a bach ledled y wlad trwy eu helpu i: Ddysgu sgiliau newydd Cyrraedd mwy o gwsmeriaid Hybu elw busnesau I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Homepage - Help to Grow Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth...
Mae Network She yn fenter ragweithiol, esblygol, sy'n cynnig mynediad at adnoddau, cefnogaeth, atebion a chyngor i entrepreneuriaid benywaidd arloesol. Yn dilyn seibiant oherwydd pandemig Covid, mae Cynhadledd Women Mean Business Network She yn ôl ac yn mynd ar daith o amgylch y DU ac yn dod â #WMBT23 i chi! Wele isod ddyddiadau'r daith ar gyfer 2023: 23 Mawrth – Caerdydd 20 Ebrill – Caerhirfryn 25 Mai – Manceinion 29 Mehefin - Birmingham 13...
Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD) ar 18 Mai 2023. Pwrpas GAAD yw i gael pawb i siarad, meddwl a dysgu am fynediad a chynhwysiant digidol, a'r mwy nag un biliwn o bobl sydd ag anableddau/namau. Mae pob defnyddiwr yn haeddu profiad digidol o'r radd flaenaf ar y we. Rhaid i rywun sydd ag anabledd allu profi gwasanaethau a chynnwys ar y we, a chynhyrchion digidol eraill gyda'r un canlyniad llwyddiannus â'r rheiny heb anableddau...
Bydd y Gwarant Pris Ynni, sy'n diogelu cartrefi drwy gapio biliau ynni nodweddiadol ar £2,500, yn cael ei gynnal ar yr un lefel am dri mis pellach dros fis Ebrill, mis Mai, a mis Mehefin, sy'n werth cyfanswm o £160 i gartref nodweddiadol. Mae'r Canghellor yn cyhoeddi'r estyniad fel rhan o Gyllideb Gwanwyn Llywodraeth y DU. Bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei gadw ar £2,500 am dri mis ychwanegol o fis Ebrill i...
Bydd y gwobrau hyn yn cydnabod busnesau, elusennau, ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol ledled Prydain Fawr. Gall unrhyw fusnes neu unigolyn sydd wedi'i leoli ym Mhrydain Fawr naill ai enwebu neu gael ei enwebu. Dyma’r categorïau: Busnes y Flwyddyn Entrepreneur Gwrywaidd y Flwyddyn Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn Busnes Newydd y Flwyddyn Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn BBaCh y Flwyddyn Cyflogwr y Flwyddyn Hyrwyddwr Cymunedol COVID Prentis y Flwyddyn Elusen y Flwyddyn Cyfraniad Eithriadol i'r...
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, 40km oddi wrth arfordir Sir Benfro. Bydd prosiect Erebus yn gosod saith tyrbin cenhedlaeth nesaf, 14 megawat, ar blatfformau sy'n arnofio. Byddan nhw'n darparu digon o ynni carbon isel ar gyfer 93,000 o gartrefi. Mae Erebus yn rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd – digon i ddarparu pŵer ar gyfer pedair miliwn...
Mae'r Great British Business Expos yn darparu Arddangosfeydd a Digwyddiadau Busnes Rhanbarthol BBaCh, gydag arddangosfeydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Bryste, Llundain, Swindon, Birmingham, Reading a Manceinion. Mae pob digwyddiad yn denu 120 o arddangoswyr a dros 1000 o ymwelwyr ar gyfartaledd. Gall y cynrychiolwyr busnes sy’n ymweld rwydweithio, dod o hyd i gyflenwyr newydd, cyfarfod ag arddangoswyr arloesol, cael eu hysbrydoli gan brif siaradwyr, eu llywio gan weithdai sy'n arwain y diwydiant, a...
Mae enwebiadau ar gyfer Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion 2023 wedi agor! Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau unigolion, prosiectau a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a phenderfyniad eithriadol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu. Mae’r gwobrau’n amlygu effaith addysg oedolion a dysgu gydol oes, ac mae’n gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sydd yn newid bywydau. Categorïau’r Gwobrau: Sgiliau ar gyfer Gwaith Dysgwr Ifanc sy’n Oedolyn Newid Bywyd a...
Oes gennych chi syniad neu a ydych chi’n gwneud gwahaniaeth yn barod ac yn chwilio am gymorth i ddatblygu eich menter gymdeithasol? Beth am wneud cais am Ddyfarniad ‘Do It’ UnLtd? Mae’r dyfarniad yn cynnig cyllid a chymorth ar y cyd i’ch helpu i ddechrau arni neu dyfu. Mae’r cynnig am hyd at £18,000, yn dibynnu ar gam eich datblygiad. Gellir cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb trwy gydol y flwyddyn – wele’r dyddiadau isod: Derbynnir ceisiadau...
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cymhelliant swyddogol i ddenu mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i addysgu. Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn darparu hyd at £5,000 i unigolion cymwys – er mwyn sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Mae cyfanswm o £5,000 ar gael i athrawon cymwys sydd yn fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.