BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1221 canlyniadau

Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Awst 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Awst 2021 erbyn 14 Medi 2021. Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn dod i ben ar 30 Medi 2021. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer mis Medi erbyn 14 Hydref 2021 ac mae’n rhaid gwneud unrhyw ddiwygiadau erbyn...
Mae'r gystadleuaeth her iX, dan law KTN, yn cefnogi Ørsted i ganfod dulliau arloesol o ddelio â her sylweddol ac uniongyrchol sy'n deillio o ffrwd wastraff. Mae'r her yn chwilio am ddylunwyr ac arloeswyr a fyddai'n defnyddio'r deunydd hwn ar gyfer syniadau creadigol fel deunyddiau ar gyfer ffasiwn, ategolion, gemwaith, esgidiau, cotiau, bagiau; mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Efallai eich bod yn adnabod cwmni tecstilau a all droi'r PVC yn gynnyrch neu grefft arall fel gorchuddion...
Ymunwch â gweminarau byw diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau i gael cyfarwyddyd cyflym a defnyddiol. Mae’r gweminarau’n mynd i’r afael â nifer o bynciau, yn cynnwys: sefydlu cwmni cyfyngedig a’ch cyfrifoldebau chi i Dŷ’r Cwmnïau a CThEM sut y gall eiddo deallusol fel patentau, nodau masnach a hawlfraint effeithio ar eich busnes canllawiau ar sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) sut i gofrestru morgeisi cwmni ac arwystlon eraill yn Nhŷ’r Cwmnïau sut i adfer cwmni i’r gofrestr Yn...
Mae entrepreneuriaid anabl yn llawer mwy tebygol o ddechrau eu busnesau eu hunain, oherwydd anhawster dod o hyd i swydd a all ddiwallu eu holl anghenion hygyrchedd, ac mae ymchwil gan Small Business Britain wedi datgelu y gall mynediad at gymorth gan gymheiriaid a hyder fod yn ddau rwystr anferth. Yn ysbryd y Gemau Paralympaidd, mae d:Entrepreneur yn credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at y perchnogion busnes hynny sydd ag anabledd a chreu...
Sut gallwn ni ddarparu cefnogaeth ddigidol o gwmpas ymyriad ac atal cynnar i blant a phobl ifanc rhwng 8-11 oed i feithrin gwytnwch yn eu hiechyd a’u lles emosiynol? Bydd y ffrwd gwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol (rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru) yn datblygu fframwaith a fydd yn: Cwmpasu’r ‘Pum Ffordd at Lesiant’ Yn ddwyieithog, yn unol â deddf yr Iaith Gymraeg Yn tanategu datblygiad adnoddau Cael ei...
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio galwad bwysig am dystiolaeth gan ofyn am sylwadau ar y ffyrdd gorau o ddatrys anghydfodau ymhlith busnesau, unigolion, teuluoedd ac anghydfodau sifil eraill heb straen a chost achos llys. Bydd yr ymatebion yn llywio diwygiadau i'r maes cyfiawnder sifil, teuluol a gweinyddol yn y dyfodol ac yn ystyried a allai technolegau newydd, yn ogystal â gwasanaethau fel cyfryngu a chymodi, gynnig llwybrau mwy clyfar a llai gelyniaethus o ddatrys...
Beth mae'n rhaid i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau, trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghymru ei wneud ar lefel rhybudd 0. Mae Lefel Rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau yn darparu'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i helpu busnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i leihau'r risg y bydd pobl yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, neu'n ei ledaenu ar eu safle. Ar lefel rhybudd 0, mae llawer o'r gofynion cyfreithiol mewn...
Gyda Cyber Runway, gall entrepreneuriaid a busnesau o’r pedair cenedl fanteisio ar ddosbarthiadau meistr ar fyd busnes, mentora, cymorth i ddatblygu prosiectau, digwyddiadau rhwydweithio a chefnogaeth i fasnachu’n rhyngwladol a sicrhau buddsoddiad, gan eu helpu i droi eu syniadau yn llwyddiannau masnachol. Mae’r sbardunwr yn cael ei gynnig wyneb yn wyneb ac yn rhithwir ledled y DU. Llenwch y ffurflen os hoffech gyflwyno mynegiant o ddiddordeb a chysylltwch â cyberrunway@plexal.com os oes gennych chi unrhyw...
Cynhelir seithfed Gwobrau Busnes Caerdydd ar 26 Tachwedd 2021 gan barhau i ddathlu’r busnesau gorau yng Nghaerdydd a’r potensial aruthrol sydd ym mhrifddinas Cymru. Eleni, mae 17 categori a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu hystyried ar gyfer gwobr gyffredinol Gwobrau Busnes Caerdydd y Flwyddyn 2021. I fod yn gymwys i gymryd rhan, mae’n rhaid i fusnesau fod: Wedi dechrau masnachu ar neu cyn 1 Ebrill 2020. Wedi’u lleoli yn ardal...
Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threth newydd. Bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes os ydych: yn prynu nwyddau gan werthwr o’r UE ac yn eu mewnforio i’r DU yn anfon nwyddau rydych chi wedi’u gwerthu at brynwr yn un o wledydd yr UE heb gyfnewid arian ond angen symud offer a ddefnyddiwch ar gyfer eich busnes...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.