BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1241 canlyniadau

Bydd hawliau dinasyddion yr AEE ac aelodau eu teuluoedd sy’n gwneud cais yn hwyr am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn cael eu diogelu wrth i’r Swyddfa Gartref ddal ati i gefnogi’r rhai sydd am aros yn y DU. Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi trefniadau cynhwysfawr ar waith i alluogi’r rhai sydd â seiliau rhesymol dros beidio â chyflwyno cais i’r Cynllun cyn y dyddiad cau. Mae Llywodraeth y DU wedi hysbysu’r...
Mae Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid 2022 i 2023 Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb. Bydd y grantiau hyn yn galluogi sefydliadau llwyddiannus i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau er mwyn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy, modern a deniadol mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ledled Cymru. Mae gwybodaeth am y cynllun grant a sut i wneud cais ar gael isod: Grant cyfalaf ar gyfer...
Mae Instructus Skills wedi’u contractio i adolygu’r gyfres Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Mentrau Busnes gyda’r nod o ddiweddaru’r cynnwys a’i fod yn dilyn arferion gorau presennol. Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol yn amlinellu’r swyddogaethau amrywiol a’r meysydd cymhwysedd ar gyfer rolau swyddi mewn Mentrau Busnes a gwahoddir safbwyntiau a barn gan entrepreneuriaid, busnesau bach a chyflogwyr i roi safbwynt byd go iawn ar ba mor dda mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso - a...
Ydych chi yn y diwydiannau creadigol? Beth a sut ydych chi am glywed gan Cymru Greadigol? Mae Cymru Greadigol yn gofyn i chi am y diwydiant rydych chi'n gweithio ynddo, sut y gallant ymgysylltu â chi'n well a'r hyn rydych chi'n ei ddisgwyl gan eu tîm marchnata a chyfathrebu. Mae Cymru Greadigol wedi llunio arolwg yn ffurfio rhan o brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’n perthynas gyda phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru...
Mae ION Leadership wedi gallu ehangu eu rhaglenni arweinyddiaeth sydd wedi’u cyllido’n llawn hyd 31 Mawrth 2022. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan gronfeydd yr UE o dros £6 miliwn, ac yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf mae wedi cefnogi dros 1500 o arweinwyr mewn dros 1000 o fusnesau i ddatblygu mentrau cynaliadwy a phroffidiol. Sut allwch chi gymryd rhan? Mae mor hawdd ag 1, 2, 3: 1. Ydych chi’n gymwys? Mae’r rhaglenni sydd...
Mae her Pecynnau Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP) Ymchwil ac Arloesi yn y DU wedi cyhoeddi cronfa gwerth £7 miliwn newydd. Mae’r gystadleuaeth ar agor i brosiectau sy’n datrys cynaliadwyedd pecynnau plastig. Mae Pecynnau Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP) yn chwilio am brosiectau ymchwil a datblygu uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau adnabyddus ynghylch cynaliadwyedd pecynnau plastig. Yn gyson â chylch gwaith Pecynnau Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP), y nod yw sbarduno newid go iawn o ddatrysiad economi...
Mae Pwyllgor Technoleg y Gyfraith Cymdeithas y Cyfreithwyr Caerdydd a’r Cylch a Legal News Wales wedi lansio arolwg ar gyfer y sector cyfreithiol yng Nghymru, i gael gwell dealltwriaeth o sut mae cwmnïau’r gyfraith ac endidau cyfreithiol yn defnyddio technoleg, unrhyw heriau cysylltiedig i LawTech, pa broblemau yr hoffai sector y gyfraith eu goresgyn, ac os gall technoleg helpu a chreu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Dyma’r arolwg cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar sector...
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annog pawb i barhau i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws wrth iddo gadarnhau y bydd Cymru’n symud i’r lefel rhybudd sero newydd am 6am ar 7 Awst 2021, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru. Ar lefel rhybudd sero: Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl y cewch gwrdd â nhw, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus a digwyddiadau. Bydd busnesau...
Bydd CThEM yn cau ei system Trafod Tollau Nwyddau a gaiff eu Mewnforio a'u Hallforio (CHIEF) ar 31 Mawrth 2023. O’r dyddiad hwn, bydd angen i bob busnes ddatgan nwyddau drwy’r Gwasanaeth Datgan Tollau (CDS). Ar hyn o bryd, defnyddir CDC ar gyfer datganiadau Gogledd Iwerddon a Gweddill y Byd. Cyn cau’n llwyr ar 31 Mawrth 2023, bydd gwasanaethau ar CHIEF yn cael eu tynnu yn ôl mewn dau gam: 30 Medi 2022: datganiadau mewnforio...
Yn dilyn newidiadau i'r polisi hunanynysu, bydd taliad cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru yn cael ei godi o £500 i £750. Bydd y cynnydd yn dod i rym ar 7 Awst 2021 a chaiff ei adolygu gan y Gweinidogion ymhen tri mis. Mae'r taliad wedi'i gynllunio i oresgyn rhai o'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu (TTP) GIG Cymru am eu bod wedi cael prawf positif, am...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.