BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1491 canlyniadau

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Wanwyn, a dyma rai o’r pwyntiau allweddol: Estyniad o'r Cynllun Cefnogi Swyddi hyd at fis Medi 2021 ledled y DU. Estyniad o'r cynllun Cymhorth Incwm i’r Hunangyflogedig ledled y DU hyd at fis Medi 2021, gyda 600,000 yn fwy o bobl wedi cyflwyno ffurflen dreth yn 2019-20 bellach yn gallu hawlio am y tro cyntaf. Cynllun Benthyciadau Adferiad newydd ledled y DU i sicrhau bod benthyciadau...
Mae Pitchfest yn cefnogi BBaChau arloesol ac uchelgeisiol yn y DU i fod yn barod am fuddsoddiad a datblygu eu cynigion i fuddsoddwyr er mwyn codi arian. Bydd Pitchfest, sy’n gynnig a gyllidir, yn cefnogi BBaChau arloesol i gyflymu eu cynnydd tuag at ehangu. Dyma’r dyddiadau i wneud cais yng Nghymru: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm 1 Ebrill 2021 Hysbysiad o ganlyniadau ceisiadau: 14 Ebrill 2021 Sesiwn baratoi: Bydd Hyrwyddwr Pitchfest yn trefnu dyddiad...
Dyma gyfle i gymryd rhan yng ngweminar Hive Chwarae Teg lle y bydd cyflogwyr ledled Cymru yn trafod adroddiad diweddar Chwarae Teg, ‘ Cymdeithas yw'r Anabledd’, sy’n ystyried profiadau menywod anabl o economi Cymru. Bydd cyfle i ddysgu am fanteision busnes cyflogi unigolyn ag anabledd dysgu, a chael gwybod sut mae rhaglen y model ‘Ymgysylltu i Newid’ yn gallu cynorthwyo cyflogwyr a gweithwyr sydd ag anabledd dysgu. Cynhelir y weminar ddydd Iau18 Mawrth 2021 rhwng...
Mae Llywodraeth y DU yn rhoi’r gorau’n raddol i werthu ceir a faniau petrol a diesel newydd erbyn 2030, a bydd pob car a fan newydd yn rhai dim allyriadau o’r bibell fwg erbyn 2035. Ymunwch â ni ar-lein lle bydd Innovate UK yn rhoi’r diweddaraf ar raglen ymchwil a datblygu cerbydau dim allyriadau Llywodraeth y DU, ac yn sôn am gyfleoedd cyllido posibl yn y dyfodol. Mae meysydd perthnasol yn cynnwys datblygu technolegau cerbydau...
Daw newidiadau i reolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) i rym ar 6 Ebrill 2021. Os ydych chi’n defnyddio contractwyr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu gyfryngwyr, a’ch bod yn sefydliad canolig neu fawr y tu allan i’r sector cyhoeddus, yna mae angen i chi weithredu i baratoi. Os ydych chi’n cyflenwi contractwyr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu drwy gyfryngwyr eraill, ac nad ydych chi’n asiantaeth gyflogaeth...
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod o ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ledled y byd. Beth am gofrestru am gynhadledd ar-lein undydd am ddim sy’n gobeithio tynnu sylw at y menywod ysbrydoledig di-ri sy’n fodelau rôl ac yn gweithio yn y DU, cefnogi’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr benywaidd drwy weithdai a sesiynau cynghori arbenigol, a chryfhau’r DU fel arweinydd byd o ran arloesedd a chynhwysiant rhywiol. Cynhelir y digwyddiad...
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gynnal ar 8 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n ddiwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Thema'r Diwrnod ar gyfer 2021 yw #ChooseToChallenge Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Newydd: Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnal cyfres o weminarau a sgyrsiau seiberddiogelwch am ddim ar gyfer busnesau o bob maint, sefydliadau addysgol ac elusennau yn y DU. Newydd: Allforio nwyddau o Brydain Fawr i'r UE drwy'r croesfannau byr: Mae gweminar a sesiwn holi ac ateb ar y materion sy'n codi o nwyddau sy'n symud o Brydain Fawr i'r UE, drwy'r croesfannau byr, wedi'u cyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK. Cynnwys...
Ar 1 Mawrth 2021, mae’r gyfraith ar ble gall pobl smygu yng Nghymru yn newid. Golyga hyn y bydd yn ofynnol i dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant fod yn ddi-fwg. Bydd yn drosedd smygu mewn ardal ddi-fwg a gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100. Bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud newidiadau yn y sector twristiaeth hefyd. Ar hyn...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK, wedi lansio’r cyfle nesaf i wneud cais am arian o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd gan fusnesau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyfle arall i ymgeisio am hyd at £40 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr gystadleuaeth Cam 1: Gwanwyn 2021 IETF. Mae’r canllawiau i ymgeiswyr yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud cais am gystadleuaeth Cam...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.