BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1441 canlyniadau

Er mwyn atal COVID-19 rhag lledaenu, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Coronafeirws, gan osod cyfyngiadau llym ar bobl yn ymgynnull ac yn symud, ac ar redeg busnesau (bu’n rhaid i rai ohonynt gau dros dro). Bob yn dipyn, ar ôl cynnal adolygiadau rheolaidd o’r Rheoliadau, mae nifer cynyddol ohonynt wedi cael caniatâd i agor eto. Rhaid i fusnesau sy’n cael caniatâd i weithredu, neu leoliadau sy’n cael caniatád i agor, wneud hynny’n ddiogel mewn ffordd...
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi o ddydd Llun 12 Ebrill y bydd modd llacio’r cyfyngiadau fel a ganlyn: Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau’r broses o ailagor siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn raddol. Gall yr holl wasanaethau cysylltiad agos sy'n weddill agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol. Bydd cyfyngiadau teithio ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar deithio i...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar iechyd a diogelwch ar gyfer yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a dros dro. Mae’r economi gig yn tyfu ac mae’r ffyrdd y mae pobl yn gweithio yn newid, felly mae angen i gyflogwyr feddwl yn wahanol am ffyrdd o gadw gweithwyr yn iach a diogel. Mae eu canllawiau ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys trosolwg o’r rheswm y dylai cyflogwyr ystyried yr economi gig...
Nid yw cofrestriadau cynlluniau rhyngwladol a ddiogelir sy’n dynodi’r UE yn ddilys bellach yn y DU. Mae’r hawliau hyn wedi’u disodli’n awtomatig gan hawliau’r DU. Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi gyda gwybodaeth am newidiadau ar gyfer busnesau a deiliaid cynlluniau rhyngwladol a ddiogelir gan yr UE, gan gynnwys: Creu'r cynllun rhyngwladol ailgofrestredig Rhifo'r cynllun rhyngwladol ailgofrestredig Ceisiadau dan ystyriaeth Optio allan o ddal cynllun rhyngwladol ailgofrestredig Adnewyddu ac adfer Cyhoeddi gohiriedig Am ragor o wybodaeth, ewch...
Beth bynnag yw'ch gweledigaeth, byddwch yn cyflawni eich breuddwyd os gallwch wahaniaethu eich hun oddi wrth eraill, yn hytrach na chwarae "fi hefyd". Bydd yn eich helpu i ddiffinio eich cynulleidfa unigryw eich hun. Gan mai chi'ch hun fydd yn cyfrannu'n allweddol at gyrraedd eich nod, mae angen i chi feddwl yn ofalus am rywbeth cyn ystyried pa mor wreiddiol yw'ch cynnig - sut rydych chi'n bersonol yn wahanol, a beth sydd gennych chi sydd...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30 miliwn i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau. Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd. Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol. I ddarllen y cyhoeddiad yn llawn, ewch...
Gall busnesau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu cam hwyr a ddatblygwyd yn y DU, i gefnogi twf mewn gallu gyriant carbon isel datblygedig yn y sector modurol a'i gadwyn gyflenwi gysylltiedig. Mae Advanced Propulsion Centre (APC) 18 yn chwilio am y canlynol: prosiectau sy'n cefnogi galluoedd hirdymor y DU trwy sicrhau buddsoddiad Ymchwil a Datblygu tymor hir prosiectau y gellir eu cyflawni...
Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threthi newydd. Bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes os ydych chi’n: prynu nwyddau gan werthwr yn yr UE ac yn dod â’r nwyddau i mewn i’r DU anfon nwyddau rydych chi wedi’u gwerthu i brynwr mewn gwlad yn yr UE. heb gyfnewid arian ond angen symud cyfarpar rydych chi’n ei ddefnyddio...
Mae’r Sefydliad Twristiaeth Gymdeithasol Rhyngwladol (ITSO) yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid o’r sectorau twristiaeth gymdeithasol, gynaliadwy ac undod o bedwar ban byd, i hyrwyddo twristiaeth hygyrch a chyfrifol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr ITSO ei Argymhellion er mwyn helpu darparwyr twristiaeth wrth iddynt groesawu pobl ag anableddau yn ystod argyfwng iechyd fel COVID-19. Ewch i wefan yr ITSO am ragor o wybodaeth am dwristiaeth deg a chynaliadwy.
Gallwch nawr gyflwyno eich ceisiadau am gyfnodau ym mis Mawrth. Rhaid eu gwneud erbyn dydd Mercher 14 Ebrill 2021. Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu eich cyflogres. Os gallwch chi, mae'n well gwneud hawliad unwaith y byddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bu eich cyflogeion yn gweithio fel nad oes rhaid i chi newid eich hawliad yn nes ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch gweithwyr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.