news and blogs Archives
1231 canlyniadau
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi hyd at £1.5 miliwn er mwyn helpu microfusnesau, busnesau bach neu ganolig arloesol i gynnal astudiaethau dichonoldeb rhyngwladol. Nod y gystadleuaeth hon yw cynyddu cysylltiadau rhyngwladol busnesau bach a chanolig arloesol sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Bydd yn eu helpu i geisio sefydlu neu gryfhau partneriaethau a rhwydweithiau ymchwil ac arloesi rhyngwladol a'u cynorthwyo i dyfu ac uwchraddio. Rhaid i'ch...
Os ydych chi'n werthwr busnes neu’r farchnad sy’n anfon eitemau dramor, dim ond trwy ddull cludo cymeradwy y gellir darparu data tollau electronig sy'n cydymffurfio. Mae data tollau electronig bellach yn orfodol pan fyddwch chi'n anfon eitemau / nwyddau dramor (ac eithrio gohebiaeth bersonol). Os na fyddwch yn cydymffurfio â hyn, gallai arwain at oedi, dychwelyd eich eitemau neu hyd yn oed eu dinistrio. Gan ddibynnu ar sut rydych chi'n postio'ch eitemau yn rhyngwladol, bydd...
Mae rhifyn Awst o’r Bwletin Cyflogwyr yn dod â’r holl newyddion diweddaraf i chi o CThEM a chyfarwyddyd i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres. Mae gwybodaeth bwysig am: pontio’r DU a’r newidiadau o archwiliadau hawl i weithio o 1 Gorffennaf 2021 gwybodaeth am COVID-19 gyda diweddariadau ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws y Cynllun Talu wrth Ennill diweddariadau treth a newidiadau i gyfarwyddyd, gan gynnwys y diweddaraf ar y cymorth rheolau gweithio...
Mae grantiau gwerth hyd at £15,000 ynghyd â chymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n awyddus i gychwyn neu ddatblygu menter gymdeithasol sydd eisoes wedi’i sefydlu. Mae’r cyllid hwn ar gael trwy UnLtd. Mae UnLtd wedi ymrwymo i ddarparu 50% o’i ddyfarniadau i entrepreneuriaid cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a/neu entrepreneuriaid cymdeithasol anabl. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn byw yn y DU ac...
Gall gweithwyr unigol fod mewn o berygl o niwed gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un i’w helpu neu eu cefnogi os yw pethau’n mynd o chwith. Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i’r rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Lawrlwythwch daflen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ' Protecting lone workers: How to manage the risks of working alone' ar gyfer unrhyw un sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n eu...
Ymunwch yr rhaglen Miwtini Canol Tref a fydd yn ymdrin â'r holl wybodaeth hanfodol sydd angan arnoch i redeg busnes llwyddiannus. Bydd canllawiau Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Gogledd Cymru hefyd yn cael eu cynnwys. Cronfa sydd yn rhoi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng 9.30am...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau newydd i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod yn iawn beth sydd angen iddynt ei wneud i dalu eu prentisiaid a’u holl weithwyr yn briodol. Mae gan bob un gweithiwr yn y DU hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, faint bynnag eu hoedran neu beth bynnag eu proffesiwn. Er nad yw pob achos o beidio â thalu’r isafswm cyflog yn fwriadol, cyfrifoldeb pob cyflogwr yw hi wedi bod erioed i...
Os ydych chi’n rhedeg busnes dillad, bwyd a diod, atchwanegiadau, chwaraeon, ffitrwydd, harddwch neu nwyddau cartref yn y sector llesiant, dyma’r digwyddiad i chi. Cewch gyfarfod prynwyr manwerthu gan glywed sut i sicrhau bod eich cynhyrchion yn cael eu stocio, cewch gyngor gan entrepreneuriaid llwyddiannus yn y diwydiant a dysgu sut i dyfu’ch busnes yn y digwyddiad ar-lein cyffrous hwn. Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 20 Awst 2021, rhwng 12pm a 5.30pm. Mae digwyddiadau cyfnewidfa...
Mae busnesau o bob cwr o Gymru (a thu hwnt!) yn gallu creu arwyddion dwyieithog yn hyderus, diolch i wasanaeth cyfieithu a gwirio testun hwylus a chyfeillgar Helo Blod. Dyma’n union mae Siop Lyfrau Trefaldwyn – The Bookshop Montgomery wedi’i wneud, gan fabwysiadu enw dwyieithog yn y broses! Clicia’r ddolen isod i glywed y perchennog, Barry Lord, yn sôn am sut mae gwasanaeth hawdd-i’w-ddefnyddio Helo Blod wedi’u helpu nhw i wneud mwy o ddefnydd o’r...
Nod y grantiau prosiect Reimagine newydd yw helpu sefydliadau fel amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, archifau a llyfrgelloedd cyhoeddus, asiantaethau a gwyliau y DU wrth iddynt ailddychmygu eu gweithgareddau wedi’r pandemig. Maent yn cynnig cymorth i feithrin arbenigedd, gallu a chysylltiadau o fewn a thu hwnt i’r sector. Nid bwriad y grantiau newydd hyn yw darparu cyllid ‘brys’ neu ‘adfer’. Fodd bynnag, mae’r cynllun wedi’i lunio i fodoli yn y presennol ac i fynd i’r afael...
Pagination
- Previous page
- Page 123
- Next page