BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1451 canlyniadau

Os yw’ch busnes yn defnyddio, gwneud, gwerthu neu fewnforio cemegion yn y DU a’r UE, edrychwch sut mae cydymffurfio â rheoliadau cemegion REACH yr UE a’r DU. Mae REACH y DU yn rhan o gyfundrefn rheoleiddio cemegion y DU. Os ydych chi’n gwerthu neu ddosbarthu cemegion yn y DU neu’r UE, bydd angen i chi gadw at reolau REACH y DU a REACH yr UE. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth 2021 wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog. Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill 2021, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y...
Yn 2021, gohiriwyd gorfodi rheoliadau’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi y bydd cyflogwyr eleni’n wynebu camau gorfodi os nad ydynt yn adrodd ar eu data. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw sefydliad sy’n cyflogi dros 250 o aelodau staff gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fodd bynnag, yn sgil yr heriau sy’n wynebu llawer o gyflogwyr ar hyn o bryd...
O dan y cyfyngiadau presennol, mae hi’n anhebygol y byddwch yn teithio dramor, ond os ydych chi’n bwriadu teithio i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir at ddibenion gwaith neu fusnes yn y dyfodol, dylech: Weld a oes angen i chi wneud cais am fisa, trwydded waith neu ddogfennaeth arall. Hefyd, bwrwch olwg ar wefannau’r wlad berthnasol i weld manylion gofynion gwneud cais ac amseroedd prosesu os oes angen i chi wneud cais, a gwnewch gais...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24 miliwn i adfywio canol trefi Cymru sy'n cynnwys: £18.4 miliwn o gyllid benthyciad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i eiddo hen a gwag. £3.34 miliwn yn helpu busnesau'r stryd fawr i dyfu a chroesawu technoleg ddigidol arloesol a fydd yn helpu eu busnes i ffynnu fel rhan o Flwyddyn Trefi SMART. £3 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gymell mwy o fusnesau yng...
Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oedran, rhyw a hil ac mae’n cynnwys gwahanol fathau o gamfanteisio. Mae caethwasiaeth fodern yn anghyfreithiol. Caiff ei diffinio i olygu bod plant, menywod neu ddynion yn cael eu recriwtio, eu symud, eu llochesu neu eu derbyn drwy ddefnyddio grym, pwysau, twyll, camdriniaeth neu unrhyw ddull arall er mwyn camfanteisio arnynt. Mae caethwasiaeth yn cael ei galw’n drosedd gudd oherwydd mae’n gallu bod yn anodd nodi pwy...
Cynllun benthyciadau newydd i gefnogi busnesau’r DU i gael mynediad at gyllid wrth iddyn nhw dyfu ac adfer ar ôl i bandemig COVID-19 darfu arnyn nhw. Mae’r Cynllun Benthyciadau Adferiad yn sicrhau y gall busnesau o unrhyw faint barhau i gael mynediad at fenthyciadau a mathau eraill o gyllid hyd at £10 miliwn y busnes ar ôl i’r cynllun benthyciadau COVID-19 presennol ddod i ben, gan ddarparu cymorth wrth i fusnesau adfer a thyfu ar...
Yn ddiweddar, agorodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK, gystadleuaeth newydd Cam 1: Gwanwyn 2021 Y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd BEIS yn cynnal cyfres o glinigau rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid IETF. Bydd y clinigau rhanddeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 1, drwy eu...
Mae cwmni Purah Beeswax Candles yn Llannon, Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn defnyddio Helo Blod, gwasanaeth cyfieithu a chynghori cyflym a chyfeillgar sydd ar gael am ddim i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae'r cwmni canhwyllau cynaliadwy wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth am ddim i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn y busnes. Maent wedi gweld manteision o ddefnyddio'r Gymraeg yn barod. Ar hyn o bryd mae Helen Louise Williams, perchennog Purah...
Gallai Cronfa Gymorth Brexit BBaChau roi hyd at £2,000 i’ch helpu gyda hyfforddiant neu gyngor proffesiynol, os oes gan eich busnes hyd at 500 o weithwyr a throsiant o ddim mwy na £100 miliwn y flwyddyn. Gall masnachwyr wneud cais am hyd at £2,000 i gyd drwy ddau fath o grantiau. Grantiau ar gyfer Hyfforddiant: Gellir defnyddio’r grantiau i ddarparu hyfforddiant ar y canlynol: Sut mae cwblhau datganiadau tollau Sut mae rheoli prosesau tollau a...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.