BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1211 canlyniadau

Mae seiberdroseddau yn cynyddu, ac mae'r ymosodiadau yn gynyddol ddifrifol. P'un a ydych yn ficrofusnes, yn BBaCh neu'n sefydliad mawr, mae deall sut i ddiogelu eich sefydliad rhag achos o dorri diogelwch data yn elfen hanfodol o'ch llwyddiant cyffredinol. Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau gyda mesurau seibergadernid a gall ymddangos yn faes costus a chymhleth. Fodd bynnag, mae hwn yn fyth y mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn gweithio'n galed i'w chwalu...
Mae gwasanaeth adnewyddu digidol newydd sy'n lleihau’n ddirfawr yr amser a gymer i adnewyddu hawliau IP, o 5 diwrnod i 5 munud, bellach ar gael i bob cwsmer gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO). Am y tro cyntaf, gall cwsmeriaid sydd angen adnewyddu dyluniad cofrestredig wneud hynny ar-lein. Hefyd, gall cwsmeriaid adnewyddu hyd at 1,500 o hawliau IP - gan gynnwys cyfuniadau o batentau, nodau masnach a dyluniadau - diolch i un trafodyn digidol. Mae'r...
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pobl yng Nghymru i gael eu brechu a pharhau i gymryd y camau, sy’n gyfarwydd iawn i ni bellach, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws. Daw hyn wrth iddo gadarnhau na fydd newidiadau sylweddol i’r rheolau Covid yn ystod y cylch diweddaraf hwn o 21 diwrnod. Dair wythnos yn ôl, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Tynnodd hyn y cyfyngiadau cyfreithiol...
Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 25 Mawrth 2022. Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu lesoedd am beidio â thalu rhent. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Medi 2021. Bydd y mesur hwn yn sicrhau bod landlordiaid safleoedd masnachol perthnasol...
Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i rannu eich cofnod o frechiadau rhag y coronafeirws (COVID-19) mewn ffordd ddiogel. Mae’n eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael eich brechu. Gallech ei ddefnyddio ar gyfer: teithio dramor dangos i’ch cyflogwr eich bod wedi cael eich brechu’n llawn ac nad oes angen ichi hunanynysu os byddwch yn cael eich adnabod fel cyswllt mynd i rai digwyddiadau neu leoliadau Am ragor o wybodaeth...
Bydd busnesau’n cael blwyddyn yn ychwanegol i osod marciau diogelwch ar gynhyrchion newydd ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion a roddir ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r UK Conformity Assessed (UKCA) marking yn galluogi’r DU i gael rheolaeth dros ei reoliadau nwyddau, gan gynnal y safonau diogelwch uchel disgwyliedig yn y DU ar gyfer cynhyrchion. Gan gydnabod effaith y pandemig ar fusnesau, bydd Llywodraeth y DU yn ymestyn y dyddiad terfyn hwn...
Mae Rhaglen Leo yn sbardunwr un-i-un pwrpasol ar gyfer entrepreneuriaid twf uchel a darpar entrepreneuriaid llawn potensial. Bydd ugain o fusnesau yn cael eu cefnogi yng ngham nesaf Rhaglen Leo, sef sbardunwr chwe mis am ddim a gynhelir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig ac a rymusir gan Entrepreneurial Spark, lle byddant yn gallu cael gafael ar gymorth ar-lein a phersonol arbenigol gan arbenigwyr yn y diwydiant gofod ac ym maes twf busnes. Mae’r rhaglen...
Mae Future Fashion Factory yn chwilio am ddylunwyr ffasiwn a thecstilau (a’r rhai y tu allan i Lundain yn benodol) i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil i’r amrywiol fathau o gymorth sydd ei angen ar fusnesau micro a busnesau bach. Am ragor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen ganlynol - Galw ar Ddylunwyr a Gwneuthurwyr o Fusnesau Micro a Busnesau Bach i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil (google.com)
Mae pobl yn cael eu hannog i fynegi barn am newidiadau posibl i drethi lleol y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio ag effaith niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau masnachol mewn rhannau o Gymru. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol osod cyfradd uwch y dreth incwm arni ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Bydd hefyd yn holi barn pobl am y...
Mae menter Nid Jyst i Fechgyn Chwarae Teg wedi symud ar-lein dros dro, gan ddarparu gweminarau 1 awr yn rhad ac am ddim i ferched a menywod sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Ymunwch â'r trafodaethau gyda 4 menyw ysbrydoledig sy'n gweithio mewn amryw rolau ym maes adeiladu gyda chwmni VINCI Construction DU a fydd yn rhoi cipolwg ar eu gyrfaoedd hyd yma ac yn cynnig cyngor i'r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.