BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1431 canlyniadau

Bydd mesurau rheoli traffig yng Nghaint yn cael eu dileu wrth i fasnach ddychwelyd i lefelau arferol. Bydd Trwydded Mynediad i Gaint yn cael ei dileu o 20 Ebrill 2021, gan fod oedi wedi'i atal diolch i'r ffaith bod cludwyr wedi gwneud y paratoadau angenrheidiol cyn cyrraedd y ffin. Bydd dileu'r Drwydded yn golygu llai o waith papur i gludwyr ac yn gwneud croesi’r ffin yn gyflymach ac yn haws, gan gefnogi ymhellach y llif...
Bydd Wythnos Tech Cymru yn dychwelyd yn yr haf, ar ôl digwyddiad cyntaf llwyddiannus yn 2020. Cynhelir Wythnos Tech Cymru, sy’n dwyn ynghyd gyfranogwyr blaenllaw yn y gymuned dechnoleg fyd-eang, rhwng 21 a 25 Mehefin 2021, fel gŵyl rithwir yn ffrydio bedwar ban byd, mewn amser real. Bydd y digwyddiad am ddim yn ŵyl haf bum diwrnod yn llawn siaradwyr o safon byd o rai o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru a thu hwnt, ac i’w...
Bydd FoodEX yn rhan o’r UK Food and Drink Shows, gan ddathlu dychweliad arddangosfeydd ym meysydd datblygu bwyd, siopa bwyd, gweithgynhyrchu, manwerthu arbenigol, cyfanwerthu a gwasanaethau bwyd. Cynhelir FoodEx yn NEC Birmingham rhwng 5 a 7 Gorffennaf, law yn llaw â’r digwyddiadau canlynol: The Ingredients Show Food & Drink Expo National Convenience Show Farm Shop & Deli Show The Forecourt Show Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Foodex.
Sefydlwyd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yn 2015 i gydnabod llwyddiannau unigolion sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle a chymryd risgiau i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Cynhelir Gwobrau Busnesau Newydd Cymru ers chwe blynedd bellach a dyma’r unig wobrau yn y DU sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddathlu llwyddiannau busnesau newydd a chydnabod busnesau ar draws pob sector a phob rhan o Gymru. I wneud cais am y gwobrau, mae’n rhaid i swyddfa...
Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru. Bydd y pecynnau profi cyflym hyn ar gyfer y coronafeirws ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener 16 Ebrill 2021 ymlaen. Gallwch gael pecynnau profi ar gyfer chi eich hun a’ch aelwyd. Caniateir i bob person gasglu 2 becyn o 7 prawf llif unffordd...
Mae Dr Frank Atherton Prif Swyddog Meddygol/Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru, wedi cyhoeddi llythyr at sylw darparwyr gwasanaethau cysylltiad agos ynghylch a cadw amgylchedd diogel rhag Covid yn y sector gwasanaethau cysylltiad agos i ddiogelu staff a chleientiaid. Darllenwch y llythyr yn ei gyfanrwydd yma.
Os ydych chi am ymarfer proffesiwn a reoleiddir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir ac nad yw’ch cymwysterau proffesiynol wedi’u cydnabod eto yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd nac yn y Swistir, dylech: Fwrw golwg ar Gronfa Ddata Proffesiynau a Reoleiddir y Comisiwn Ewropeaidd i weld a yw’ch proffesiwn yn cael ei reoleiddio yn y man y bwriadwch weithio. Cysylltu â’r pwynt cyswllt unigol ar gyfer y wlad lle y bwriadwch weithio i weld sut...
Mae cyfraddau straen, iselder a gorbryder sy’n gysylltiedig â gwaith wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac roedd y llynedd yn llawn heriau newydd nad oedd wedi’u hwynebu o’r blaen. Bydd cydnabod arwyddion straen yn helpu cyflogwyr i gymryd camau er mwyn atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle. Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr cyflogedig rhag straen yn y gwaith drwy wneud asesiad risg a gweithredu arno. Wrth fynd i’r...
Mae Gwobrau Cyllid Cymru wedi’u llunio i adnabod, denu a buddsoddi yn y gweithwyr proffesiynol a thalentog sy’n gweithio ym maes cyllid yng Nghymru. Dyma’r categorïau eleni: Arwr/arwyr COVID prif swyddog ariannol/cyfarwyddwr cyllid y flwyddyn (dros £25 miliwn) prif swyddog ariannol/cyfarwyddwr cyllid y flwyddyn (hyd at £25 miliwn) cyfarwyddwr cyllid ifanc y flwyddyn rheolwr cyllid y flwyddyn cyfrifydd y flwyddyn technegydd cyfrifon y flwyddyn seren newydd y flwyddyn tîm cyllid (gwasanaethau ariannol) y flwyddyn tîm...
O ddydd Llun 12 Ebrill 2021, bydd modd bwrw ati i lacio fel a ganlyn: Bydd pob plentyn yn gallu dychwelyd i’r ysgol ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr. Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau’r broses o ailagor siopau manwerthu nad ydynt yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.