BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1251 canlyniadau

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain wrth wneud y gorau o barciau, traethau a mannau prydferth Cymru dros yr haf. Ledled Cymru, mae mwy o sbwriel i’w weld wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i’r tywydd wella. Mae ymddygiad lleiafrif bach wedi cael effaith negyddol ar fwynhad pawb o fyd natur. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno a phob awdurdod lleol ledled Cymru er...
Gall sefydliadau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau sgiliau, talent a hyfforddiant arloesol, sy’n llenwi bylchau sydd yno’n syth mewn sgiliau, talent a hyfforddiant yn gyflym, yn y diwydiant electroneg pŵer, peiriannau a gyriannau (PEMD). Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i ymgeiswyr unigol a chydweithrediadau. I arwain prosiect neu i weithio ar eich pen eich hun, mae’n rhaid i’ch sefydliad fod wedi’i gofrestru yn y DU...
Lansiwyd rhaglen Merched sy’n Arloesi Innovate UK ar 1 Mehefin 2016 i fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth menywod sy’n ymgysylltu ag Innovate UK, er mwyn annog mwy o fenywod â syniadau gwych i arloesi mewn busnesau yn y DU, a hybu’r economi. Mae’r rhaglen a gynhelir gan KTN ac Innovate UK Edge yn galluogi menywod gwych i gyflawni eu gweledigaeth yn llawn a newid y byd, tra’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth o ran rhywedd...
Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cyflogi 250 neu fwy o bobl gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Tra bod gan gyflogwyr tan 5 Hydref 2021 i adrodd ar ddata o 2020/21, mae arweinwyr busnes yn cael eu hannog i goladu eu data cyn gynted â phosibl, er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio i gynllunio camau pwrpasol i fynd i’r afal ag unrhyw fylchau. Yn y fideo byr hwn Report your...
Cadarnhaodd y Prif Weinidog na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws. Bydd y newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn yn dod i rym o 7 Awst 2021, sef yr un diwrnod ag y disgwylir i Gymru symud i lefel rhybudd sero, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd...
Gall elusennau a busnesau bach fanteisio ar becyn e-ddysgu am ddim a fydd yn rhoi hwb i’w gallu i amddiffyn eu hunain rhag y bygythiadau a ddaw yn sgil seiberdroseddwyr. Mae’r hyfforddiant, Cyber Security for Small Organisations and Charities, yn tywys busnesau drwy’r camau y dylent eu cymryd er mwyn lleihau’n ddramatig y risg o’r ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin, fel meddalwedd wystlo a gwe-rwydo. Mae’r cyngor, sydd hefyd yn addas ar gyfer unig fasnachwyr a’r...
Meddyliwch am eich arwyr - yr holl gyflawnwyr mawr a’r perfformwyr gorau ledled sbectrwm busnes, chwaraeon a thu hwnt. Beth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin? Yr ateb yw angerdd penderfynol dros yr hyn maen nhw’n ei wneud. Dyma’r ffactor pwysicaf oll er mwyn llwyddo. Bydd cael gafael ar eich angerdd yn cael effaith fawr ar gyflawni’ch nodau, bod yn fodlon eich byd a byw bywyd hapus. Gall gyfoethogi’ch perthynas â’ch teulu a’ch cydweithwyr...
Mae pecyn cymorth newydd wedi lansio i gefnogi busnesau a sefydliadau wrth iddyn nhw helpu eu gweithwyr i gael y brechlyn COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu. Bydd yn eu hannog i wneud y canlynol: Bod mor hyblyg â phosibl pan fydd yn amser i staff gael brechlyn, a allai gynnwys rhoi amser o’r gwaith gyda thâl i weithwyr...
Mae hyb cyngor newydd wedi’i lansio i helpu pobl anabl i ddeall eu hawliau cyflogaeth yn y gwaith. Bydd yr hyb ar-lein, sef partneriaeth rhwng DBEIS ac Acas, yn rhoi cyngor clir i bobl anabl a chyflogwyr ar hawliau cyflogaeth – o wahaniaethu yn y gweithle i addasiadau rhesymol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Acas.
Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau wrth inni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr â bodolaeth y feirws. Mae cynllunio ymlaen llaw yn helpu i gadw eich staff, eich cwsmeriaid, a’ch busnes yn ddiogel. Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’n bwysig bod pobl yn cael profion rheolaidd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.