news and blogs Archives
1481 canlyniadau
Mae’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW ohiriedig yn agored hyd at ac yn cynnwys 21 Mehefin 2021. Os ydych ar y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW, neu ar y Cynllun Taliadau TAW ar Gyfrif, byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â’r cynllun talu newydd yn hwyrach ym mis Mawrth 2021. Mae’r cynllun newydd yn sicrhau y gallwch wneud y canlynol: talu eich TAW ohiriedig mewn rhandaliadau cyfartal, yn ddi-log dewis nifer y rhandaliadau, rhwng 2...
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws wedi cael ei ymestyn hyd ddiwedd Medi 2021. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, hyd ddiwedd Mehefin 2021. Yn ystod mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn talu am 70% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o...
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllawiau chyflogwyr er mwyn iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol. Maen nhw’n annog cyflogwyr yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus i fabwysiadu polisïau gweithle sy’n cynnwys: cam-drin domestig: polisïau yn y gweithle a rheoli a chefnogi cyflogeion eich busnes chi yw iechyd meddwl creu gweithle cyfeillgar i ffydd ar gyfer Mwslimiaid I gael rhagor o wybodaeth ac...
Mae dogfen esboniadol fer wedi’i llunio i’ch helpu i ddeall y rheolau newydd sydd ar waith ar gyfer teithio busnes i Ewrop gyda’r gwaith. Mae’r rheolau hyn yn gymwys i chi os ydych chi’n teithio gyda’ch gwaith i Ewrop, waeth a ydych chi’n mynychu cynhadledd neu’n darparu gwasanaethau ai peidio. Am ragor o wybodaeth am ofynion mynediad, bagiau, enillion, cymwysterau ac yswiriant sy’n gysylltiedig â’ch teithio, cymerwch gip ar y ddogfen esboniadol lawn. Am ragor...
Cynigir Rhaglen Gymorth y Gweithlu Maes gan Swyddfa’r Cabinet i gefnogi busnesau sy’n masnachu gwerth dros £250,000 o nwyddau gyda’r UE bob blwyddyn. Mae’r cymorth sydd ar gael yn amrywio o wahoddiadau i ddigwyddiadau arbenigol, datrys ymholiadau un-i-un, mwy o fynediad at astudiaethau achos busnes a chanllawiau sector-benodol gan arbenigwyr polisi. I fod yn rhan o’r rhaglen hon bydd angen i chi ateb rhai cwestiynau ar eich busnes a’r nwyddau rydych chi’n eu masnachu. Am...
Bydd y DU yn cynnal 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, Cynhadledd y Pleidiau (COP26) yn Glasgow rhwng 1 a 12 Tachwedd 2021. Mae’r broses mynegi diddordeb i wneud cais i gymryd rhan yn y lleoedd a reolir gan Lywodraeth y DU yn COP26 ar agor nawr, tan ddydd Gwener 5 Mawrth am 17:00. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd megis cynnal digwyddiadau, gosodiadau creadigol a gofod arddangos. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, o £3,000 hyd at £5 miliwn. Bydd y grantiau’n blaenoriaethu prosiectau sy’n cyfrannu at yr adferiad yn dilyn argyfwng y coronafeirws (COVID-19) a hefyd: sy’n hybu’r economi leol yn annog datblygiad sgiliau a chreu swyddi yn cefnogi lles yn creu gwell lleoedd i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn gwella cadernid sefydliad sy’n gweithio ym maes treftadaeth Hefyd, mae’n rhaid i bob prosiect...
Mae’r Sbardunwr Amddiffyn a Diogelwch (DASA) yn cyllido arloesi drwy ddau brif fecanwaith, yr Alwad Agored am Arloesi a Chystadlaethau â Thema. Galwad Agored am Arloesi Mae’r Alwad Agored yn bodoli i gynnig y cyfle i gyflenwyr gyflwyno eu syniadau i randdeiliaid amddiffyn a diogelwch. Mae’r Alwad Agored yn croesawu arloesi sy’n mynd i’r afael ag unrhyw her ym maes amddiffyn, neu arloesedd sy’n mynd i’r afael â heriau diogelwch lle mae Maes Ffocws Arloesi...
Mae’r cyfleoedd diweddaraf ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) a chyflenwyr newydd i ymgysylltu â’r diwydiant amddiffyn wedi’u cyhoeddi gan Dstl (Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn). Mae Dstl yn cynnal 2 weminar ym mis Mawrth i gefnogi ymchwil i wella’r gwaith o amddiffyn a symud cerbydau arfog, heddiw ac i’r dyfodol. Mae’r gweminarau’n cael eu trefnu drwy fenter Searchlight Dstl i gynyddu’r cydweithredu amddiffyn gyda chyflenwyr amddiffyn annhraddodiadol. Dyma ddyddiadau’r gweminarau: 16 Mawrth 2021...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus. P'un a ydych am helpu eich gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn fuddiol i'ch busnes neu ychwanegu talent newydd i'ch tîm, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig llawer o raglenni drwy'r Porth Sgiliau i Fusnes a all gefnogi eich anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant...
Pagination
- Previous page
- Page 148
- Next page