BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1471 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd gwerth £1.3m i helpu sector pysgota a dyframaethu Cymru yn dilyn y ddau argyfwng i'w busnesau a achoswyd drwy adael yr UE a phandemig Covid-19. Bydd rhan gyntaf y cynllun yn gweld grant untro wedi'i dargedu ar gael i fusnesau pysgota cymwys sy'n berchen ar longau yng Nghymru, gyda'r grant sy'n cyfateb i gostau llongau am dri mis, wedi'i gapio ar £10,000. Bydd y taliadau'n seiliedig ar faint...
Mae £150 miliwn arall wedi'i neilltuo i gefnogi busnesau Cymru i ymdrin ag effaith barhaus y pandemig coronafeirws. Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw'n hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig, a bydd yn gweithredu fel ychwanegiad at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Bydd hyn yn gweld busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000. Bydd cwmnïau...
O yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth 2021) ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig. O ddydd Llun ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion sy’n astudio...
Fel rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned fusnes, bydd y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent, a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth, bellach yn cael ei ymestyn hyd 30 Mehefin, 2021. Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent lle bynnag y bo modd, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau na chaiff unrhyw fusnes ei orfodi allan o'i safle os...
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru. Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, a fydd bellach yn rhedeg hyd at 30 Medi 2021, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn ymateb i COVID-19 er mwyn helpu busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r coronafeirws (COVID-19). Mae hyn yn golygu y bydd busnesau'n gallu hawlio hyd at...
Ydych chi’n poeni am ddyfodol canol eich tref? Ydych chi wedi ymweld â chanol eich tref i siopa am y Nadolig? Mae COVID-19 wedi cael effaith ar Gymru gyfan. Mae wedi cyflwyno heriau gwirioneddol i fusnesau, manwerthwyr, cyrff cyhoeddus, aelodau etholedig a swyddogion cynghorau ledled y wlad. Mae Archwilio Cymru yn cynnal ymchwil ar ddyfodol trefi Cymru ac eisiau eich barn a'ch profiad ar: beth sy'n gwneud eich tref leol yn lle gwych i ymweld...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ac ychwanegu at ei gyngor i helpu cyflogwyr i sicrhau awyru digonol yn eu gweithleoedd yn ystod y pandemig. Nod y canllawiau hyn yw eich helpu i nodi ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael a chymryd camau perthnasol. Hefyd, mae’n rhoi arweiniad ar ffactorau eraill i'w hystyried wrth asesu'r risg o drosglwyddo aerosol, a phenderfynu a oes digon o awyru'n cael ei ddarparu i leihau'r perygl hwn...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn pellach ar gyfer busnesau sector penodol sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau parhaus yn sgil y coronafeirws. Bydd y cyllid diweddaraf o’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei dargedu at fusnesau bach, canolig a mawr yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a busnesau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi. Mae’r ail gyfnod ymgeisio am y Gronfa Penodol i'r Sector bellach ar agor a bydd yn cau am 8pm...
Gallwch nawr gyflwyno eich ceisiadau am gyfnodau ym mis Chwefror. Rhaid eu gwneud erbyn dydd Llun 15 Mawrth 2021. Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu eich cyflogres. Os gallwch chi, mae'n well gwneud hawliad unwaith y byddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bu eich cyflogeion yn gweithio fel nad oes rhaid i chi newid eich hawliad yn nes ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch gweithwyr...
Mae’r Rhaglen Sbarduno Datblygwyr Technoleg yn cefnogi busnesau bach a chanolig, boed yn fusnesau newydd, yn gwmnïau deillio neu’n sefydliadau mwy aeddfed, sydd â syniad sydd yn y camau cynnar am dechnoleg trafnidiaeth ac sy’n awyddus i gyflymu eutaith i gyrraedd y farchnad. Mae’r Rhaglen Sbarduno Datblygwyr Technoleg Cam 5 yn cefnogi busnesau bach a chanolig sy’n datblygu technoleg, cynhyrchion a gwasanaethau modurol arloesol: sy’n cefnogi gweithredu cerbydau heb unrhyw allyriadau, neu; sy’n cefnogi symud...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.